Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn gofalu tynnu sylw at unrhyw wahaniaethau mewn defnydd ac ystyr rhwng dau air neu ymadrodd o'r un tarddiad, e.e. y gwahaniaeth rhwng 'sydd' ac 'a zo' (Gwers 1). Mae Mrs. Williams wedi dewis dilyn dull Per Denez o gyflwyno'r treigliadau, sef, bob yn dipyn. Mae rhywun yn gwerthfawrogi'r ffaith fod angen i'r nodiadau gramadegol ddilyn deunydd y deialogau, ac eto 'rwy'n credu y buasai'n haws i Gymry ddeall y treigliadau o'u gweld wedi'u gosod allan gyda'i gilydd ynghyd â'r rheolau perthnasol, yn hytrach na'r cyflwyno tameidiog a geir yma. Mae'r treigliadau yn medru drysu'r Cymro yn fwy na'r un dim arall mewn Llydaweg am eu bod mor ymddangosiadol debyg ac eto â chynifer o wahaniaethau mewn ffurf a defnydd. Un diffyg yn y llyfr yw na cheir cyfieithiadau o'r brawddegau a'r ymadroddion enghreifftiol yn yr adrannau gramadegol, megis a geir yn y fersiwn gwreiddiol. Buasai cyfieithiadau o'r rhain, er nad yn hollol angenrheidiol, yn hwyluso'r ffordd i ddysgwyr sy'n gweithio ar eu pennau eu hunain ac i rai llai galluog. Mae'r adran ar ynganiad wedi'i drosi'n effeithiol iawn i'r Gymraeg, ac fe ellir wrth gwrs ddefnyddio'r casetiau a'r recordiau a gyhoeddwyd gyda'r llyfr gwreiddiol. Rhaid canmol pawb sy wedi bod ynglŷn â'r gwaith teipio, cyhoeddi ac argraffu, oherwydd nid oes unrhyw wallau argraffu i'w gweld yn y llyfr, ac mae'r cyfan wedi'i osod allan yn glir ac yn daclus nes ei bod yn hawdd i'r myfyriwr ddilyn pob pwynt. Mae'r cyfaddasiad hwn yn ogystal â'r gwreiddiol yn ffrwyth profiad helaeth o ddysgu Llydaweg ac mae wedi'i baratoi'n ofalus a manwl dros gyfnod hir o amser. Mae'r gyfrol yn chwaer deilwng iawn i'r gwreiddiol, a bydd yn gymorth sicr i unrhyw un sydd am ymgydnabod ag iaith a diwylliant ein brodyr yn Llydaw. Waun-fawr SYLVIA PRYS JONES R. TUDUR JONES, Ffydd ac Argyfwng Cenedl, Hanes Crefydd yng Nghymru. Cyfrol 1, Prysurdeb a Phryder.(Abertawe, T9 John Penry, 1981) £ 8. HAWDD cytuno â Geraint Gruffydd yn y broliant fod hon yn gyfrol bwysig ac arwyddocaol. Y mae'n ffrwyth ymchwil anhygoel o eang a diwyd, dros gyfnod o flynyddoedd, i bregethau, cofiannau, cylchgronau, adroddiadau a chofnodion y cyfnod dan sylw. Prawf o hynny ydi'r mynych nodiadau-diwedd-pennod (fel y mae'n rhaid eu galw erbyn hyn yn y rhan fwyaf o gyfrolau), dros wyth gant ohonynt, yn llenwi 30 allan o 250 o dudalennau. Y mae hefyd yn ffrwyth myfyrdod dwfn ar orffennol a phresennol ein gwlad, ynghyd â chonsyrn proffwydol drosti. Daw allan yn fuan ar ôl cyhoeddi Rebirth of a Nation, Kenneth Morgan cyfrol orchestol arall, er gwaetha'r Uu o fân gamgymeriadau sydd ynddi (e.e. troi Puleston yn Annibynnwr!) a diddorol ydi cymharu'r ddwy. Fel y mae'r teitlau'n awgrymu, y mae Kenneth Morgan yn fwy gobeithiol ei bwyslais; a bu Tudur Jones, yn fwy felly na Kenneth Morgan, yn llunio'i gyfrol, fel y dywed ef ei hun, 'ar yr egwyddor na ellir gwneud tegwch â chyfnewidiadau cenedlaethol mawr heb ystyried beth sy'n digwydd i'r ffydd waelodol sy'n ffynhonnell pob gweithgarwch o eiddo dynion'. Yn y ddwy bennod gyntaf fe gais yr awdur gadarnhau ei osodiad fod Cymru ar droad y ganrif yn wlad Gristnogol, 'nodedig ymhlith gwledydd Ewrob am ei chrefyddolder', ac yn wlad obeithiol, ei 'hwyneb tua'r wawr'. Yr oedd dau Gymro o bob pump yn aelodau eglwysig ac o'r aelodau hynny yr oedd tri chwarter yn Anghydffurfwyr. Ymdrinir yn ofalus â phob enwad, a daw agwedd fawrfrydig i'r amlwg droeon. Dywedir mai un o benodau arwrol hanes Cymru 'yw honno sy'n adrodd am ymdrechion y Catholigion i ddiogelu eu treftadaeth'; yn y drydedd bennod, wrth drafod 'Y meginau enwadol', condemnir y 'balchder enwadol' a'r 'sectyddiaeth' a oedd mewn bri, a fynnai godi capelau lawer a oedd yn rhy fawr, a fynnai fod yn rhaid cael capel i bob enwad mewn cannoedd o bentrefi. Cwestiwn annisgwyl yr awdur yn y fan hon yw hwn: 'Os yw Pabyddion a Phrotestaniaid Alsace mewn llawer plwyf yn gallu rhannu'r un eglwys yn ddigynnen, pam nad oedd yr un cynllun yn bosibl yng Nghymru Oes Victoria?' Ond yr oedd 'pleidgarwch enwadol yn rym hollbresennol' a phob enwad yn llongyfarch ei aelodau ei hun ar eu buddugoliaethau mewn eisteddfodau, mewn addysg ac ar gynghorau, yn ymffrostio yn ei ddylanwad a'i orchestion ei hun, a'i gylchgronau'n 'dyrnu' cylchgronau enwadau eraill. Dyfynnir Emrys ap Iwan, a ddywedodd fod enwadaeth 'fel un o bläau yr Aipht wedi cael gafael yn yr holl genedl yn ddiwahaniaeth,' a rhyw ysgrifwr dienw a honnodd mai duw newydd Cymru oedd yr 'Enwad Mawr'. Hawdd cytuno â'r awdur fod enwadyddiaeth yn bla erbyn diwedd y ganrif ddiwethaf; ond onid oedd hadau'r pla wedi eu plannu