Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau IOLO MORGANWG, Cerddi rhydd. Golygwyd gan P. J. Donovan. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1980, tt. xii, 175. Pris £ 4.95. 'BWRIADAF,' meddai'r diweddar Athro G. J. Williams yn y gyfrol gyntaf o'r cofiant i Iolo, na chafodd fyw ysywaeth i'w orffen fel y bwriadai mewn dwy neu dair cyfrol, 'gyhoeddi casgliad o'i gerddi, caeth a rnydd, gan gynnwys y rheini a dadoga ar yr henfeirdd. Rhaid gwneuthur hynny cyn y gellir traethu ar ei bwysigrwydd fel bardd'. Un o'r ddwy golled fwyaf i ysgolheictod Cymraeg y ganrif hon oedd marw'r Athro a chymaint o'i lafur oes ar Iolo heb ei orffen. (Y golled arall oedd marw'r Athro J. Lloyd-Jones a'i lafur oes yntau, sef Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg hefyd ar ei hanner.) Ond o'r diwedd, diolch i'r Academi Gymreig, ynghyd â Bwrdd Gwybodau Celtaidd a Gwasg Prifysgol Cymru, a hefyd lafur, gofal a medr yr ysgolhaig ifanc P. J. Donovan, dyma gyhoeddi'r cwbl o'r cerddi rhydd (pymtheg a phedwar ugain ohonynt) y teimla'r golygydd eu bod yn werth eu cyhoeddi. Y mae argraffiad o'r canu caeth ar y gweill, a hyderir y'i gwelir yntau hefyd cyn bo hir. O'r casgliad hwn o'r cerddi rhydd, sydd wedi eu codi o lawysgrifau Llanofer, ceir un ar bymtheg yr oedd Iolo yn eu harddel fel ei waith ei hun, deunaw sydd ddi-enw, ond priodolir ganddo'r trigain ac un arall i naw ar hugain o feirdd'. Trwy'r rhan fwyaf ohonynt yr ydys yn yr un byd, ac yn gweld ôl llaw'r un meistr: yr un awyrgylch, yr un llyfnder esmwyth, meistrolaeth ar eirfa gyfoethog a'r medr i'w gweu'n batrymau manwl o odlau a chyfatebiaethau o seiniau heb unrhyw ôl straen, mewn amrywiaeth o fesurau, megis hen benillion, tribannau, mesur tri thrawiad, awdl-gywydd, mesurau alawon a thelynegion syml ar y naill law, ac ar y llall ganu cymhleth Ued-gynganeddlyd y carolau a ffurfiau lawer yn null Huw Morris. Am fywiogrwydd meddwl a dychymyg o dan reolaeth ffurf, y mae hon yn un o'r goreuon oll o gyfrolau serch a natur yn y mesurau rhydd yn yr iaith. Cydnebydd y golygydd, fel y gwnaeth G.J.W. o'i flaen, y gellir amau ai gwaith Iolo neu'r un y priodolodd y darn iddo yw ambell un ohonynt ond ambell un yn denau. Y mae stamp Iolo yn bur amlwg ar y rhan fwyaf. Gwna Mr. Donovan ein harwain trwy siop waith y ffugiwr, lIe y cawn yn glir iawn ei weld ef wrthi. Weithiau ail-wampio hen gerdd a wna, neu godi rhai llinellau neu benillion o waith hyn a'u gweu yn ddestlus i'w gynnyrch ei hun. A beth am y naw-ar-hugain o 'feirdd'? Cymysgfa ryfedd. Ceir enwau beirdd o wahanol gyfnodau; Rhys Brydydd, er enghraifft, y priodolir iddo ddarnau cwbl wahanol i bopeth dilys a gadwyd o'i waith. Weithiau ceir ymgais, fel gyda Thomas Llywelyn, hyd yn oed yn niwedd cyfres o dribannau hyfryd i'r fwyalchen, i roi iddo sentimentau â'i gwna fel petai'n un o 'sêr bore Anghydffurfiaeth', ond fynychaf yr awydd yw llunio byd, a'i briodoli i Forgannwg, o ganu rhamantus telynegol, a pheri iddo ymddangos fel peth a ffynasai yn ei annwyl sir trwy'r canrifoedd. Yr orchest bennaf, hwyrach, oedd llunio a phriodoli corff o ganu serch i 'Rys Goch ap Rhicert', o'r adeuddegfed ganrif, gwr nad oedd ar gael ond ei enw mewn achau, er i feirdd o bwys megis Lewis Morgannwg darddu o'r un llinach dair a phedair canrif yn ddiweddarach. Y mae graen ar y cerddi hyn, ond mewn iaith a chynnwys y maent yn bur annhebyg i ddim a gaed o'r ganrif honno. Ond dychmygu a wnaeth Ioío ei fod yn aelod o ysgol o feirdd serch Cymraeg a ysbrydolid gan drwbadwriaid a ddaeth, meddai ef, i Forgannwg yn sgîl y Normaniaid. Rhan o waith golygydd y gyfrol hon oedd olrhain y ffugiwr wrth ei waith. Cafodd hyd i'r un cerddi, neu ddarnau ohonynt, mewn amryw lawysgrifau, ond gyda geiriau a llinellau gwahanol ynddynt nid gwallau copïo gan fod yr amrywiadau yn aml yn golygu newid yr odlau. Yn wir fe'i cawn hefyd yn llunio rhestrau o odlau a fyddai gerllaw. Ac mewn gwahanol gopïau priodolir y cerddi i wahanol awduron, a hwythau weithiau o gyfnodau gwahanol. Olrheiniodd a rhestrodd y golygydd hefyd eiriau o'r cerddi nad oes yr un dystiolaeth yn y miloedd lawer o slipiau Geiriadur y Brifysgol nac mewn unrhyw fan arall hyd y gwyddom enghreifftiau eraill ohonynt o gwbl, neu yn yr ystyr a rydd Iolo iddynt. Gwyddai G.J.W. a gwyr Mr. Donovan fod gofyn bod yn wyliadwrus gan fod Iolo weithiau'n tynnu ar iaith lafar ei fro, a phryd arall ar ei ddychymyg, ac yn cymysgu'r ddau gnwd fel yn ei doreth o enwau ar fathau o afalau, ffrwythau a llysiau. Ond yr oedd i Iolo wir fawredd fel bardd, a rhaid gofyn yn lIe yr oedd y mawredd hwn yn gorwedd. Nid yn gymaint yn esmwythder rhyfeddol ei feistrolaeth ar iaith ac ar gelfyddyd barûdoniaeth er cymaint oedd. Gallai hynny, nyd yn oed, ar adegau droi'n fagl iddo. Soniodd G.J.W., er enghraifft, amdano weithiau, yn enwedig mewn cerddi cynnar yn arfer 'arddull ansoddeiriol cynganeddlyd y carolau. Yn llai byth yr erys ei fawredd yn yr edfryd o baraffernalia'r hen ganu serch, megis y llatai, yr eiddig ac ati. Arwynebol iawn yw ei ddefnydd o'r cyfryw ddyfeisiau wrth gampweithiau beirdd mwyaf yr oesau canol. Ond ar ei orau y mae Iolo'n codi ymhell uwchlaw