Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Syr Ifor Williams 16 Ebrill, 1881 5 Tachwedd, 1965 FEL y dengys y dyddiadau uchod, ganed Syr Ifor Williams gan mlynedd yn ôl. Gofynnwyd i mi ysgrifennu am ei waith ysgolheigaidd, ond petawn yn mynd ati o ddifrif i wneud hynny, cymerai gyfres o ysgrifau, oblegid nid wyf yn meddwl fod yr un ysgolhaig o Gymro erioed wedi gadael ar ei ôl gorff o waith sydd i'w gymharu â'i eiddo ef o ran maint, ansawdd a phwysigrwydd. Meddylier am swm ei gyhoeddiadau. Heblaw ei lyfrau Breuddwyd Macsen Wledig, Cyfranc Lludd a Llefelys, Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr (ar y cyd â Thomas Roberts, Coleg y Normal), Dafydd Nanmor (ar y cyd â T. Roberts, Porth-y-Gest), Cywyddau Iolo Goch ac Eraill (ar y cyd â Thomas Roberts a Henry Lewis), Chwedlau Odo, Pedeir Keinc y Mabinogi, Canu Llywarch Hen, Canu Aneirin, Lectures on Early Welsh Poetry, Enwau Lleoedd, Meddwnl, Armes Prydain, Canu Taliesin, I Ddifyrru'r Amser etc.- cyfrannodd i gylchgronau fel Wales, Yr Efrydydd, Y Beirniad, Y Brython, Archaeologia Cambrensis, Y Genhinen, Y Goleuad, The Transactions of the Anglesey Antiguarians and Field Club, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, The Welsh Review, Y Tyddynnwr (a olygai gyda Robert Richards), Y Traethodydd (y bu'n un o'i olygyddion am tua 35 mlynedd), ac yn bennaf oll The Bulletin of the Board of Celtic Studies y cylchgrawn y bu'n olygydd ei Adran Iaith aLlên am gyfnod a chwedyn yn brif olygydd arno, a chylchgrawn y gellir dweud na fyddai wedi ei gychwyn oni bai amdano ef. Ac ystyried yr ysgrifennu'n unig, golygodd y cyfraniadau hyn lafur enfawr i Syr Ifor. Cofiaf ei fod pan oedd wrthi'n ysgrifennu Canu Aneirin yn gwisgo rhywbeth fel gwniadur rhwber ar ben trydydd bys ei law dde oherwydd fod yr ysgrifennu cyson yn tueddu i godi corn. Ond, wrth gwrs, nid oedd y llafur corfforol yn ddim byd wrth y llafur ymenyddol a aeth at gyfansoddi'r llyfr hwnnw. Efallai ei bod yn wir dweud fod deuparth cynnwys ysgrifeniadau Syr Ifor yn ddyfyniadau yn rhoi enghreifftiau o ddefnyddio geiriau ac yn gyfeiriadau at rif tudalen a llinell, ac fel y gwyr y neb sy'n gyfarwydd â'r math hwn o waith, y mae'r safon cywirdeb a ddisgwylir yn gofyn canolbwyntio aruthrol, ac yn hyn o beth oni cheir cywirdeb, y mae gwerth y cwbl yn mynd i golli. Ond rhag i'r anghyfarwydd feddwl mai gwaith mecanyddol fel copïo enghreifftiau a chasglu cyfeiriadau yw crynswth cyfraniadau Syr Ifor, gadewch i mi frysio i ddweud nad wyf yn gwybod am waith unrhyw ysgolhaig Cymraeg arall sydd mor wreiddiol â'i waith ef. Ceir rhai ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ardderchog drwy gyfundrefnu gwybodaeth a'i throsglwyddo i eraill, pigo ffeithiau a ddarganfuwyd gan ysgolheigion eraill a'u rhoi mewn patrwm arwyddocâd newydd, h.y., y maent yn treulio eu hamser nid i chwilio am ffeithiau newydd ac nid i ddatrys problemau, ond i roi ffeithiau hysbys mewn trefn newydd, trefn amgenach naill ai o safbwynt eu deall neu o safbwynt gweld eu harwyddocâd.