Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Taith Pererin YN Y FLWYDDYN 1884 darganfuwyd mewn llyfrgell yn Arezzo yn yr Eidal lawysgrif yn cynnwys disgrifiad o daith drwy diroedd y Dwyrain Canol ac o ffurfiau addoliad Cristnogol yn Ierusalem. Merch oedd awdur y gwaith, a bu peth ddadlau ynglŷn â'i henw, gan fod dechrau'r gyfrol fechan a rhai tudalennau ar goll. Ar y dechrau tueddid i alw'r awdur yn 'Silvia' ac wedyn, yn y cyfnod dilynol o ymchwil, yn 'Aetheria', ond bellach gwelwyd fod rheswm cryf i'w galw'n 'Egeria' a'r llyfr yn Itinerarium Egeriae. Mae'n weddol sicr mai rhyw ugain mlynedd cyn, neu ar ôl 400 O.C., oedd amser y daith. Pererindod oedd taith Egeria o'i chwfaint rywle ar y gororau rhwng Ffrainc a Sbaen ar hyn o bryd, ac yn hyn o beth yr oedd yn dilyn esiampl nifer o ferched bonheddig, megis Helena, mam yr Ymerawdwr Cystennin a adeiladodd Eglwys y Beddrod Santaidd ar Galfaria. Bu merch arall o'r un teulu, sef Eucheria, mam-yng-nghyfraith Cystennin, yno hefyd ac ymhellach ymlaen bu rhai boneddigesau o gylch St. Ierôm ym Methlehem. Mae'n amlwg, er na wyddom ddim am ei thras, fod Egeria yn bur gyfoethog i fedru talu ei ffordd am amser mor hir oddi cartref. Mae ei llyfr ar ffurf llythyr sy'n rhoi gwybod hanes ei helyntion i'w 'chwiorydd parchedig a bonheddig' yn ei chwfaint yn y gorllewin. Prin y gellir ei galw'n abades, gan na ddaeth y term i'w ddefnyddio mor gynnar â hyn, beth bynnag arall oedd safle Egeria yn rhengau ei chydaddolwyr. Yr oedd yn rhyfedd fod yr holl deithio hyn yn bosibl, gan mai'r unig foddion oedd llongau neu geffylau. Yr oedd yr Ymerodraeth wedi ei hollti'n ddwy ran, y Gorllewin yn Lladin ei iaith a'i arferion a'r Dwyrain Canol yn Roeg a'i lywodraeth yn ymestyn o Byzantium, dinas y newidiwyd ei henw i Gaer Gystennin. Ond yr oedd gan y saint gysylltiadau yn ymestyn o Sbaen ar hyd Môr y Canoldir ac yr oeddent yn gallu symud i'r fan a fynnent o fewn yr Ymerodraeth. Y mae'r rhan fwyaf o'r Teithiau yn ymwneud â mannau enwog yn yr HD. Ni fedrwn ddweud a oedd disgrifiadau o leoedd yn y TN yn y darn a gollwyd ar ddechrau llyfr Egeria. Ond mae'n anodd credu nad ymwelodd hi â Caphernaum a Bethlehem a mannau cyffelyb. Yn y rhan olaf cyferir at Fethlehem, Bethania a Golgotha ond nid ond mewn perthynas â mannau addoliad ar y prif wyliau, pryd y gorymdeithid o gylch yr eglwysi pwysicaf, megis Eglwys y Groes a'r Lazarium yn Bethania, ddwy filltir o Ierusalem. Mae tystiolaeth, wrth fynd heibio, i amrywiaeth o bobloedd, gan fod rhaid cyfieithu pregeth esgob Groeg i'r iaith Syrieg ac esbonio'r gweithgareddau i'r rhai na ddeallent ddim ond Lladin. Ar ddechrau gweddillion y llyfr y mae Egeria ar ei thaith i Sina, santaidd fynydd Duw, a ryw bedair milltir o droed y mynydd fe'i rhybuddir gan yr arweinyddion parchedig ei bod yn arferol offrymu gweddi yn y fan honno, wrth enau'r dyffryn mawr sy'n arwain at y mynydd. Daw i gof Egeria mai dyma'r dyffryn yr oedodd plant Israel ynddo, lle gwnaethpwyd y llo aur, ac wrth gwrs, ar ben yr un dyffryn yr oedd Duw wedi llefaru wrth Moses o'r berth. Lletyasant dros nos mewn mynachdy, lle derbyniasant bob croeso cyn dechrau dringo serth