Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

VINCENT H. PHILLIPS, ELFYN JENKINS, R. J. Thomas 1908-1976, Amgueddfa Genedlaethol Cymru (Amgueddfa Werin Cymru), 1980. Tdau + 38. YMA fe gawn ddwy ddarlith, dau eirda cwbl haeddiannol i'r diweddar R. J. Thomas, y naill gan Vincent Phillips (1-31), a'r llall gan Elfyn Jenkins (32-38). Lluniwyd rhagair i'r gyfrol gan Guradur Sain Ffagan, Mr. Trefor Owen. Teyrnged Mr. Phillips yw'r hwyaf, ac ynddi cawn olwg ar gefndir Mr. Thomas, ei yrfa addysgol, ei waith ar enwau lleoedd, ei benodi i'r Geiriadur, i'r Llyfrgell ac eilwaith i'r Geiriadur yn 1938, y tro hwn fel Arolygydd. Rhwng 1942 a 1946 bu'n gwneud ei wasanaeth milwrol, ac ar ôl ei ryddhau cynigiwyd iddo swydd darlithydd yn un o golegau Prifysgol Cymru. Ond dychwelyd at y Geiriadur a wnaeth, ac yno y bu hyd ei ymddeol yn 1975. Hefyd rhoddir cryn sylw gan Mr. Phillips i'w weithgarwch ynglŷn ag 'Amgueddfa Hen Gapel Tre'r Ddôl', yr hen gapel Ue dechreuodd Diwygiad 1859 dan ddylanwad Humphrey Rowland Jones. Bellach y mae'r amgueddfa yn un o ganghennau Amgueddfa Werin Cymru. Costiodd yn ddrud i R. J. Thomas o ran arian, a llafur ac amser, eto cafodd gryn foddhad yn y gwaith, a chyfle i roi mynegiant i'w ofal dros ei dreftadaeth a'i awydd i drysori'r hen bethau, yr hen ddiwylliant a'r hen argyhoeddiad. Mae Mr. Elfyn Jenkins yn sôn yn unig am ei gysylltiad â Geiriadur Prifysgol Cymru, ac yn disgrifio yn fyw a manwl ei ymroddiad ynglŷn â'r gwaith. Go brin fod Prifysgol Cymru wedi cynhyrchu rhagorach ysgolhaig nag R. J. Thomas. Gwn pa mor uchel oedd meddwl yr Athro G. J. Williams ohono. Ac nid ef yn unig, ond pawb o'r Athrawon Cymraeg a ddaethai i'w nabod fel Golygydd y Geiriadur. Derbyniodd lu o ymholiadau (gan gynnwys amryw oddi wrthyf fi) o bryd i'w gilydd ynglŷn â geiriau a oedd heb ymddangos. Yn ddieithriad byddai yn eu hateb yn llawn, ac yn rhadlon a chymwynasgar. A phwy'n well nag ef i gyfrannu i'r Geiriadur. Yr oedd yn hyddysg yn yr iaith drwy ei holl hanes, ond hefyd fel y dywed Mr. Jenkins, cafodd gyfle fel mab i weinidog Wesle i fyw mewn llawer ardal yng Nghymru, ac yr oedd ganddo o'r herwydd wybodaeth lawn am amrywiadau tafodieithol. Cafodd brofiad gwerthfawr yn ei ymchwil gynnar i enwau lleoedd, a gwyddom bawb am ei gyfrol awdurdodol, Enwau Afonydd a Nentydd Cymru. Gwr dilychwin ei safonau ysgolheigaidd, gŵr diymhongar, a gwr dwfn ei barch i'w dreftadaeth i deulu, i gapel ac iaith. Iawn y defnyddiodd yr Athro Caerwyn Williams y gair pietas i gyfleu'r parch yma; a iawn hefyd y cyflwynodd ef ac eraill i'r Brifysgol achos yn argymell dangos parch y genedl iddo yntau drwy gyflwyno iddo radd Doethur mewn Llên er anrhydedd. Mae'n drueni mawr na chafodd fyw i dderbyn yr anrhydedd yn ffurfiol. Coleg Prifysgol Dewi Sant D. SIMON EVANS Llanbedr Pont Steffan EIGRA LEWIS ROBERTS, Plentyn yr Haul. Gwasg Gomer. £ 1.75. Pan ddaeth ei fam-yng-nghyfraith i mewn i'r ystafell eistedd y bore Sul hwnnw o fis Hydref yng ngwanwyn cynnar Wellington gwyddai Harold oddi wrth yr olwg ymddiheurol ar ei hwyneb mai newydd drwg oedd ganddi. 'Merch arall?' holodd. 'Ie, mae arna i ofn, Harold.' Dyna'r brawddegau agoriadol, a gellid yn hawdd dybio mai nofel yw'r gyfrol hon. Ond yn ddiweddarach darllenwn baragraff fel hwn: Ar y pedwerydd ar ddeg o Fedi cychwynnodd Katherine ac L. M. am Ospedaletti, yn ymyl San Remo, ar y ffin rhwng Ffrainc a'r Eidal. I bob ymddangosiad roedd hi'n gadael Lloegr am ddwy flynedd, ond roedd hi eisoes wedi trefnu i Jac fynd i'w chyrchu adref ym mis Mai. Aeth Jac i'w hebrwng i Ospedaletti ac yna dychwelodd i Hampstead ac at ei waith fel golygydd. A dyna arddull sy'n fwy gweddus i gofiant, onide? Am 'stori bywyd unrhyw gymeriad diddorol' y gofynnwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1979, a chafodd Eigra Lewis Roberts ganmoliaeth frwd gan y beirniad, O. E. Roberts. Dywedwyd fod y gwaith 'ymhell ar y blaen i'r gweddill. y dychymyg yn fyw a'r cyflwyniad yn sicr. a'r ymdriniaeth yn feistraidd.' Gwir bob gair! Yn sicr, dewisodd Eigra destun diddorol, sef