Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dau Nodyn I CARWN ymateb i ran olaf ysgrif y Parchedig John Gravell, Yr Eglwysi Cyfamodol yng Ngheredigion, a ymddangosodd yn Y Traethodydd, Ebrill, 1981. Yn wyneb y mewnlifiad estron a gaed yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn rhagwêl Mr. Gravell y bydd yn rhaid i'r eglwysi Cristionogol yng nghefn gwlad wynebu rhai dewisiadau anodd. Nodir pump ohonynt: (i) Parhau gyda'r drefn o oedfaon Cymraeg yn unig. (ii) Parhau'n hollol Gymraeg a chynnig oedfa Saesneg achlysurol. (iii) Troi rhai o'r oedfaon arferol i'r Saesneg. (iv) Troi'r oedfaon yn ddwyieithog. (v) Troi mwyafrif yr oedfaon yn Saesneg. Nid yw ef ei hun yn nodi pa ddewis a wêl ef fel yr un gorau ond ni chyfeiliornwn, mi gredaf, ped awgrymwn y gwêl y diffygion mwyaf yn codi o gadw'r eglwysi Cymraeg yn hollol Gymraeg. Caf finnau fy hunan yn y pegwn arall ag ef. Cyfyd yr angen am y pum dewis uchod o ddau osodiad yn yr ysgrif; o ddewis eu dehongli mewn un ffordd neilltuol: 'Nawr, dymuniad y Cristion Cymraeg yw addoli yn ei famiaith, ac yfed yn ddwfn o'r diwylliant crefyddol, cyfoethog iawn sydd yn y Gymraeg. Drachefn, ei ddyhead calon yw gallu rhannu cymdeithas grefyddol â'r Cristionogion di-Gymraeg sydd o'i gwmpas; a chyflwyno mewn cenhadaeth i'r rhai Cymraeg a'r rhai di-Gymraeg o amgylch, y Crist byw sydd ganddo. (t.80) Gallwn innau dderbyn y cyfan sy yma ond nid gyda'r oblygiadau a awgrymir gan Mr. Gravell. A rhag bod unrhyw gamddeall gadawer i mi bwysleisio y credaf ei fod mor fawr ei bryder am iaith a thraddodiad Cymru â mi fy hun; mae'r tir hwn yn gyffredin rhyngom. Diffyg sylfaenol ei safbwynt cyffredinol, i'm golwg i, yw ei fod yn creu sefyllfa lie honnir na ellir bod yn Gristion ac yn Gymro cyflawn yr un pryd. Wrth Gymro cyflawn golygaf berson sydd yn dymuno byw ei fywyd drwyddo draw, hyd y gall yn y byd sydd ohoni, yn Gymraeg, yn union fel y mae Sais normal yn byw ei fywyd ef yn Lloegr. Ond ai dyma, yn wir, y sefyllfa a wyneba'r Cristion o Gymro? Ayw'n rhaid arno ddewis rhwng eglwys a chenedl, neu, 0 leiaf, a yw'n rhwym o deimlo tyndra rhwng ei deyrngarwch i'w iaith a'i deyrngarwch i'w eglwys? Os felly, druan ohono. Eithr pam awgrymu gosod arno y baich adfydus hwn, na osodir, er enghraifft, ar ei gyd-Gristion yn Lloegr? Hyd y gwn i, ni alwyd ar yr olaf erioed i genhadu ymhlith estroniaid o Gymru yn Gymraeg, nac ymhlith estroniaid o Bacistan yn eu hiaith hwy, gan newid natur ieithyddol yr oedfaon Saesneg o ganlyniad i hyn. Cystal i ni yma ein hatgoffa ein hunain am beth a ddigwyddodd i'r Cymry Cymraeg Cristionogol hynny a gawsant eu hunain, am amrywiol resymau, yn drigolion yn rhai o drefi Lloegr. Y gwir yw na ddisgwyliodd y cyfryw rai i'r Saeson geisio cenhadu yn eu plith trwy Gymreigio peth ar eu