Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau NOEL A. GIBBARD (gol.), Ysgrifau Diwinyddol 1 (Gwasg Efengylaidd Cymru) 122 tt. £ 2.00. CEIR saith ysgrif yn y gyfrol hon ac adolygiad ar Efrydiau Beiblaidd Bangor 3 gan Cecil H. Jenkins, a gellir gweld tri gogwydd, diwinyddol, hanesyddol ac athronyddol yn yr erthyglau. Mae'r bennod gyntaf ar 'Athrawiaeth y Creu' gan Gwynn Williams yn gymysgedd ryfedd iawn o gamgymeriadau ffeithiol a dadleuon amrwd a phlentynnaidd. Bodlonaf ar ddwy enghraifft. Byddai'r syniad astrus a haniaethol o greu ex nihilo yn gwbl annealladwy i hen drigolion y Dwyrain Agos. Mae'r mythau cynnar i gyd, gan gynnwys rhai yr Hethiaid, yr Eifftiaid, y Babiloniaid a'r Hebreaid, yn trafod y creu yn nhermau hollti a threfnu y tryblith didrefn. Sylwer ar y ferf 'gwahanu' yn Genesis 1. 'Pan ddechreuodd y byd,' medd yr awdur, 'nid oedd yr un gwyddonydd yno i'w astudio gyda'i feicrosgop, na'r hanesydd i gofnodi dilyniant y digwyddiadau, na'r un criw teledu i wneud ffilm o'r achlysur ond 'roedd Duw yno, a dyma ei ddatguddiad ef o'r hyn a ddigwyddodd. Mae diwinydda ar y raddfa hon yn bradychu diffyg rhesymeg ac yn waeth na hynny ddiffyg ymdeimlad o ddirgelwch a rhyfeddod am Dduw a'i greadigaeth. Ond mae gan yr awdur bethau defnyddiol i'w dweud am oblygiadau ymarferol yr athrawiaeth. Yn yr ail bennod 'Gweinidogaeth y Gwragedd yn yr Eglwys' ceir trafodaeth fanwl ar sail dysgeidiaeth y Testament Newydd gan W. John Cook. Ond gan fod y gwragedd o ddyddiau Mrs. Pankhurst ymlaen wedi ymladd yn galed i ennill hawliau cyfartal â'r gwyr, a chan fod llawer ohonynt erbyn hyn yn cael eu hordeinio i gyflawn waith y Weinidogaeth mewn sawl cangen o'r Eglwys Gristionogol, ymddengys y bennod hon fel un o'r ffosiliau y sonnir amdanynt yn y bennod gyntaf. Hanesyddol yw gogwydd cyfraniad Noel A. Gibbard 'Yr Annibynwyr a Chredo' ac erthygl R. Geraint Gruffydd 'Gwrando ar Charles Edwards'. Mae'r ddwy ysgrif yn rhoi blas a gwerth ar y gyfrol, a hynod ddiddorol a phwysig i'm tyb i yw dadansoddiad Geraint Gruffydd o fywyd mewnol Charles Edwards a'i allu i feddwl drwy ddelweddau. Daw'r tair erthygl arall i mewn i gategorïau Diwinyddiaeth Athronyddol ac Athroniaeth Crefydd: 'Epistemeg Gristnogol' gan J. Elwyn Davies, Beth yw'ch Rheswm?' gan Bobi Jones a 'Hegel' gan John Glyn. Mae'r ysgrif olaf ar Athroniaeth Hegel, ei ddylanwad a'r gwahaniaethau rhyngddo a Marx yn wirioneddol werthfawr. Byddai rhagor o erthyglau a llyfrau o'r math yma yn ymdrin â meddylwyr mawr y gorffennol yn cyfoethogi ein llenyddiaeth grefyddol yn ddirfawr. Brysied John Glyn at ei deipiadur yn fuan eto. Braidd yn llawdrwm ar y dyn anianol a'i reswm 'llygredig' yw'r ddwy ysgrif arall, ac os yw Syr Alister Hardy i'w gredu, gwyddonydd a fentrodd i faes profiadau crefyddol, mae homo sapiens hefyd yn homo religiosus, a'i gynneddf grefyddol yn amod ei barhad corfforol. Nid hunanhyder na sicrwydd sy'n nodweddu'r gwyddonwyr na'r diwinyddion bellach, ond ansicrwydd a gostyngeiddrwydd a'r naill wersyll yn fodlon i wrando ar y llall. Arwyddocaol iawn, 'rwy'n meddwl, yw'r ffaith fod David Bohm, cyfaill a chyd-lafurwr i Einstein ar un adeg, wrth gyflwyno yn ddiweddar ei gyfrol newydd wyddonol, The Implicate Order and Wholeness, wedi sôn am grefydd, 'Religion is wholeness'. Coleg Prifysgol Cymru ISLWYN BLYTHIN Aberystwyth D. BEN REES, Pregethwr y Bobl: Bywyd a Gwaith Dr. Owen Thomas (Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf,: Lerpwl a Phontypridd, 1979) tt. 333. Pris £ 5. DYMA'R ail gofiant a ysgrifennwyd i Dr. Owen Thomas, neu, fel yr adwaenid ef yn nyddiau ei fri, Dr. Owen Thomas, Lerpwl. Cafwyd y cyntaf gan y Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon) yn y flwyddyn 1912, un mlynedd ar hugain ar ôl marw Owen Thomas (1812-1891). Rhannwyd hwnnw'n bedair rhan ('Gwawr a Boreu Bywyd Dr. Thomas', 'Pregethwr ac Efrydydd', 'Y Parch. Owen Thomas yn Hydref ei Oes', 'Adgrynhoad'), ac yn bedair pennod ar hugain, ac ymestynnai'r cwbl yn 531 tt. Rhaid na fu gwerthu mawr arno oblegid gostyngwyd y pris o 7/6 i 3/6 yn fuan. Ymddengys fod yr awdur yn ymglywed ag un diffyg, o'r hyn lleiaf, yn ei waith, sef diffyg crynoder. Meddai ar d. 262: Gwelaf fod y bennod hon yn ymestyn yn faith ac yn gynnwysedig, fel y mae, o ddarnau lled-ddigysylltiad, ond yr wyf yn gobeithio y gwelir yn treiddio drwyddi fath o unoliaeth amcan unoliaeth amcan i osod ger bron amrywiol ddulliau a neillduolion y pregethwr enwog, er mwyn y rhai na chlywsant ef. Y mae'r hyn sydd wir am y bennod 'Pa fath bregethwr oedd?' yn wir i raddau mwy neu lai am y penodau oll. Dilynodd Iolo Caernarfon ddull arferol ei oes o gofiannu, fel y dilynodd Dr. Rees ddull