Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Machlud Y Llenor Y TRO y daeth y diweddar Bleddyn Roberts i ddarlithio yn Abertawe un peth a oedd yn ei boeni oedd fod ei ddarlith yn barod ond ei fod heb lwyddo i gael testun addas. Soniodd beth oedd thema ei ddarlith, a'm hateb i oedd 'Machlud Samaria'. A hynny a argraffwyd ar y posteri. Hawdd iawn yw addasu hynny at y sylwadau hyn, gan fy mod am esbonio sut y darfu'r Llenor. Yr oedd fy enw i wedi ei argraffu ar glawr y cylchgrawn a chystal dweud ar unwaith mai myfi oedd wedi bod yn gyfrifol ers amser casglu'r defnyddiau, dewis adolygwyr, darllen y proflenni ac yn y blaen. Yr oeddwn wedi bod yn gyfrifol am YLlenor un tro cyn hyn, yr adeg yr oedd W. J. Gruffydd yn Ysbyty Llandochau. Yr oeddwn i yn y Gwasanaeth Sifil ar y pryd, ac er nad oedd petrol i'w gael fe lwyddais i fynd draw i'r Ysbyty i'w weld. Yr oedd Gruffydd yn cael triniaeth at rywbeth yn ei geg a'i sinus ac yr oedd, a dweud y gwir amdano, yn dost iawn, mor dost nes iddo yn ei wendid ac iselder ei ysbryd ofyn i mi a fyddwn i'n fodlon gofalu am YLlenor, ac os yw'r cwestiwn yn dod i feddwl neb, sef pam na fuasai wedi troi at Griffith John Williams, yr ateb yn syml oedd nad oedd fawr o ffrendshipiaeth rhyngddynt, ac arfer gair cellweirus Parry-Williams, er nad oedd hynny yn fater cyhoeddus ar y pryd; fe gewch weld pam hynny cyn diwedd y llith hon, ond gwell dweud nad oedd y mater wedi taro ar fy meddwl i. Cyn imi ymadael â'r Coleg dros dro fe fyddwn i a Griffith John a Gruffydd yn treulio un noson yr wythnos gyda'n gilydd yn gwylio rhag tân a bomiau ac yn cael eistedd gyda'n gilydd mewn ystafell gyfforddus ac yn ceisio lladd yr amser drwy sgwrsio am hyn a'r llall, ond ni ddaeth dim-yw-dim o enau Griffith John: eisteddai fel delw heb yngan gair o'i ben. Un rheswm am hyn oedd fod Mrs. Williams yn ddig am fod Saunders Lewis ar y dechrau wedi derbyn cefnogaeth Gruffydd, ac erbyn y tri-degau yr oedd Gruffydd wedi ei anghofio'n llwyr i roi un o'r rhesymau. Pan ddeuthum i yn ôl i'r Coleg yn 1945 gofynnodd Gruffydd imi ei helpu gyda'r Llenor, ac er fy mod yn cofio am Griffith John a'i hawl i'r etifeddiaeth, fe gytunais a chyn hir ymddangosodd fy enw ynghyd ag enw'r prif olygydd. Yn y cyfamser myfi a oedd yn delio â'r cyfan ond fod Gruffydd yn cyfrannu nodiadau golygyddol. Bu etholiad 1945 yn gyfle i mi i ddod yn rhydd o'r Gwasanaeth Sifil er fy mod o dan reidrwydd i barhau nes bod dynion o'm hoedran yn cael eu rhyddhau o'r Lluoedd Arfog. Ac os cofiaf yn iawn, golygai hyn fod disgwyl imi aros hyd Fis Bach 1946, a phetai'r Gwasanaeth Sifil yn mynnu fy nghadw yn hwy yr oedd modd iddynt wneud hynny. Yr etholiad a Gruffydd gyda'i gilydd a'm cafodd yn rhydd rywbryd cyn yr etholiad. Fe fu'r penaethiaid am beth amser yn anfodlon iawn fy rhyddhau, ond wedi cael fy nghytundeb i'r peth fe anfonodd Gruffydd lythyr at yr awdurdodau i roi gwybod iddynt mai myfi fyddai ei ysgrifennydd etholiadol ni allaf oddef y gair asiant a thrwy hynny y cefais ddod yn rhydd. Gan fod y penaethiaid yn gweld fy mod i fel 'cath wrth ei chwt' cefais lythyr yn dweud fy mod yn cael fy rhyddhau yn gyfan gwbl; bûm yn ysgrifennydd i Gruffydd yn ystod yr etholiad.