Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

pastiche i dir angerdd a gweledigaeth. Er iddi gychwyn cyn hynny, adgyfnerthwyd y weledigaeth pan ddychwelodd yn ôl o Lundain i Forgannwg. Ei argraff o'r Sais oedd ei fod yn sarrug ac anghydnaws, ond fawr gwell ganddo, os gwell o gwbl, oedd y 'deudneudwyr', a oedd fel tân ar ei groen, oblegid eu lIe blaenllaw ym mywyd cymdeithasol Cymry Llundain. Fe'i cysurodd ei hun trwy beintio darlun rnamantus o orffennol a phresennol ei fro, gan gyfleu'n hyfryd iawn ei ddelwedd o'i llawnder a'i ffrwythlonder, a swyn y gymdeithas yn ei thai gwynion; pobl a welai ef yn byw bywyd diddig, di-dwyll, diuchelgais bydol. Gall y disgrifio fod yn rhugl arwynebol, ond yn ei gerddi gorau, y mae'n fanwl sylwgar a dwys yn ei gyflwyniad o'i weledigaeth. Y neb a fagwyd fel ef, a minnau, o fewn ychydig filltiroedd i lannau môr Morgannwg, fe ŵyr am rym a swn y 'sou-wester' yn sgubo i fyny'r Sianel, 'a mawrwaedd y morwynt, oer helynt i'w rod'. Ond hoffusach ac amlach ganddo'r nodyn tyner, ond gyda sylwadaeth glir wrth weu a chymhwyso'i ddelweddau. A'r un mor delynegol ysgafn y cyflea, ond gyda chyfoeth o odlau sy'n cydweddu â chyfoeth naturiol ei fro: Haul y bore'n aur yn codi, Canol dydd yn wyn oleuni, Lliw'n ymachlud y rhos cochion A'r Uiwiau i gyd ar Wen Uiw'r hinon. Gyda'r un cyfoeth a symlder y rhoes mewn un pennill, sydd ymhlith ei oreuon, ei ddelfryd o'r bywyd a fynna iddo'i hun ond dan enw bardd arall yn ei fro, ac y mae'n syndod gymaint o'r pethau a garai a wewyd iddo heb ei wneud yn feichus o gwbl: Mae miwsig mewn gwigau, Mae dail am y dolau, A Uwysion yw'r llysiau, Ail gemau'n ael gwawn; Ceir tes i'n cynhesu, A gwanwyn yn gwenu, Obeutu Mae'n glasu mewn glwyswawn. Ond y mae ganddo un gerdd, ac ynddi weledigaeth ddramatig sy'n ei rhoi ar ei phen ei hun yn ei waith. Cerdd weddol hir ydyw ar ffurf ymddiddan rhwng mab a merch, a briodolir ganddo i Forgan Pywel ond sy'n gwbl wahanol i waith dilys y bardd hwnnw. Ymhyfrydu yn wyneb pethau a wna Iolo fynychaf, ond nid y tro hwn. Am unwaith treiddia'n ddyfnach, i ddryswch ac arteithiau meddwl ac ewyilys. Nid yw'r ferch yn ymddangos mor serchog ag y bu, a gofyn y mab, 'Dywed Wen im wir di-nam, Oes gobaith am gysuron?' Geilw'r ferch am bwyll er iddi addo'i serch iddo ers dwy flynedd. Felly pam yr oedi? 'Rhag fy nala fel mewn brad Yng nghroglath cariad rhwyfus'. Cyfaddefa fod 'Fy nghalon i Fyth atat ti'n gariadus,' ond gwyr am nerth ei nwydau, 'Mab wyt ti, a mi sydd ferch, 'Wy'n ofni serch yn aethus'. Mynega'i gwasgfa meddwl mewn geiriau grymus nad oes mo'u tebyg yn llenyddiaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif ar wahân i'r Cyfarwyddwr Priodas gan Bantycelyn. Ond fe dry popeth yn reit-i-wala pan ddarbwyllir hi mai ar briodas y mae ei feddwl, a hynny'n fuan, a bod ei fryd ar fod yn briod ffyddlon. Er ei bod o ran prydferthwch fel 'rhosyn gardd', ei rhinweddau a enillodd ei galon. Y mae Iolo'n foesol iawn, ac yn wahanol i Ddafydd ap Gwilym a llu eraillo'r hen feirdd, pan enfyn latai a chanu cân serch, gwna'n glir mai priodas sydd ganddo mewn golwg! Mawr yw ein dyled i'r golygydd am baratoi inni mor ofalus y wledd hon. Ef fyddai'r cyntaf, serch hynny, i gyfaddef y buasai ei dasg yn filwaith anos oni bai am y gwr a fwriadai ei chyflawni'n y lle cyntaf, sef y diweddar Athro G. J. Williams, ond er dibynnu gymaint arno, ni wna hynny'n slafaidd, ac yn anaml, ac ar fanion, y gwna anghytuno. Y mae'r Wasg i'w chanmol hefyd am ddestlusrwydd y gyfrol, sydd yn debyg ei hymddangosiad i'w hargraffiad yn yr un flwyddyn o Y Storm Gyntafgan Islwyn dau gyfraniad o'r pwysigrwydd pennaf i'n mwynhad o farddoniaeth Gymraeg ddiweddar, a'n dealltwriaeth ohoni. D. MYRDDIN LLOYD Bwriadwyd cyhoeddi'r uchod yn ein Rhifyn diwethaf. Cywirer 'Y Mynegai,' etc. RITA WILLIAMS, Cyflwyno'r Llydaweg. (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1980). FEL y mynegir ar y clawr, cyfaddasiad yw'r gyfrol hon o'r llyfr Brezhoneg Buan hag Aes gan Dr. Per Denez o Brifysgol Roazhon, Llydaw, a gyhoeddwyd gan Gwmni Omnivox, Paris, ym 1972. Pwrpas cyhoeddi Brezhoneg Buan hag Aes oedd darparu llawlyfr dysgu Llydaweg fel ail iaith a fyddai'n gyfoes ei apêl, yn hawdd ei ddeall ac yn addas at anghenion y sawl a fyddai'n astudio'r iaith ar ei ben ei hun yn ogystal â'r dosbarth dan ofal athro. Bydd unrhyw un sy'n gwybod rhywbeth