Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

William Williams o'r Wern (1781-1840) ELENI yw daucanmlwyddiant geni Williams o'r Wern.1 Yr oedd heb amheuaeth yn un o bregethwyr mawr trydedd don y Diwygiad Efengylaidd. Cydoesai â John Elias (1774-1841), Henry Rees (1798-1869), John Jones Tal-sarn (1796-1857), Christmas Evans (1776-1838), ac, wrth gwrs, neb llai nag Ann Griffiths (1776-1805), er nad 'pregethwraig' fel y cyfryw ydoedd hi fel y gwyddys yn burion. Hwynt-hwy, ond odid, oedd cynrychiolwyr gorau patrymau meddwl diwinyddol uniongred y 18 ganrif ar droad y ganrif ddiwethaf. Dichon mai athrawiaeth y traddodiad Awstinaidd-Galfinaidd uniongred a goleddai Williams i bob pwrpas, ac nid cwbl anfuddiol o bell ffordd yw i ni ddau can mlynedd yn ddiweddarach neilltuo cornel fechan o'n meddyliau i gofio amdano ac yntau yn ôl ei gofiannydd cyntaf 'yn un o'r sêr dysgleiriaf a lewyrchodd yn ffurfafen eglwysig' Cymru y dwthwn hwnnw oblegid 'ei bregethau nerthol ac efengylaidd'. Ganed Williams yn Cwm-hyswn-ganol ym mhlwyf Llanfachreth, sir Feirionnydd. Ei rieni oedd William a Jane Probert (ap Robert?) a bu iddynt saith o blant William oedd eu chweched plentyn. Nid oes cofnod yn aros am ddydd ei enedigaeth ond gwyddys ddarfod ei fedyddio yn eglwys blwyf Llanfachreth 18 Tachwedd, 1781. Er bod ei fam yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd nid oedd ei dad tyddynnwr a saer coed wrth ei grefft yn gysylltiedig ag unrhyw enwad penodol ar waethaf y ffaith ei bod yn arfer ganddo wrando ar bregethu'r Efengyl. Yn 13 oed aeth Williams i wrando ar y Parch. Rees Davies yn pregethu yn ffermdy Bedd-y-Coedwr a dyna'r adeg pryd yr argyhoeddwyd ef o'i gyflwr.2 Mynychai eglwys yr Annibynwyr ym Mhen-y-Stryd, Trawsfynydd, a derbyniwyd ef yn aelod cyflawn o'r eglwys hon pan nad oedd ond prin bymtheg oed! Gweinidog yr eglwys oedd y Parch. William Jones ac ef oedd yr un a ddysgodd Williams i ysgrifennu. Dywed Gwilym Hiraethog yn y Cofiant i Williams ei fod yn aelod ymrwymedig o'r eglwys ym Mhen-y-Stryd, yn wir, yr oedd yn nodedig o ffyddlawn, diwyd ac ymdrechgar gyda moddion gras: anfynych iawn y byddai na phregeth na chyfarfod gweddi, na chymdeithas grefyddol mewn un man yn y gymdogaeth heb ei fod ef yno. 3 Wedi cyfnod o dywyllwch ac amheuon parthed ei gadwedigaeth sicrhawyd ef ymhen yrhawg o'i alwad neilltuol i bregethu'r Efengyl a hynny drwy fynych weddïo am oleuni ac arweiniad dwyfol. Dechreuodd bregethu gerbron y gynulleidfa ym Mhen-y-Stryd yn ogystal ag mewn tai hwnt ac yma yn y gymdogaeth 'gyda mawr dderbyniad a chymeradwyaeth'.s Diau ei fod wedi'i ddonio â'r grasusau angenrheidiol ar gyfer gweinidogaeth rymus ac effeithiol gan nad oedd y pryd hwn namyn llencyn yn ei arddegau. Aeth i'r ysgol yn Aberhafesb ger y Drenewydd am wyth i naw mis cyn cychwyn am yr Athrofa yn Wrecsam ac yntau bellach yn 22 oed. Ei athro yno oedd Jenkin Lewis. Eithr oblegid diffyg paratoad digonol, yn enwedig mewn Saesneg, wynebodd anfanteision addysgol, a dywed ei gofiannydd: