Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Canmlwyddiant geni R. T. Jenkins MAE'N rhyfedd meddwl nad oedd Hanes Cymru fel pwnc astudiaeth ddifrif, ysgolheigaidd ddim yn bod pan anwyd R. T. Jenkins ganrif union yn ôl ar y 31ain Awst 1881. A rhyfedd eto na chyhoeddwyd dim o waith y gwr a oedd i'w benodi ym 1930 yn bennaeth cyntaf adran Hanes Cymru Coleg Bangor, hyd y flwyddyn 1916 pan ymddangosodd ei ysgrif ar 'Y Chwyldroad Cymdeithasol yng Nghyfnod y Tuduriaid' yn Y Beirniad. Rhyfeddach fyth yw'r ffaith mai ar ddamwain bron y tyfodd yn hanesydd o gwbl ac y datblygodd yn y man yn arbenigwr ar hanes Methodistiaeth ac Ymneilltuaeth yn y ddeunawfed ganrif. Bu'n astudio hanes, wrth gwrs, ond iaith a llenyddiaeth Saesneg oedd ei ddiddordeb pennaf yn y brifysgol, ac yn y pwnc hwnnw yr enillodd ei radd yn Aberystwyth ac yng Nghaergrawnt. Gallasai fod yn ieithegydd. Nid ar gorn ei gymwysterau swyddogol arbenigol y penodwyd ef i'w swydd gyntaf i ddysgu Lladin a Groeg a Ffrangeg a Chymraeg dros dro yn Llandysul, ac nid cyn iddo ymsefydlu yn Aberhonddu y cafodd gyfle i arfer ei ddawn fel athro hanes. Bu yno am dair blynedd ar ddeg heb erioed ystyried y Diwygiad Methodistaidd fel maes ymchwil. Yr Oesoedd Canol a ddenai ei fryd yn y cyfnod hwnnw, ac am flynyddoedd wedyn, mi dybiaf, yng Nghaerdydd, a'r gyfundrefn ffiwdal oedd nod ei ymchwil. Ar ôl i'w dewis cyntaf eu siomi, y penderfynodd golygyddion Cyfres y Brifysgol a'r Werin wahodd R. T. Jenkins i sgrifennu'r gyfrol ar Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif. Yn anfoddog iawn y derbyn- iodd yntau'r gwahoddiad am na allai seilio'i lyfr, meddai fo, ar ffrwyth ei ymchwil personol. Ond dyma'r llyfr a sicrhaodd iddo ei le fel ein prif awdurdod ar y ganrif hynod honno yn hanes Cymru ac a bennodd gwrs ei yrfa ddisglair fel hanesydd am weddill ei oes. Rhyfedd meddwl ei fod yn tynnu at ei hanner cant oed pan gyhoeddwyd y campwaith bychan hwnnw. Wrth ddathlu canmlwyddiant ysgolhaig o fri fel R. T. Jenkins, mae'n debyg y disgwylir inni bwyso a mesur gwerth a phwysigrwydd ei gyfraniad i'w bwnc yn ei genhedlaeth. Go brin y gallaf i fentro gwneud hynny yn wrthrychol, oherwydd nid oes gennyf unrhyw gymhwyster i draethu ar ei faes arbennig ef, ac ar ben hynny byddai'r berthynas bersonol agos a fu rhyngom yn sicr o liwio fy marn. Ond gallaf nodi yn ddibetrus nifer o ystyriaethau y dylem bawb gofio amdanynt wrth edrych yn ôl heddiw ar y gwaith mawr a gyflawnodd yn ystod ei oes hir. Os, er enghraifft, yn hwyr y dydd, fel yr ymddengys, yr enillodd R. T. Jenkins ei Ie fel hanesydd Cymreig proffesiynol bydd yn dda inni gofio ei fod wedi mwynhau hyfforddiant prifysgol mewn cyfnod pryd nad oedd yr addysg uwchradd mor llethol gyfyng ac arbenigol ei nod ag ydyw heddiw, a phryd yr oedd Prifysgol Cymru yn sefydliad newydd iawn. Nid peth anghyffredin yn y dyddiau hynny oedd i ddyn ymddisgleirio wedyn mewn meysydd gwahanol iawn i'r hyn a fu'n bennaf pwnc astudiaeth iddo ar gyfer ei radd, fel y tystia John Morris-Jones a W. J. Gruffydd. Bu R. T. Jenkins yn athro ysgol am chwarter canrif ar ôl ymadael â Chaergrawnt, ac mae'n anodd gennyf gredu mai ar ddamwain yr ymddiriedwyd iddo hanes yn brif bwnc ei ofal yn Aberhonddu ac yng Nghaerdydd. Drwy'r holl flynyddoedd hyn, ni pheidiodd â bod yn efrydydd