Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerdd CERDD OFYDD 1 Criw heini'r craeniau yn nwyfiant Constantsa, yn ei harbwr yn ddiarbed i'r nen yn codi eu pennau nawr â hwyl baneri islaw'r piatsa lathr a roed ar ei enw ac er cof am Ofydd. Ei dâl a'i achos ar bedestl uchel: Ffigur yn argraff agwedd ymafael â myfyr gwr wrth gerdd,- ei ben yn crymu beth, ei law dde'n meddwl o ddal yn nawdd o dan ei ên, a'i law chwith yn cynnal chwaeth ei fryd ar draws ei frest, a chael ei droed chwith, ei esgid a'i osgedd mwy a'i lun ymlaen yn y sefyll, a'r safiad yn faen o benderfyniad. Yna'r criw heini o'r craeniau'n aneirif eu baneri lliw-mwyniant yn llumanu. 2 Mae'n dro ara ei boen ym mhen-draw'r byd,- y dirasu yn dynghedu i gadw'n ddarostyngedig o ryfyg y pall a diffyg pwyll, yn rhwyfus ymhell o Rufain: