Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pan wyneba Mr. Richards broblem y ffurfiant anghyfarwydd a'r ramadeg 'lafar' (amhosibl yn amser Dafydd ap Gwilym) cais ddadogi'r rhain ar y traddodiad llafar sydd y tu ôl i'r cwbl o gywyddau Dafydd a gadwyd inni. Y mae'n gofyn, ynglŷn â'r ffurfiant 'a 'ngwanas', 'Tybed nad oedd a fynno canrifoedd o draddodiad llafar â'r ffurf anghywir yma?' (t. 163). Gellir dweud yn blwmp 'Nac oedd!' oherwydd ni fu erioed yng Nghymru dafodiaith a fuasai wedi defnyddio'r rhagenwi blaen (yn hytrach na'r rhagenw mewnol) o flaen ffurf ferfol. O roi ffurf lafar i 'a'n 'gwanas' yr hyn a geid fyddai 'gwanas fi'; ni wna hynny'r tro ar gyfer y gynghanedd yn y llinell hon, ac felly rhaid derbyn mai fel y mae hi gan Iolo y'i cyfansoddwyd hi. Rhaid wynebu yn olaf honiad Mr. Richards na phrawf hyn oll fod Iolo wedi cyfansoddi'r cywyddau, ond yn unig ei fod wedi eu trwsio. Mae'r ddadl hon yn gyfrwysgall, a dweud y lleiaf. Ni ellir ei hateb ond ar dir tebygolrwydd: derbynnir yn gyffredinol fod G. J. Williams wedi profi fod yn y cywyddau hyn eirfa a gramadeg sydd yn unigryw i Iolo Morganwg; cofiwn wedyn fod pob un (ond pedwar) i'w cael yn ei lawysgrifau efyn unig. Oni phrofwyd felly y tu hwnt i amheuaeth resymol mai gwaith Iolo ydynt? Yr wyf yn ofni hefyd fod yn rhaid imi ddwyn cyhuddiad yn erbyn Mr. Richards nad oedd wedi ymgydnabod â holl ffeithiau'r achos cyn mynd ati i amddiffyn Iolo. Yn ei ragymadrodd i'r gyfrol hon, y mae'n rhestru gweithgarwch anhygoel Iolo, gan ofyn, 'a oedd eisiau meddwl cyfreithiwr i beri i ddyn holi a gafodd (Iolo) amser i fynd i'r ty bach?' Dylasai wybod fod Iolo eisoes wedi ateb y cwestiwn hwn ei hun, 'you will wonder to hear that a disorder that has for some months greatly tormented and weakened me should turn out to be the stone, but it is true, and has been occasioned by sitting down to the desk for 8 or 9 hours without rising for many days together at the British Museum and other Libraries and retaining the Urine.' (dyfynnir yn Iolo Morganwg t. 215). PATRICK DONOVAN NOEL GIBBARD, Elusen i'r Enaid (Llyfrgell Efengylaidd Cymru, 1979). 67 tt. Pris: 85c. DYFYNIAD o Ragymadrodd Stephen Hughes i waith y Ficer Prichard, Cannwyll y Cymru, ydyw teitl y llyfryn hwn o eiddo Noel Gibbard. Cyfeirio y mae Stephen Hughes at y gymwynas o roi llyfrau da yn llaw dyn. Mae'r teitl yn addas fel crynodeb o fwriad y llyfryn, sef rhoi 'Arweiniad i Weithiau'r Piwritaniaid Cymreig, 1630-1689'. Ar ôl 'Cyflwyniad' byr, sy'n diffinio terfynau'r maes a nodi'r prif gymeriadau, ceir tair pennod: 'Cynnwys y Ffydd', 'Amddiffyn y Ffydd', a 'Cymhwyso'r Ffydd'. Ar gyfer pob pennod mae nodiadau gwerthfawr a chyfeiriadau manwl i'r ffynonellau gwreiddiol. Wrth reswm, bu raid i'r awdur gywasgu ei ddefnyddiau, ac oherwydd hynny mae hyn yn gofyn am ddarllen gofalus a dyfal. Rhydd y bennod ar 'Cynnwys y Ffydd' enghreifftiau o syniadau'r Piwritaniaid Cymreig ar bynciau athrawiaethol, megis Rhagluniaeth, Person Crist, a'r Ddau Gyfamod. Rhoddir mwy o sylw, serch hynny, i syniadau Vavasor Powell (oblegid ei ddaliadau ar berthynas y Ddeddf a'r Credadun) a Morgan Llwyd (oblegid ei ddiwinyddiaeth enigmatig). Perthyn yr ail bennod, 'Amddiffyn y Ffydd', i hanes ymrysonau'r Eglwys, Arminiaeth, y Crynwyr, a Natur Eglwys. Caiff y darllenydd cyffredin dipyn mwy o fudd pan ddaw i'r bennod olaf, 'Cymhwyso'r Ffydd', lIe y trafodir cyfraniad y Piwritaniaid i hyfforddiant ac adeiladaeth y credadun. 'Roedd y cyfnod yr ymdrinnir ag ef yn y llyfryn yn gyfnod cynhyrfus, yn wleidyddol a chrefyddol: dyma oes Cromwell a Deddf Anghydffurfiaeth. Ynghanol y berw ysbrydol, diwinyddol ac enwadol hwn, ffurfiwyd 'y meddwl Piwritanaidd' a phenderfynwyd cymeriad y Piwritan clasurol. Un ydoedd ef o osgo ddifrifol ac argyhoeddiad dwys, yn rhodio ynghanol syniadau Beiblaidd a disgyblaeth fanwl, yn ddiarhebol am ei uniongrededd diogel. 'Roedd ei bwyslais yn gadarn ar Feibl awdurdodol a phregethu efengylaidd, a hynny cofier gyda chanlyniadau ymarferol bob amser, gyda chanlyniadau costus yn aml. Rhaid gofyn a oedd rhai o'r Piwritaniaid Cymreig yn deilwng o'r enw: Morgan Llwyd, er enghraifft, a'i gyfriniaeth fympwyol; Vavasor Powel a'i antinomiaeth athrawiaethol; y ddau' ar gyfrif eu eschatoleg lythrennol. Yn hyn o beth, byddai tudalen o ddiffiniad i'r gair 'Piwritan', a thudalen arall o gefndir hanesyddol a diwinyddol, wedi bod o gymorth i'r darllenydd; felly hefyd baragraff bywgraffyddol ar yr awduron perthnasol, ac ymgais i asesu eu cyfraniad. EIFION EVANS.