Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi I GOFIO RICHARD GWYN (1557-84) AC ERAILL A'I DILYNODD (Llŷn,Awstl981) Ystyfnigrwydd bustachlyd a'i dug i'r brawdle yn ffair yr anifeiliaid, ynghyd ag ysbryd glynu wrth hen arferion, yn groglofft a channwyll, yn afrlladen a chyffes, yn wyrth offeren, a gweddïo tros y meirw. Yn Llanidloes, a Bodfel, a Phlas-du, aeth enwau'r dilynwyr cred yn un â'r briwddail. Pa werin, pa fân fonheddwyr sydd heddiw'n ymboeni am y presenoldeb real, ac Yntau heb ymbresenoli ers meityn ond yng nghalon ambell wreigan a ffolodd yn sgîl y Diwygiad, neu lencyn a welodd Grist yn sefyll mor ddigyflafareddiad rhwng dau bared du ei Feibl? Yn Llyn tawodd y duwdod, er bod yma ysbryd disgwyl, a'r brwyn wedi'u taenu'n barod ar eang loriau'r meysydd. GARETH ALBAN DAVIES