Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau J. E. CAERWYN WILLIAMS, Ysgrifau Beirniadol XI, Gwasg Gee, 1979, £ 4.50. CYFLWYNIR y gyfrol hon o'r gyfres Ysgrifau Beirniadol i'r Dr. T. J. Morgan, gwr a fu'n fawr ei gymwynas i lenyddiaeth, ysgolheictod a beirniadaeth lenyddol ein gwlad. Gwr y cewch werth eich arian o wrando arno neu ddarllen ei lên. Dro'n ôl pan fu'n adolygu un o gyfrolau'r gyfres hon yn y cylchgrawn hwn fe aeth ati i gasglu ystadegau ynglyn â chyfranwyr i'r cyfrolau a nodi pob math o ffeithiau diddorol ynglyn â'r gyfres. Bellach dyma ef ei hun yn ymddangos yn yr ystadegau hynny fel un o'r gwyr amlwg y cyflwynwyd cyfrol iddo er dangos ein diolchgarwch iddo am ei waith dyfal rhwng 1930 a heddiw. Syr Thomas Parry a anrhydeddwyd llynedd ac yn awr Dr. T. J. Morgan. Ceir cyflwyniad campus gan y golygydd ar ddechrau'r gyfrol yn nodi'r pinaclau yng ngyrfa'r Dr. Morgan ac yn pwyso a mesur ei gyfraniadau mewn aml faes. A'r hyn a ddaw i'r amlwg yw 'mor amryddawn ac amryddysg y mae T.J. wedi bod' ysgolhaig a gweinyddwr, ieithydd a llenor, beirniad a chrëwr. Bachgen ysgol oedd y golygydd pan glywodd gyntaf am T. J. Morgan drwy ddarllen yn y papur lleol iddo ennill gradd yn y dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Abertawe. Yn yr ysgol yr oeddwn innau hefyd pan ddeuthum ar draws T. J. Morgan gyntaf. Pan oeddwn yn y chweched dosbarth yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, yr oedd Trwm ac Ysgafn yn un o'r llyfrau gosod y flwyddyn honno a chofiaf yn fyw am y mwynhad a gawsom yn darllen yr ysgrifau yn y gyfrol honno dan arweiniad ein hathro Mr. H. Meurig Evans a threiddiodd brwdfrydedd yr athro i gyfansoddiadau'r disgyblion oll gan mor fyw oedd y gwersi. T. J. Morgan yr ysgrifwr a'r llenor felly y deuthum i i'w adnabod gyntaf ond yr oedd gennyf gefnder yn fyfyriwr yn Adran Gymraeg Coleg y Brifysgol Caerdydd ar y pryd ac felly deuthum i glywed am T. J. Morgan y darlithydd a'r ysgolhaig hefyd. Cefais fwy o'i hanes yn y coleg pan aeth fy chwaer i'r coleg yng Nghaerdydd ac yna, fis Rhagfyr 1952, mewn cyfarfod graddio yn Aberystwyth fe dderbyniais i a T. J. Morgan raddau. Gan na allwn i fynd i seremoni raddio'r haf bu rhaid i mi aros tan fis Rhagfyr i dderbyn B.A. a'm henw i oedd y cyntaf ar y rhestr a'r olaf ar y rhestr yn derbyn D.Litt oedd T. J. Morgan. Derbyniais sawl llythyr swyddogol ganddo o'r Gofrestrfa yng Nghaerdydd a thros y blynyddoedd yr wyf wedi cyfarfod ag ef ddwsinau o weithiau a'i gael yn hynod garedig a boneddigaidd bob amser ac yn barod ei gymwynas a'i gyngor ac yn gwmnïwr diddan a diddorol. Y mae'n llawn deilwng i'w anrhydeddu â'r gyfrol hon a chystal bwrw golwg drosti'n fras i chwi gael blas yr anrhegion a gyflwynwyd iddo. Y mae yn y gyfrol amrywiaeth o feysydd a phynciau o sawl cyfnod yn hanes ein llenyddiaeth ac mae'r ehangder hwn yn gweddu i'r dim i wr â diddordebau mor amrywiol a'r Dr. T. J. Morgan. Da yw gweld ein rhyddiaith yn cael cymaint o sylw gan i'r Dr. Morgan wneud cyfraniadau clodwiw yn y maes hwn dros y blynyddoedd. Yr erthygl gyntaf yw 'Bras Ddosbarthiad ar ein Rhyddiaith' gan Gwyn Thomas a dyma agoriad campus i'r gyfrol. Dechreuir â'r ddogfen gyfreithiol honno o'r wythfed ganrif ynglyn â hawliau tir a gofnodir yn Llyfr Sant Chad ac ymlwybrir yn ddiddorol a threfnus hyd at amrywiol gyfansoddiadau llenyddol yr Oesoedd Canol gan nodi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglyn ag amryw o destunau diarffordd. Dyma arweiniad trefnus a golau i ddeunyddiau Cymraeg o'r wythfed ganrif hyd at yr Oesoedd Canol a hoffwn i awgrymu fod y Dr. Gwyn Thomas yn mynd ati i ddatblygu'r erthygl hon yn gyfrol a fyddai'n gymar i'w lyfr Y Traddodiad Barddol. Y mae angen cyfrol o'r fath yn sicr er mwyn dangos yr amrywiaeth deunydd a'r parhad yn y traddodiad rhyddiaith. Yn y cyfnod presennol y mae dal cof am a fu cyn bwysiced â dim. Gall agor llygaid i fyd o drysorau, creu diddordeb ac awch am wybod rhagor am ein hanes a chreu balchter ynom — peth sydd ei fawr angen y dyddiau hyn a hyder am ddyfodol yr iaith. 'Tynghedfen Peredur' yw pwnc Meirion Pennar, a'r hyn a wna'r awdur yw ceisio mynd i'r afael ag ystyr ac arwyddocâd chwedl Peredur fel y'i ceir yn Llyfr Gwyn Rhydderch ac eir ati i ddadansoddi'r chwedl. Rhestrir y digwyddiadau yn y stori'n drefnus ddigon ond teimlaf ar brydiau fod brwdfrydedd yr awdur a chymhlethdod y pwnc yn cymylu'r traethu ar brydiau ac mewn ambell adran mae gormod o ruthr yn fy marn i a llond cofl o frawddegau'n cael eu tywallt drosom yn un ffrwd ddi-dor. Byr yw'r brawddegau mewn mannau ac mae hynny'n torri ar rediad mwy naturiol adrannau eraill, ond gallaf glywed Meirion Pennar yn traddodi'r erthygl hon fel darlith ac yn cael