Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pa beth sy'n aros o'u diniweidrwydd, o'r apocryffa lletchwith a'r sôn sosialaidd am nef newydd a daear newydd yn y seiadau seciwlar? A gyrhaeddodd y breuddwydion ffyrnig i'w diwedd gweddus iasoer ynot ti? Yma, ychydig gamau o feddrod Wil Hopcyn, töwr a bardd, y claddwyd fy mamgu: yn yr un pridd ond o wahanol fyd. Ni fyddai gan wytnwch ei hymdrech ddarbodus am fyw ddim i'w ddweud wrth hen chwedlau ffôl. Mae'r llinynnau'n cwrdd yma, pererinion plygain a gosber, cyd-ymgynnull y saint yn y dyddiau peryglus, cyfeddach y Fedwen Fai a'r chwarae bando. Ynom ninnau mae'r cyffro yn hyfrydwch hiraethlon, y bererindod yn ddiogelwch ac yn her. ALUN PAGE