Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwn o brofiad fel athro fod cyfieithiad fel hwn yn gwneud mwy o les ac yn rhoi mwy o gymorth i'r myfyriwr i werthfawrogi'r gwreiddiol na llawer o sgrifennu beirniadaeth lenyddol. Yr oeddwn ar fedr gwahaniaethu rhwng gwaith y beirdd a gwaith y lleill ymhlith y cyfieithwyr, ond erbyn meddwl prin y byddai neb yn y cyfnod diweddar yn mynd ati i drosi barddoniaeth heb deimlo ei fod ef ei hun yn rhyw gymaint o fardd. Serch hynny, y mae gwahaniaeth rhwng trosiadau'r rhai sy'n feirdd 'proffesiynol', megis, a throsiadau'r lleill. Rhannodd y golygydd y cyfieithiadau yn ôl iaith y gwreiddiol, e.e., ceir un trosiad o'r Hen Eiffteg, pedwar o Roeg Clasurol, un o Roeg Diweddar, etc. T. Gwynn Jones biau'r nifer mwyaf o gyfieithiadau. Un sydd gan Judith Maro (wedi ei chynorthwyo gan William Williams), ac y mae nifer o rai eraill na cheir mwy nag un enghraifft o'u gwaith (Dafydd Jones o Gaeo, Goronwy Owen, Lewis Edwards, J. Glyn Davies, etc.). Cynhwysodd y golygydd bedair enghraifft o'i waith ei hun, ac y mae pob un yn haeddu ei lle. J. E. CAERWYN WILLIAMS GLENNYS ROBERTS (gol.), Canu Oes William Morris (Gwasg Gwynedd, 1981). NID oes rhaid bod yn broffwyd i ragfynegi y caiff y gyfrol hon groeso brwd, oblegid y mae'n cynnwys, fel y dywed y teitl, ganu oes un o brif feirdd ein canrif, ac yn cynnwys hefyd, fel na ddywed hyd yn oed yr wynebddalen, draethawd golau iawn gan Mr. Derwyn Jones, Coleg Bangor. At hyn ceir braslun o fywgraffiad ar ffurf rhestr blynyddoedd yn rhoi prif ddigwyddiadau gyrfa'r bardd gan gynnwys dyddiad ei eni a dyddiad ei farw. Bydd y 'Bywgraffiad' yn werthfawr oblegid, er y bydd llawer o ddarllenwyr y gyfrol yn gallu dweud eu bod yn adnabod y bardd, prin bellach fydd y rhai sy'n gwybod manylion ei yrfa megis pa leoedd y bu'n gweinidogaethu ynddynt, pa bryd yr enillodd ei gadeiriau eisteddfodol, pa lyfrau a gyhoeddodd, a pha anrhydeddau a dderbyniodd, etc. Mae'n dda gennyf, gyda llaw, ei fod wedi derbyn gradd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1965. Un o'r rhai a oedd yn adnabod y Parchedig William Morris yn dda yw Mr. Derwyn Jones, ac y mae'r golygydd, merch Mr. Morris, i'w llongyfarch ei bod wedi bod yn ddigon hirben i'w wahodd ef i sgrifennu'r traethawd rhagarweiniol i'r farddoniaeth. Gallodd ef roi i ni ffrwyth ambell sgwrs a gafodd â'r bardd, e.e., 'Barnai William Morris fod yr awdl hon (sc 'Orpheus') yn rhagori cryn dipyn ar 'Ogof Arthur' Adrodd stori yn unig yr oedd yn honno meddai ef wrthyf, ond yr oedd mwy o feddwl ac o angerdd, a mwy ohono ef ei hun yn 'Orpheus'. Dywedodd wrthyf hefyd fod Gwenallt yn Y Mynach a'i Gath Y mae i Bangur wen a mi ein priod grefft, bob un,­ llygota yw ei helfen hi, a mi, fy mryd fy hun. Gwell gennyf i na phob rhyw glod â'm llyfryn fod ynglŷn, ac ni warafun Pangur ddim- gwell ganddi'i champ ei hun. Pan fyddom yma-peth di-boen— a dim ond ni ein dau, bydd gennym, er di-ddiwedd hoen, ryw fodd i'n digrifhau. Fe lŷn llygoden yn ei rhwyd, ar dro, drwy gyfrwys ddawn; a minnau, syrth i'm rhwyd ryw bwnc ag ystyr dyrys iawn. Try hi ei llygad at y mur, ac fel y tân y llysg; trof innau lygad clir, os gwan, yn erbyn pared dysg. Pan lyno wrth ei hewin hi lygoden, naid a rydd; o ddeall hoff a dyrys bwnc, mwynhad i minnau fydd. Cyd bðm ni felly bob rhyw bryd, ni byddwn anghytûn, bydd ddifyr i bob un ei gamp, bawb ar ei ben ei hun. Mae hi yn medru ar y gwaith a wna o ddydd i ddydd, a minnau wrthi'n ceisio dwyn i'r golwg bethau cudd.