Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llawlyfr I ac A FWY na deugain mlynedd yn ôl, yn Llenor Hydref 1937, cyhoeddwyd llith gan T. J. Morgan, 'Llawlyfr Iaith ac Arddull,* a oedd yn dechrau fel hyn: Un o'r cystadleuthau yn rhaglen Eisteddfod Caerdydd yw ysgrifennu llawlyfr yn Gymraeg ar wedd Modern English Usage H. W. Fowler. Myfi a'i cynigiodd yn y Pwyllgor Llên, a chan fy mod yn hollwybodol ac yn un caredig iawn, ac yn cadw Fowler wrth fy mhenelin bob amser, meddyliais nad drwg o beth fyddai i mi, yn fy mawr haelioni, gynorthwyo'r cystadleuwyr drwy awgrymu ar ba linellau y dylid paratói'r llawlyfr a pha ddefnyddiau y dylid eu rhoi ynddo. Os yw fy nghof i'n gywir, ni chynigiodd neb ar y gystadleuaeth honno, a chof cywir neu beidio ni chaed dim ffrwyth cyhoeddedig iddi. A'r un canlyniad a fu i gystadleuaeth gyffelyb, a aeth yn un o destunau arbennig Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn sgîl Eisteddfod Dolgellau 1949. Myfi a gynigiodd y testun i'r Pwyllgor Llên y tro hwnnw, a chystal cyfaddef fy mod yn teimlo i'r Cyngor ddifetha'r gystadleuaeth drwy ei chwyddo'n destun tair blynedd a dewis tri o ysgolheigion y Brifysgol yn feirniaid: nid bod gennyf ddim yn erbyn y tri arbennig hynny, ond fy mod innau (a Phwyllgor Dolgellau gyda mi) wedi gofalu enwi dau feirniad, y naill yn ysgolhaig nad oedd yn bedant, a'r llall yn llenor nad oedd yn ysgolhaig. 'Rwy'n dal i gredu fod angen y llenor-nad-ysgolhaig arnom i ddweud pa mor ddefnyddiol yw'r llyfr, ac efallai y cawsem gystadleuaeth pe cawsem feirniaid llai sylweddol. Eto, tybed a ddylid disgwyl i gystadleuaeth esgor ar lyfr fel yr un yr oedd T. J. Morgan a minnau'n dymuno'i weld? Yn un peth, ni ellir meddwl am feirn- iad gwir gymwys na fyddai'n well ganddo (ac yn well iddo) lunio'r llyfr ei hun na beirniadu'r gystadleuaeth. Dyma'n anad un y math o lyfr a ddylai fod yn llafur cariad llenor hamddenol nad yw'n rhy hedegog ysbrydoledig i oddef manylu am rywbeth y gellir ei gyfrif yn gywirdeb, nac yn rhy fanwl ysgolheigaidd i fod yn ddiwylliedig. Mewn gair, i rywun fel T. J. Morgan, ac yr wyf am ddannod iddo frawddeg olaf y paragraff y dyfynnais ei ddechrau gynnau: A dweud y gwir, dyma'r math o lyfr y carwn i fy hunan ei ysgrifennu, ac, a bod yn ddigywilydd o falch, y math o beth yr ydwyf yn ffansïo y gallwn wneuthur camp ohono. 'Wn i ddim a oes gobaith codi awydd ar T.J. i fynd ynghyd â'r llyfr yma, na gobaith iddo gael hamdden i fodloni'r awydd er cymaint o ddefnydd ato sydd ar gael eisoes, heb angen ond ei gywain i'r ysgubor o feysydd helaeth ei adolygiadau a'i erthyglau amrywiol a'i lyfr Y Treigladau a'u Cystrawen. Efallai wedi'r cwbl mai trwy gywaith yn unig y gellir gobeithio cael llyfr o'r fath yn Gymraeg, am mai iaith cenedl fach yw'r Gymraeg. Petasai Fowler yn Gymro, ni chawsai lonydd i arbenigo ar drin geiriau: buasai'n sicr o orfod cyfrannu at Bwriadwyd cyhoeddi'r erthygl hon yn Ysgrifau Beirniadol, xi, yn un o'r erthyglau teyrnged i'r Athro T. J. Morgan. Yn anffodus, nid oedd lle iddi yno, a chyda chennad yr awdur fe'i cyhoeddir yma.