Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yw cael yr erthygl i'w hychwanegu at y swm o astudiaethau gloyw o waith y dewin-lenor hwn sydd eisoes mewn bod. Sgwrs i ddisgyblion chweched dosbarth ar y nofel Marged gan T. Glynne Davies a gawn gan John Rowlands. Cwbl addas yw cynnwys hon oherwydd fe wnaeth yr Athro T. J. Morgan gyfraniadau cyson mewn cyrsiau preswyl a chyrsiau undydd i fyfyrwyr y chweched dosbarth ar hyd y blynyddoedd. Nofel hanesyddol yw Marged a rhybuddir ni rhag edrych arni fel dogfen heb fynd at ei chalon fel nofel. Ceir dadansoddiad teg a chytbwys o'r llyfr gan nodi'r beiau mewn cynllun mewn ambell fan a chlodfori ei rinweddau. Rhoir sylw i benodau unigol ond y cyfanwaith a gaiff y sylw mwyaf a dysgwn gryn dipyn am anhepgorion nofel. Ceir budd a boddhad yn yr erthygl ac mae'n enghraifft dda iawn o'r cyfraniadau clodwiw a wneir y dyddiau hyn gan ein llenorion a beirniaid llenyddol i blant yr ysgolion uwchradd. Mawr yw eu braint o gael gwrando ar bobl fel John Rowlands — y prif arholwr ar gyrsiau Cymraeg y Cyd-bwyllgor Addysg yn traethu ac yn cyfeirio'u meddyliau i feysydd ffrwythlon. Dyna'r gyfrol ar ei hyd. Cyfrol raenus yn cynnwys amrywiaeth mawr o astudiaethau, a chyfrol gwbl deilwng i'w chyflwyno i'r Athro T. J. Morgan. Gall fod yn falch o hon, anrheg arbennig iawn ydyw gan ei gyfeillion. ISLWYN JONES BRINLEY RICHARDS, Golwg Newydd ar Iolo Morganwg, Abertawe, 1979. £ 5.50. NID WYF am ail-droi tir a drowyd eisoes, ond serch hynny nid oes modd osgoi cyfeirio at adolygiad Syr Thomas Parry o'r gyfrol hon (Y Faner, Chwefror 29, 1980) ac ateb Mr. Brinley Richards (Y Faner, Mawrth 28, 1980). Ymddengysimi fod cwyn y cyntaf ynerbyn dwyn dulliau'r llys barn i faes ysgolheictod llenyddol yn hollol deg; methiant Mr. Richards i sylweddoli hyn, yn ei ateb yn YFaner yn ogystal ag yn y gyfrol, sydd yn bennaf cyfrifol am iddo gael ei arwain ar gyfeiliorn. Y mae ef yn gwisgo amdano fantell y cyfreithiwr dros yr amddiffynnwr, ond rhag i neb gamddeall, nid ymosodiad ar Iolo a fwriedir gennyf yma, ond i'r gwrthwyneb ceisir cadw iddo ran o'r dreftadaeth lenyddol ddisglair a adawodd inni. Y mae paradocs y tu ôl i gyfrol Mr. Richards: pe bai'n llwyddo i brofi ei achos, byddai ar yr un pryd yn llwyddo i ddwyn oddi ar Iolo lawer o'i arbenigrwydd a chryn dipyn o'i waith hyfrytaf. Yr wyf am fanylu ar un agwedd ar y ddadl yn unig, sef natur a phwysigrwydd y dystiolaeth ieithyddol. Gwelodd Mr. Richards yn glir mai dyma yw craidd y mater, a dywed ar t. 226, 'Onid ar sail praw ieithyddol yn bennaf y cyhuddwyd Iolo o ffugio mwyafrif cywyddau'r Ychwanegiad!' Gwir hyn, ac ni raid edrych ymhellach na'r tudalennau o nodiadau ieithyddol manwl a geir yng nghyfrol G. J. Williams Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad i'w gadarnhau. A gaf i awgrymu fod Mr. Richards wedi methu deall natur y dystiolaeth hon, er iddo ddeall ei phwysigrwydd? Y mae dwy wedd ar y broblem, sef yn gyntaf yr eirfa Ioloaidd, ac yn ail y ramadeg Ioloaidd. Fe brofodd G. J. Williams i'r carn fod yn y cywyddau dan sylw lawer iawn o eiriau nas gwelir yn unman ond yng ngwaith Iolo. Cydnabyddwn yn syth fod geiriau yng ngwaith Dafydd ap Gwilym yntau nas ceir yn unman arall, megis gwalabr(gw. BBCS XXIV. t. 55, lle dywed R. J. Thomas, 'Un o'r geiriau un enghraifft hynny a ddigwydd yn Nafydd ap Gwilym, un o'r hapax chwedl Syr Ifor'), ond y mae'r rhain mor eithriadol o brin nes ein gorfodi i gredu yn syml fod yr 'hapax' yng Nghywyddau'r Ychwanegiad yn deillio o ddychymyg byrlymus Iolo. Ni wna hi mo'r tro o gwbl i ddal mai ffrwyth llawysgrifau coll yw'r eirfa hon: afresymol yw tybio fod methodoleg y geiriadurwr yn gweithio yn iawn at ei gilydd ar gyfer holl gywyddau'r oesoedd, ond yn methu yn wyneb y cywyddau arbennig hyn. Ystyriwn un enghraifft arbennig o'r eirfa Ioloaidd a drafodir gan G. J. Williams a Brinley Richards, sef ernych. Yr wyf yn ofni nad yw'r olaf wedi deall yr ymresymiad a geir yn IMCY t. 15. Deil Mr. Richards fod y gair ar gael cyn amser Iolo yng ngeiriadur Thomas Richards, ac felly nad Inlo piau ef; fel y dywed G. J. Williams, yr ystyr a rydd Richards iddo yw 'to insult' ac o edrych GPC, gwelwn fod enghraifft Richards, a'r dyfyniad a rydd ef, i'w cael mor gynnar â 1707 yn Archaeologia Britannica. Sylwer fodd bynnag mai dan ernychaf: ernych y rhoddir y rhain yn GPC a bod erthygl ar wahân i'r gair ernych fel enw gyda thair enghraifft sydd yn sicr o dan ddylanwad Iolo.