Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr hawl i ymyrryd Ymwneud y Llenor ag achos Tom Nefyn I Ym mis Awst 1928, diarddelwyd y Parch. Tom Nefyn Williams, gweinidog capel M.C. Ebenezer, y Tymbl, ar ôl gwrthdaro chwerwfoneddigaidd rhyngddo efa'r Corff ar faterion cred. Datgorfforwyd yr eglwys y bu'n fugail arni er 1925, ac nis derbyniwyd yn ôl i'r Cyfundeb tan 1931. Y cwestiwn a gyfyd yw paham y bu i'r Llenor, cylchgrawn cydnabyddedig lenyddol, ymddiddori i'r fath raddau mewn mater mor gyfyng ei apêl, mor arbenigol ac yn wir mor blwyfol â hwn? Paham y teimlai W.J. Gruffydd ac eraill reidrwydd arnynt i droi oddi ar bynciau mwy cyffredinol er mwyn arddel perthynas â gweinidog ifanc Methodistaidd nas adwaenid yn bersonol gan yr un ohonynt? Ac yn rhyfeddach fyth, pa gyfiawnhad a welent dros herio cyffes ffydd Eglwys nad oedd yr un ohonynt (ac eithrio Jenkyn James ac efallai R. T. Jenkins) yn aelodau selog ohoni? Wrth geisio ateb rhai o'r cwestiynau hyn, gobeithiaf daflu peth goleuni ar werthoedd sylfaenol rhai o brif lenorion y cylchgrawn nodedig hwn. Na feddylier nad oedd Achos Tom Nefyn yn bwnc llosg yng ngholofnau'r wasg grefyddol Gymraeg. Rhagwelwyd mor gynnar â mis Ebrill 1928, pryd y trafodwyd daliadau Tom Nefyn am y tro cyntaf yng Nghymdeithasfa Treherbert, nad oedd llwybr arall yn agored i'r pwyllgor dethol a benodwyd i ystyried ei achos. Fel y nododd un gohebydd di-enw yn Y Goleuad ar y deunawfed o'r mis: Yn ôl popeth a glywais ac a welais ar ôl y Gymdeithasfa, ceir unfrydedd hollol fod yr hyn a wnaed yn Nhreherbert yn anocheladwy. Nid oes unrhyw Eglwys a allai dan unrhyw amgylchiadau, roddi ei phulpud yn agored i neb a wadai ei hathrawiaethau sylfaenol, ac er i rai, o safleoedd cyfrifol, yn rhai o Eglwysi eraill Cymru, wneud datganiadau amheus ac anffodus ymlaen llaw, ni allant bellach lai na chydnabod fod eu safle yn hollol ansafadwy. Ond serch y ffaith mai fel mater disgyblaethol enwadol hollol yr edrychid ar dramgwydd honedig Tom Nefyn yn wythnosolyn swyddogol y Corff, yr oedd rhai 'o safleoedd cyfrifol' a ddaliai fod i'r penderfyniad amodol a wnaed yn Nhreherbert ehangach arwyddocâd gan gynnwys aelodau'r Pwyllgor eu hunain. Tri phenderfyniad y Pwyllgor oedd: (1) fod syniadau Tom Nefyn, yng ngeiriau'r Cadeirydd Dr. Owen Prys, 'yn hollol anghyson â safonau y Cyfundeb ac â Ffydd Hanesyddol yr Eglwys Gristnogol.' (2) y dylid caniatáu amser pellach i Tom Nefyn i ailystyried ei safiad. (3) y dylid gofyn iddo ymddiswyddo oni allai gyd-fynd â safonau'r Corff erbyn y Sasiwn nesaf. Fe welir o edrych ar y gosodiad cyntaf uchod nad mater cyfundebol a chyfansoddiadol pur oedd dan sylw fel yr awgrymwyd gan ohebydd Y Goleuad. Cyhuddwyd Tom Nefyn o fynd yn groes i hanfodion y Ffydd Gristnogol yn ogystal â thorri rheolau'r Cyfundeb. Amwysedd anorfod ydoedd am na allai'r