Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crefydda mewn llan a chapel: Cyflwr Gogledd Cymru yn y flwyddyn 1851 BEDAIR blynedd yn ôl ymddangosodd y gyfrol gyntaf o'r gwaith meistrolgar hwn ar Gyfrifiad Crefyddol 1851.' Cefais y fraint o'i hadolygu yn y cylchgrawn hwn ac ymhlith pethau eraill ysgrifennais, 'Gwyddys bod ail gyfrol ar siroedd y Gogledd yn yr arfaeth, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at ei chael hithau wrth law hefyd yng nghyflawnder yr amser.' Bellach, dyma'r ail gyfrol wedi'i chyhoeddi a llongyfarchwn y golygydd yn frwd ar gyflawni ohono ei orchwyl cyfrifol a llafurus o fewn llai na phedair blynedd i ymddangosiad y rhan flaenorol. Dyma eto drysor dihafal o wybodaeth fanwl ac unigryw am gyflwr crefydd yng Nghymru'r cyfnod, ac anodd yw gorganmol y golygydd am ei waith gorchestol na gorbwysleisio'n dyled iddo. Clod hefyd i'r Bwrdd Celtaidd am fod mor barod i gyhoeddi cyfrolau mor swmpus yn y dyddiau anodd hyn. Wrth droi tudalennau'r gyfrol newydd hon, ymddengys yn amlwg iawn, fel y buasid yn disgwyl, mai tebyg oedd cyflwr crefydd yn y Gogledd i'r hyn ydoedd yn y De ar yr un adeg. Yr argraff fwyaf trawiadol a roddir inni ydyw darlun o gynnydd eithriadol ar ran yr Ymneilltuwyr. Anaml y cyfeirir at dwf rhyfeddol y capelwyr fel y cyfryw ganddynt hwy eu hunain, er bod Robert Owen, blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nhalysarn yn ymfalchîo'n ddigon pendant, 'Sometimes our chappel is crowded and though it will hold more than 500 it is too small and we are now Building a new chappel much more spacious; all the sittings in the old been always let for quarterly Rent and enquiry for more' (td. 319). Anodd dros ben ydoedd i'r Eglwys Wladol ddal ei thir yn wyneb llwyddiant arbennig yr Anghydffurfwyr, a chyfaddefir hynny'n ddifloesgni gan ambell ohebydd. Wrth ateb dros blwyf Llandyrnogyn ardal Rhuthun, meddai'r curad James Jones, 'A large meeting-house is situated in the centre of the Parish where people from this and the adjacent parishes congregate, chiefly at night, which has a very demoralizing effect on the younger part of the population. Farm servants and labourers indifferent to the solemn services of the Church reserve themselves for the night meeting attracted by strange teachers and other equally unworthy circumstances' (td. 181). Barn Griffith Roberts, Rheithor Aelrhiw, oedd, 'but generally speaking the people of this parish are Dissenters most inimically disposed towards the Church' (td. 300); ac yn ei ateb dros blwyf Bryncroes meddai'r un gwr, 'This Parish abounds with Dissenters of every denomination who do all in their power to prevent people from going to Church, thereby acting in direct opposition to their own professed principle that every man should be allowed to go and worship God where he pleases' (td. 303). O berfedd Sir Fôn cafwyd ateb rhyfedd iawn oddi wrth ryw 'Wm. Edwards. R. Officer' i'r perwyl hwn: 'There is a Methodis (sic) Chapel very near and all the people of the neighbourhood going there The Church men in general would not filled up the schedules at the Census, then I could not get them to be send to your office' (td. 413). Eglur ddigon ydyw fod llawer o'r offeiriaid yn bur elyniaethus tuag at yr Anghydffurfwyr. Ceir mwy ohonynt yn y Gogledd na hyd yn oed yn y De yn