Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhaid canmol yr argraffu gwych gan gwmni Brown a'i Feibion mae'r cyfan wedi'i osod allan yn fendigedig gyda'r penawdau a'r modd y mae Miss Rosser wedi cyflwyno'i deunydd yn bleser i'r llygad. Llwyddodd Ann Rosser i drosglwyddo ei hysgolheictod mewn arddull sy'n ddeniadol i bawb sydd yn ymddiddori nid yn unig yn hanes y delyn ond yn gyffredinol yn hanes a llenyddiaeth Cymru. BETHAN MILES J. DERFEL REES, Blas ar Fyw. (Abertawe, Tŷ John Penry) YM MHENNOD agoriadol ei hunangofiant gwna J. Derfel Rees ymdrech lew i achub y blaen ar feirniaid tebygol trwy gydnabod nad 'yw atgofion y cyffredin yn ennyn chwilfrydedd y rhelyw o ddarllenwyr' ond fe ddaw i'r casgliad, gan nodi fel cynsail TheDiary of a Nobody, 'nad anfuddiol nac anniddorol fyddai ail-fyw rhai o'r digwyddiadau cyffrous hynny a fynn lynu yn y cof, a rhoi cnawd newydd am y cymeriadau diddan hynny a fu'n rhan mor annatod o'm gyrfa hyd yn hyn.' Dyna grynodeb boddhaol o gynnwys y llyfr, er bod lIe i amau fwy nag unwaith addasrwydd yr ansoddair 'cyffrous'. Fe gymerwn ni'n ganiataol i J.D.R. lwyddo yn ei amcan sylfaenol, sef, yn ei eiriau ef ei hun, 'dweud y gwir'. Fe ddywed ymhellach: 'Cyfaddefaf yn rhwydd fod eu dwyn ar gof wedi dod â llawer o fwynhad i mi, ac y mae hynny'n ddigon o esgus a gwarant dros roi golau ddydd iddynt. Gallaf ychwanegu, os bydd i rywun yn rhywle gael y mymryn lleiaf o ddiddanwch, goleuni neu bleser o ddarllen yr atgofion hyn, yna bonws ychwanegol i mi fydd hynny'. Cyn mentro penderfynu faint o fonws sy'n ddyledus i awdur Blas arFyw, hwyrach nad anniddorol fyddai ceisio lleoli'r gyfrol o fewn maes rhyddiaith hunangofiannol yn Gymraeg. Rwy'n teimlo bod Blas ar Fyw yn perthyn i'r tir canol hwnnw, anodd iawn ei ddiffinio ac amrywiol ei safon a'i gynnwys, rhwng yr hunangofiant llenyddol ar y naill law, dosbarth a gynrychiolir gan glasuron fel Hen Atgofion, Hen Dỳ Ffarm, Y Lôn Wen, etc., cyfrolau y mae'n afraid nodi eu rhinweddau llenyddol, a'r cyfrolau atgofion syml cwbl anllenyddol ar y llaw arall, cyfrolau a gyhoeddwyd yn ddiweddar fel llyfrau bro mewn ardaloedd fel Uwchaled, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle a Dinorwig. Gwendid cyfrolau'r tir canol yn aml yw nad oes iddynt orffennedd mynegiant a chyffredinolrwydd apêl y clasuron nac ychwaith fwrlwm anniben a ffraethineb diymdrech y llyfrau bro (lle'r adroddwyd yr hanesion yn aml ar lafar i ail berson, a hwnnw wedyn yn gyfrifol am y cofnodi ar bapur. Cofier hefyd fod i'r atgofion hyn, sy'n gwbl leol eu hapêl, werthiant uwch, ar y cyfan, na'r cyfrolau llenyddol, 'cenedlaethol' eu hapêl). Gellir colli uniongyrchedd dymunol y cofio a'r croniclo diffwdan wrth i'r awdur geisio ymagweddu'n llenyddol a methu. Teimlais droeon wrth ddarllen Blas ar Fyw fod yr awdur wedi medru ail-greu golygfa neu ddigwyddiad arbennig yn ddigon deheuig, ond yr oedd rhyw ymadroddion neu frawddegau clo ystrydebol yn sarnu'r darlun i'r darllenwr hwn beth bynnag. Wele rai enghreifftiau: 'Pob clod i'r morwr ifanc a gyflawnodd y fath wrhydri mewn ffordd mor dawel a diymhongar, ond meistrolaidd serch hynny' (t.34). 'A diolch i adroddwyr gwlad fel Twm Rhydyfantwn am ddehongli'r darnau hynny mewn ffordd mor effeithiol' (t.49). 'Ac eto, er gwaethaf ein hanghytuno â'i syniadau (T. H. Parry-Williams), amheuthun oedd dyfod wyneb yn wyneb â'r athrylith fawr a roes fynegiant iddynt, ac eistedd wrth draed y Gamaliel hwn'. Disgrifir Drefach Felindre fel 'un o lecynnau tlysafDyfed', bore ei briodas fel 'y bore bythgofiadwy hwnnw' a de Sir Benfro fel 'y darn hynod hwn o Gymru'. 'Rwy'n ofni nad oedd sylwadau fel yr isod chwaith yn cyfrannu dim at fy mwynhad i: 'y ddiod flasus ond diniwed Corona', 'Gardd yw Cymru hithau a blannwyd gan Dduw i'w ddibenion mawr Ei Hun', 'Gwn ei bod yn ffasiynol iawn heddiw mewn nofelau a dramâu, yn yr iaith Gymraeg hyd yn oed, i ddisgrifio'n gignoeth y profiadau mwyaf personol. Y canlyniad anochel yw fod lledneisrwydd, cwrteisi a sifalri, a'r cyfryw rinweddau wedi darfod ymron yn llwyr o'r tir'. Yr oeddwn wedi hen syrffedu ar y platitudes anghydffurfiol hyn erbyn imi gyrraedd y diwedd. Ond mae'r dyfyniadau a godwyd yn adlewyrchu cywair ac awyrgylch y llyfr yn burion tu fewn i gloriau Blas arFyw yr ydym mewn byd cysurus, braf, cyfiawn ac ie, smyg ar adegau. Nid oes yma wir gyffro na thyndra, amheuaeth na dadrith — llithrodd yr awdur i'r