Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cywydd Y Cloc PWRPAS yr ysgrif hon yw trafod clocyddiaeth y bedwaredd ganrif ar ddeg gyda golwg ar y disgrifiad a'r dyfalu a geir yng 'Nghywydd y Cloc'. Heb wybod nemor ddim am lenyddiaeth Gymraeg y cyfnod ond a barnu yn unig oddi wrth y cynnwys, fe'i caf i hi'n anodd credu fod neb mor gynnar â Dafydd, yma yng Nghymru, wedi gweld cloc y cywydd. Hyd y gwn i, yr unig un sydd wedi nodi rhyfeddod y cywydd, o'i briodoli i Ddafydd, yw Peate. Y mae ef wedi awgrymu mai rhywbeth ail law wedi'i gael gan y Ffrancwr, Froissart, oedd y cloc i Ddafydd. Ni allaf i dderbyn hyn am fod y disgrifiad a'i arwyddocâd, y naill fel y llall, yn wahanol yng ngherdd Froissart. Dyma a ddywed yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain am glociau mecanyddol: The first clock of which we have reliable knowledge is one which was set up in Milan in 1335 and there are fairly reliable records of three other clocks in Italy before 1350. From the result of recent researches, it appears that from this time onwards mechanical clocks gradually spread northwards across Europe, the first clock in England being constructed about 1370. These would be mainly public clocks, most of them probably striking the hours. Mae oblygiadau hyn yn amlwg. Os ganed Dafydd yn nes at 1310 na 1320 fel y myn Bowen, byddai'r clociau cyntaf yn Lloegr yn cael eu gwneud ar ddiwedd eithaf ei oes. (Yn ôl ystadegau, rhyw 17 o flynyddoedd oedd disgwyliad bywyd dyn deugain oed yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.) Y mae digon o dystiolaeth fod y clociau newydd yn ddrud i'w gwneud ac i'w cynnal. Mae'n anodd iawn derbyn, felly, fod cloc mecanyddol yng Nghymru yn oes Dafydd. Yn Lloegr neu yn Ffrainc gallai Dafydd, yn ei henaint efallai, fod wedi dod o hyd i un rywle; i weld un ym mlodau'i ddyddiau byddai gofyn iddo deithio i'r Eidal neu'r Almaen. Trwy holl oesoedd cred, ac ymhell cyn hynny, defnyddid gwahanol offer i nodi'r oriau, neu i fesur yr amser, fel y dywedwn ni. Y pedwar offeryn mwyaf cyffredin oedd y deial haul, yr astrolabr, cannwyll wêr yn llosgi a dwr yn llifo allan o seston trwy dwll bychan ('clepsydra'). Yn yr Oesoedd Canol defnyddid y gair Lladin 'horologium', a'i debyg, amdanynt oll yn ddiwahân. Rhywbryd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, gyda dyfodiad clociau mecanyddol tebyg o ran eu hanfod i'n clociau pendil ni, newidiwyd yn sylfaenol yr egwyddor a benderfynai'r ffordd o fesur amser. Un o'r clociau newydd hyn yw cloc Dafydd. Defnyddid yr un gair, 'horologium', am y rhain hefyd. Yr amwysedd ynglŷn ag union ystyr y gair 'horologium' sydd wedi creu cymaint dryswch ynglŷn â dyfodiad y cloc mecanyddol. Mae digon o sôn am 'horologium' cyn y bedwaredd ganrif ar ddeg; wedi'r cwbl yr oedd sefydlu amserau gwahanol wasanaethau'r eglwys, y dydd a'r nos, yn angenrheidiol i bob mynachlog. Y cwestiwn yw, pa bryd y mae 'horologium' yn golygu 'clepsydra', neu'i debyg, a pha bryd gloc mecanyddol. Hyd y gwn i, nid yw'r gair cloc yn ymddangos cyn saithdegau'r bedwaredd ganrif ar ddeg.