Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

penderfyniadau'r llysoedd cyfundebol: dyma'r ysbryd newydd ymhlith y rhai ieuanc, ac ofer oedd i arweinwyr cyfundebol bellach ddibynnu'n gyfan gwbl ar awdurdod swydd a safle. 'Bu'r helynt yn ergyd dychrynllyd i Fethodistiaeth Lerpwl' meddai Tudur Jones; Yr oedd yr oes aur yn ei hanes drosodd' Nid wyf yn siwr ai gwir hyn. Yr oedd bri ar oedfaon y rhan fwyaf o'r capeli yn nechrau'r dauddegau, gan gynnwys Anfield Road a Douglas Road, y ddau gapel agosaf at Donaldson Street. Pan ddaeth y dirwasgiad i Lerpwl a'r ymfudo mawr o Gymru'n peidio y dechreuodd y trai yn eglwysi'r ddinas. Ond ni bu llewyrch parhaol ar Eglwys Rydd y Cymry: erbyn 1921 yr oedd y mudiad wedi ymuno â'r Annibynwyr, rhai o'i gapeli wedi eu gwerthu i enwadau eraill a llawer o'r aelodau wedi ailymuno â'r Methodistiaid Calfinaidd. Y mae'r gyfrol yn hynod lân ei diwyg a chywir ei hiaith. Ceir 'cynhwyro' yn Ue 'synhwyro' ar dud. 97; dylid rhoi 'nifer' yn Ue 'rhif' wrth drafod yr ystadegau; aeth nodyn 75 ar goll ar dud. 171; gadawyd yr 'â' allan ar ôl 'peidio' ar dud. 53; a 'Fitzclarence Street' sy'n gywir (tud. 210), ac nid 'Road' (ceir yr un camgymeriad yn y Bywgraffìadur, tud. 362). HARRI WILLIAMS ANN ROSSER, Telyn a Thelynor, Hanes y Delyn yng Nghymru 17Ø1900. (Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd, 1981). PLESER o'r mwyaf yw cael adolygu'r llyfr hwn sy'n ffrwyth traethawd ymchwil M.A. Prifysgol Cymru. Wedi darllen llyfr diweddar ar y traddodiad cerddorol yng Nghymru Ue y cyfeddyf yr awdur, yn ei ragair nad astudiaeth ysgolheigaidd mohono a hynny'n dra amlwg pe na bai ond am y benthyca di-gydnabod o waith arbennig Robert Griffith, Llyfr Cerdd Dannau (gonestrwydd yw un o hanfodion pwysicaf ysgolhaig yn ôl y Dr. Thomas Parry) boddhâd yw cael darllen llyfr sydd yn dangos ôl gwaith ymchwil mor drylwyr a hwnnw wedi'i ysgrifennu mewn arddull mor ddeniadol. Esbonia Miss Rosser yn ei rhagair ei bod yn dewis gadael maes datblygiad cerddoriaeth y delyn i gerddor proffesiynol a theimlaf mai yn y maes hwnnw, yn hytrach nag yn hanes yr offeryn ei hun, y byddai'n werthfawr cael gan Osian Ellis, trwy ei brofiad fel telynor, gyfrol o ymdriniaeth fanwl ar gerddoriaeth y delyn yng Nghymru. Rhennir astudiaeth Miss Rosser yn dair pennod: 1. Y Telynau, 2. Swyddogaeth a Delwedd, 3. Nawdd. Yna ceir catalogau gwerthfawr o delynau dibedal, gwneuthurwyr telynau ac o delynorion a thelynoresau. Mae'r awdur yn ei chyfyngu ei hun i'r cyfnod sy'n 'bras gyfateb i dymor poblogrwydd yr offeryn "traddodiadol" (sef y delyn deir-rhes) a fu amlycaf yn ein gwlad wedi colli'r hen gyfundref farddol ffurfiol'. Yn naturiol, felly, y delyn honno sydd yn hawlio'r prif sylw yn y bennod gyntaf. Er i'r delyn deires gael ei harddel fel 'Welsh harp' yn y ganrif ddiwethaf trwy i Edward Jones, o bosib, ddechrau neu boblogeiddio'r stori mai hon oedd 'y delyn deirtud' y sonia Dafydd ab Edmwnd amdani ym marwnad Siôn Eos, gwyddys erbyn hyn mai o'r Eidal y daeth y deires. 'Roedd diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg a dechrau'r ail ar bymtheg yn gyfnod pan oedd dylanwad cerddoriaeth yr Eidal yn drwm ar y llys brenhinol yn Lloegr a phan oedd y cerddorion o Gymru a âi i Lundain yn rhuthro i fabwysiadu y ffasiynau cerddorol newydd. Nid rhyfedd felly, yn y cyfnod y daeth y feiolin o'r Eidal a goresgyn y feiol, i'r telynau newydd hwythau (rhai â thair ac efallai dwy res) gyrraedd Llundain. Nodir bod John Flesle, a ganai'r deires, yn delynor i Siarl I o 1629 hyd 1641 ac mai'r delyn honno, o bosib, oedd y delyn 'Eidalaidd' a ddefnyddid gan Charles Evans yn llys Siarl II. Diddorol yw bod trai y delyn unrhes a'r crwth yn cydochri i raddau fel yr oedd poblogrwydd y delyn deires a'r feiolin yn cynyddu yng Nghymru. Ymddengys mai yn y gogledd (Llanrwst, o bosib), a hynny tua diwedd yr ail ganrif ar bymtheg neu yn fuan wedyn, yr ymsefydlodd y delyn deires ac mai yn ddiweddarach trwy ddylanwad Sackville Gwynn, yn dod â'r gwneuthurwr John Richard i lawr o Lanrwst yn ail hanner y ddeunawfed ganrif, a thrwy nawdd Arglwyddes Llanofer a Chymreigyddion y Fenni y daeth yn offeryn lled-gyffredin yn y de. Er yr hoffwn i'n bersonol pe bai mwy o wybodaeth am y delyn unrhes, gan mai hon yw'r delyn sy'n berthnasol i'r hen drefn o gerdd dant, glyna Miss Rosser at ei chyfnod heb gyfeirio fawr ddim at