Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fynegant ond yr hyn a fynegwyd o'r blaen, ac yn yr un arddull a'r un mesurau ag a ddefnyddiwyd o'r blaen? Onid yr unig beth sy'n cyfiawnhau cynnwys emynau diweddar mewn detholiad neu lyfr emynau yw fod ynddyn nhw, yn ychwanegol at eu cynnwys crefyddol, ryw newydd-deb a chyfoesedd? Cwestiynau fel hyn a ddaeth i'm meddwl wrth imi ddarllen, gyda llawer o fendith a mwynhad, y casgliad yma o emynau, carolau a salmau gan un o'r rhai mwyaf llwyddiannus o emynwyr ein cyfnod, ac a gyhoeddwyd yn ddestlus a chywir gan Dŷ John Penry. Chwiliais yn fanwl ynddo am arwyddion mai yn yr ugeinfed ganrif y lluniwyd yr emynau ac nid yn y ddeunawfed, a chefais rai. Onid yn ein cyfnod ni yn unig y gallai emynydd ganu llinellau fel: 'Mae ystyr bywyd ynot Ti dy Hun, Yr wyt yn Uanw'r gwacter trwy dy Air' 'Anfon rydwyt dy rasusau I ddileu gwacterau dyn' 'Ti dy Hun yw ystyr byw' .Rhoi ystyr i fywyd wna cariad y Crist'? Hynny yw, y mae'r emynydd yn amlwg yn ymwybodol ei fod yn byw yng nghyfnod yr 'argyfwng gwacter ystyr' ac yn adlewyrchu hynny yn ei ganu. Geiriau eraill sy'n profi nad hollol draddodiadol y canu ydi rhai fel 'gofod', 'melodîau', 'mowldia', 'gwarineb', 'crwsâd', 'crefft', ac amryw o eiriau ac ymadroddion yn y salm I'r Gwyddonydd y fwyaf llwyddiannus, efallai, o'r salmau. Y mae llawer o linellau sy'n cydio ac yn aros yn y cof: 'Mae'r Haleliwia yn fy enaid i' (y bu canu mor frwd a phoblogaidd arni); 'Ar fryn y camwedd mawr'; 'Ar grog y Dihalog ei Hun'; 'Ti'r Hwn sy'n puro ein dyheu, Bendithia gamp y rhai sy'n creu'; 'A llithrai dieithrwch dros wedd y lloer'; a 'Mai Ti yw'r Doethaf o'r doethion i gyd'. Y mae rhai emynau, fel Y Dystiolaeth Dda, yn hynod o grefftus ac argyhoeddiadol. Ond anodd osgoi'r hen ystrydebau, a rhai ohonynt yn ddigon anfarddonol, fel 'i bob un', 'i'r holl fyd', 'Dy ryfedd rin', 'anthem dlos' ac 'i bechadur tlawd'. Mi hoffwn i weld mwy o fentro mewn geirfa, mesurau ac odlau, fel y ceir mewn rhai emynau Saesneg cyfoes, mwy o emynau cymdeithasol ac ymwybyddiaeth ynddyn nhw o wewyr ein gwlad a'n byd, a mwy o salmau i bynciau penodol a chyfoes fel rhai Michel Quoist, sydd â'i weddïau'n dwyn teitlau fel O flaen Papur Pumpunt, Y Cylchgrawn Pornograffaidd, Y Tractor, Y Teliffon a Pêl-droed gyda'r Nos. Ond y mae cynnwys cyfrol Rhys Nicholas yn oludog ac amrywiol iawn, gyda thri emyn priodas, emyn priodol i ysbyty ac un i ailagor capel, heblaw'r emynau ar gyfer y gwyliau Cristnogol, gyda'r carolau yn hynod lwyddiannus. Y mae yma gyfieithiad o'r emyn Saesneg 'Fight the good fight' (Ond dylid newid yr acennu yn 'Pwysa a chaiff d'enaid o hyd' os ydi'r geiriau i'w canu ar dôn fel Pentecost neu Duke Street), ac un bywiog iawn o'r garol Ding-dong merrily on high. A chyda llaw, onid yw rhif 60 yn ddyledus i'r garol How far is it to Bethlehem? Tasg wahanol, ond yr un mor anodd, oedd gan Glyn Tudwal Jones yn Cymorth cyn Cymuno, sef llunio llawlyfr a fydd yn gwneud y grefydd Gristnogol yn ddealladwy i bobl ifanc sy'n bwriadu ymaelodi â'r Eglwys. Llwyddodd yr awdur yn rhyfeddol, ac y mae ei waith yn llenwi bwlch amlwg yn ein darpariaeth grefyddol yn Gymraeg ar gyfer gwaith yr Eglwys. Ffrwyth cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ydi'r gwaith ac y mae'r awdur wedi manteisio ar rai awgrymiadau a gafodd gan y beirniad, Derwyn Morris Jones. Y mae ynddo lawer o bethau a dulliau newydd ac amheuthun. 'Dydi'r ymdriniaeth ddim yn orddogmataidd nac yn rhy anodd i'r rhai ifanc ei deall. Anogir y cymunwyr i feddwl a chwilio drostynt eu hunain a gadewir hanner y tudalennau'n wag er mwyn iddynt ychwanegu eu sylwadau a'u profiadau eu hunain. Gelwir sylw hefyd at ffilmiau a recordiau (hyd yn oed un gan John Lennon, Imagine) ac anogir eu defnyddio yn sylfaen trafodaeth yn y dosbarth, a rhestrir nifer o lyfrau pwrpasol i'r aelodau eu darllen gartref. A thrwy'r cyfan y mae'r pwyslais yn ymarferol ac yn wynebu rhai o broblemau mwyaf dyrys pobl ifanc heddiw. Cynhwysfawr iawn yw'r cwrs, yn delio â'r Cristion unigol yn ei fywyd crefyddol a moesol. Efallai y gellid fod wedi cynnwys adran yn sôn am gymhwyso'r Efengyl at broblemau dyrys ein gwareiddiad heddiw, ond fel y mae, y mae'r cwrs yn debyg o gymryd mwy o amser na'r pedwar neu bum mis y mae'r awdur yn ei awgrymu! Awgrym gwerthfawr ydi'r un i'r dosbarth a'r arweinydd fwrw Sul mewn canolfan ieuenctid. Awgrymir rhai o ganeuon Tecwyn Ifan i'w trafod yn y dosbarth; a hynny'n codi'r cwestiwn i'r meddwl: tybed ai o gyfeiriad y bobl ifanc eu hunain a'u caneuon pop y daw'r emynau gwirioneddol arwyddocaol a pherthnasol i'n 'hoes a'n heinioes ni'? HARRI WILLIAMS.