Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi Ieuan Fardd CYTUNIR yn gyffredinol fod Evan Evans (Ieuan Fardd, 1731-1788) yn ysgolhaig mawr, 'yr ysgolhaig Cymraeg mwyaf yn y ddeunawfed ganrif', meddai G. J. Williams (Agweddau ar Hanes Dysg Gymraeg, tt. 105-6). Cydnabyddir ei ddylanwad llenyddol yn hael gan Mr. Saunders Lewis, wrth ddisgrifio dosbarth 'y personiaid llengar': Y mae'n hen bryd cydnabod ei fawredd ef a phwysigrwydd hynod ei ddylanwad. Ef a ddug i lenyddiaeth Gymraeg gyn-ramantiaeth y ddeunawfed ganrif a'i gwisgo hi hefyd â'i phriod nodweddion Cymreig. Daeth y nodweddion hynny yn etifeddiaeth yr ysgol glerigol. Ef a gysylltodd yr efrydiau hynafiaethol a'r sêl dros hen lenyddiaeth Gymraeg â'r bardd gwlad a'r hen chwedlau gwlad a'r chwedleuwyr. Ef a wnaeth wlatgarwch Cymreig, ie cenedlaethol- deb Cymreig, yn rhan o dreftadaeth rhamantiaeth a'i dysg. Yr oedd ef yn perthyn i'r hen fywyd Cymreig Rhoes yn ei yrfa hefyd esiampl o fywyd nodweddiadol y rhamantydd eglwysig Cymreig, y curad crwydrol, aflwyddiannus, tlawd, yn cario drwy Gymru ac weithiau allan o Gymru ysgrepan ei ysgolheictod a'i ramant a'i ymchwil am y gorffennol mewn dyn neu femrwn neu furddun, a'i sêl fel lamp yn ei fron dros ei iaith a'i wlad. (Straeon Glasynys, t. xiii) Ni chredaf fod modd cytuno â phob gosodiad yn y paragraff ardderchog hwnnw, ond rhaid canolbwyntio ar ddau beth: yn gyntaf, y ffaith na cheir sôn o gwbl am farddoniaeth Ieuan Fardd fel y cyfryw; yn ail, y frawddeg sy'n dweud i Ieuan ddwyn i lenyddiaeth Gymraeg gyn-ramantiaeth y ddeunawfed ganrif. Roedd Mr. Saunders Lewis eisoes wedi mynegi barn ar farddoniaeth Ieuan: Evans' Welsh verse is mostly occasional. Poem after poem in memory of friends dead reminds us that he was the last of his circle and lived on into another generation of writers and antiquaries. Not much of his verse is intrinsically valuable, but he reflects the new influences which were leavening English literature in the second half of the 18th century, and through him entered into Welsh. (A School of Welsh Augustans, t. 129.) Yn ôl Mr. Lewis, felly, nid oes rhaid talu gormod o sylw i gerddi Ieuan. Rhaid chwilota am gopi ail-law o Gwaithy Parchedig Evan Evansl (Caernarfon, 1876) a olygwyd gan Daniel Silvan Evans.2 Argraffwyd tair cerdd gan Gwenallt yn Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif(Caerdydd, 1936), a gwelir yr englynion adnabyddus i Lys Ifor Hael mewn blodeugerddi eraill. Argraffodd Hugh Owen ddeg o gerddi Ieuan yn Additional Letters of the Morrises of Anglesey (Llundain, 1947, 1949), ond yr unig reswm am hynny oedd fod y cerddi ynghlwm wrth lythyrau Ieuan. Nid wyf am ruthro i'r eithaf arall i'r farn gyffredin, a honni fod Ieuan yn fardd mawr, gymaint â Goronwy Owen (a chredaf, yn nannedd Mr. Alan Llwyd, fod Goronwy yn fardd mawr). Efallai nad yw Mr. Saunders Lewis bellach yn cytuno â'i farn fel y'i dyfynnwyd uchod; yr hyn sy'n bwysig yw mai dyna'r farn gyffredin hyd heddiw. Ond yr wyf am ddadlau fod nifer o gerddi Ieuan yn haeddu mwy o sylw nag a gawsant gan feirniaid llenyddol diweddar. Am ddylanwad Ieuan ar lenyddiaeth Gymraeg, nid wyf yn sicr a oes modd i ni fod mor bendant. Gellir adnabod elfennau o gyn-ramantiaeth yn ei gerddi, bid siwr, ond credaf i'w ddylanwad hynafiaethol ac ysgolheigaidd fod yn gryfach ar ein llên na dylanwad yr elfennau rhamantaidd.