Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I ba raddau yr oedd y duedd gyfriniol a chrefyddol yn Murry yn gyfrifol am y newid yma, tybed? Parhaodd y diffyg dealltwriaeth a chydymdeimlad, fodd bynnag, bron hyd at y diwedd, hi yn ansicr o'i gariad ef tuag ati (a oedd a wnelo diffyg serch ei mam tuag ati hi rywbeth â hyn, tybed?) a'i theimlad tuag ato'n newid yn barhaus, yntau'n brysur gyda'i waith llenyddol ac yn tueddu i fod yn ymddangosiadol ddideimlad a digyffro. Newidiodd Katherine ei hagwedd tuag at ei thad a'i gwlad enedigol cyn y diwedd. Gofidiai iddi fod mor anniolchgar a bu cymod hyfryd rhyngddi hi a'i thad. Ac fel y dengys llawer o'i storïau, deuai Seland Newydd a'i phobl lawer o atgofion annwyl yn ôl iddi. Darlunnir yr holl hanes tymhestlog yn grefftus a chynnil gan Eigra Lewis Roberts, ac yn enwedig felly hanes trist y marw'n ifanc. Diau y bydd llawer yn penderfynu troi, ar ôl darllen Plentyn yr Haul, at waith yr eneth athrylithgar a gafodd ddylanwad nid bychan ar y lenores athrylithgar o Gymru, Kate Roberts. HARRI WILLIAMS D. MYRDDIN LLOYD (gol.), O Erddi Eraill (Caerdydd, 1981). UN o gymwynasau lluosog ac amrywiol y diweddar D. Myrddin Lloyd i'r genedl oedd ymgymryd â golygu Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau'r Academi Gymreig. Dyma'r ail gyfrol yn y gyfres, ac fel y dengys yr is-deitl, cynnwys 'gerddi [wedi eu trosi] o amrywiol ieithoedd i'r Gymraeg'. Byr yw'r rhagair, ond dengys yr amcan a osododd y golygydd iddo'i hun, ac y mae gweddill y gyfrol yn dangos mor ddiwyro y dilynwyd yr amcan hwnnw ac mor llwyr y cyflawnwyd ef. Dengys hefyd ehanged oedd gwybodaeth y golygydd o'r maes yr oedd yn ei loffa, a chraffed oedd ei gynneddf feirniadol. Dyfynnaf rai brawddegau: Bwnad y gyfrol hon yw dangos rhywfaint o gyfoeth yr ail-greu a fu yn y Gymraeg o fardd- oniaeth gwahanol ieithoedd, hen a diweddar. Y mae'r cnwd ar fawr gynnydd yn ein hoes ni mewn swm ac amrywiaeth, ond ceisir dangos hefyd fel y bu eraill wrthi mewn oesoedd blaenorol. Braidd yn brin, ond gyda rhai enghreifftiau gwerthfawr, ydoedd yn ystod y Canol Oesoedd, ond yna ceir campweithiau gan gyfieithwyr y Beibl, yn arbennig yr Esgob William Morgan. Hir gyfnod tlotach o lawer sy'n dilyn hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ystod y ganrif honno cafwyd cryn dipyn mwy o drosi, fel y gwelir mewn llyfrau, ac yn fwy fyth yn rhai o'r amrywiol gylchgronau. Siom er hynny i'r golygydd fu gweld bod ansawdd y gwaith yn bur wan ar y cyfan wrth y toreth o gerddi gwych sy'n nodweddu'r ganrif bresennol. Yr eithriad amlycaf, i'm tyb i, yw trosiad byrlymus Talhaiarn o Tam o Shanter. Ysbrydiaeth gref i'r delyneg ramantus o gwmpas tro'r ganrif ac wedi hynny fu trosiadau cain Syr John Morris Jones o lawer o gerddi o amrywiol ieithoedd, gan gynnwys yn arbennig ddetholiad gweddol helaeth o Gathlau Heine (gan ddewis y siwgr ac nid yr halen yn eu plith) ac o hynny ymlaen agorwyd fwyfwy y llif-ddorau Ewropeaidd, ac ymhellach, fel y dengys y gyfrol hon. Camp arbennig y gyfrol yw dangos 'rhywfaint o gyfoeth yr ail-greu a fu yn y Gymraeg' yn y ganrifhon 'o farddoniaeth gwahanol ieithoedd, hen a diweddar.' Oblegid pe tynnid o'r gyfrol waith llenorion y ganrif hon, ychydig iawn a fyddai ar ôl. Yn wir, mawr yw ein dyled i'n beirdd diweddar am ymserchu digon yn ffrwyth awen gwledydd eraill a chyfnodau eraill i ymdrechu i ail-greu ei geinder yn y Gymraeg. Yr wyf i'n bersonol yn ddiolchgar iawn fod T. Gwynn Jones wedi mynd ati i gyfieithu cymaint o ffrwyth awen y Gwyddyl i'r Gymraeg ac yn arbennig hoff o'i gyfieithiad o 'Pangur Bán':