Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llwybr yr Enaid (Rhai syniadau am anghenion addysg heddiw, yn codi'n bennaf o syniadaeth Simone Weil.) UN o broblemau canolog y fuchedd Gristionogol yw rheidrwydd canfod cydbwysedd priodol rhwng unigedd yr enaid myfyrgar wyneb yn wyneb â'i Dduw, unigedd gweddi, yr unigedd sy'n arwain at hunanadnabod; a'r parodrwydd, ar y llaw arall, i ymgolli mewn cymdeithas fwy na'r hunan unig, i anghofio dyheadau cyson yr hunan yng ngoleuni llawn y gymuned nefol. Ar yr olwg gyntaf, gall y naill alwad a'r llall ymddangos yn anodd eu cysoni â'i gilydd. A hyd yn oed i'r sant profiadol, mae'n ymddangos, ar sail sawl tystiolaeth ysgrifenedig, fod y tyndra'n ami yn annioddefol. Ac eto, mae'n rhaid wrth fodd i'w cysoni. Yn wyneb rhai datblygiadau diweddar yng nghymdeithasau moethus Ewrop ac Unol Daleithiau'r America, credaf fod yr angen yn bwysicach nag erioed. Y mae angen pwysleisio gwerth sylfaenol yr hunanhyder ysbrydol a ddaw trwy'r gallu i fod yn unig heb deimlo llethdod unigrwydd; ac y mae angen pwysleisio, ar y llaw arall, werth cadarnhaol y gallu i fod yn gyfran greadigol mewn rhyw fath o gymdeithas. Credaf fod iechyd y bersonoliaeth ddynol yn dibynnu ar y nerth a ddaw o'r cydbwysedd priodol rhwng anghonfensiyn- rwydd ac annibyniaeth barn yr unigolyn hyderus, a'r parodrwydd hwnnw i gydymddwyn a chydymffurfio er mwyn hyrwyddo cymuned ffrwythlon sy'n codi o aelodaeth wirfoddol o gymdeithas iach. Fy hunan, fe fyddwn i'n edrych ar y cyfaddawd ymddangosiadol hwn rhwng y perffeithrwydd a all fod mewn unigedd a'r perffeithrwydd a all fod mewn cymod llwyr ag eraill, nid fel cymrodedd ond fel gwir uchelgais y Cristion a hanfod y fuchedd Gristionogol. Fel canlyniad i'r paradocs sydd wrth wraidd bodolaeth, er mwyn i ddyn fedru ymgolli mewn cymuned fwy nag ef ei hun a'i hunan-les, mae'n rhaid iddo yn gyntaf ymgyrraedd at y lefel hwnnw o berffeithrwydd unigol sy'n ei alluogi i fod yn ymwybodol o'r angen am y fath aberth. I mi, felly, uchelgais y bywyd Cristionogol yw cydbwysedd, cydbwysedd rhwng yr unigedd sy'n angen- rheidiol i ddatblygu'r ymwybod priodol a all ddwyn dyn wyneb yn wyneb â'i Dduw, a'r ymgolli mewn busnes a gwaith a chymdeithasu sy'n ei alluogi i chwarae ei ran yn y broses o ledaenu'r deyrnas. Credaf fod llawer o elfennau yn amgylchedd y cymdeithasau 'datblygedig' heddiw sy'n milwrio yn erbyn y sawl sy'n ceisio ymgyrraedd tuag at y ddelfryd hon, yn amharchu unigedd ar y naill law ac yn teneuo gwythïen y gymuned ar y llaw arall, ac felly yn gwneud unrhyw gyfuniad gweithredol o'r naill a'r llall ymron yn amhosibl. Tybiaf mai prif swyddogaeth unrhyw gorff Cristionogol yn y gwledydd hyn yw darganfaod ffyrdd i gynorthwyo'r enaid unigol i adfer ei hunaniaeth ac i adfer wedyn ei ymwybod o ddyletswydd cymdeithasol. Rhaid i mi gyfaddef fod llawer iawn, iawn o weithgareddau litwrgaidd a chymdeithasol y cyfan o'n heglwysi cydnabyddedig yn rhannol neu'n hollol amherthnasol i'r swyddogaeth hon.