Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhag pob brad MAE'R ymadrodd Brad y Llyfrau Gleision yn un o'r enwocaf yn ein hanes. Mae'n ddigon adnabyddus i bawb fod adroddiadau'r comisiynwyr ar addysg yng Nghymru 1846-47 wedi eu cyhoeddi yn llyfrau gleision, fel sydd yn arferol i adroddiadau llywodraeth, a'u bod wedi eu difenwi gan Gymry gwlatgar y cyfnod yn yr helynt sy'n dwyn yr enw Brad y Llyfrau Gleision. Mae'n lled adnabyddus hefyd fod yr ymadrodd wedi ei seilio ar frad arall, ar chwedl o'r oesau tywyll yn dwyn yr enw Brad y Cyllyll Hirion. Barn David Owen 'Brutus' yn Yr Haul yr adeg honno oedd mai'r helynt a gododd ynghylch y Llyfrau Gleision hyn oedd yr helynt fwyaf a welwyd yng Nghymru erioed. Barn y diweddar Frank Price Jones am yr helynt oedd 'Dyma'r un digwyddiad mawr a ysgydwodd genedl gyfan i'w gwaelod, ac arwain i'r bywiogrwydd radicalaidd- wleidyddol anhygoel a gafwyd yn ystod ugain mlynedd olaf y ganrif, gan fegino tanau cenedlaetholdeb cynyddol'. Ond fe fyddai eraill yn gweld y Llyfrau Gleision fel trobwynt anffodus, fel y cam mwyaf at seisnigo'r genedl. Yr oedd llawer iawn o anghytuno ynghylch y Llyfrau ar y pryd, ac y mae llawer iawn o ddadlau hyd heddiw yn eu cylch, rhai yn pwysleisio'r wybodaeth ffeithiol a geir ynddynt, eraill yn eu pardduo am eu rhagfarnau gwrthgymreig. Nid wyf i yn arbenigwr ar y cyfnod nac ar faes addysg, a'r cyfan yr wyf i am ei wneud yn yr ysgrif hon yw tynnu sylw at un agwedd eithriadol a rhyfedd yn yr helynt, y modd y cafodd yr enw neu'r llys-enw 'Brad y Llyfrau Gleision' ac arwyddocâd hyn wrth geisio deall Cymru'r ganrif ddwethaf. Mae'n anodd dychmygu pwnc llosg heddiw yn cael ei lysenwi trwy gymhariaeth â digwyddiad yn yr oesau tywyll, er enghraifft, Refferendwm 1979. Dywedwyd fwy nag unwaith fod Cymry oes Victoria yn anwybodus ynglŷn â hanes Cymru, a'u bod yn fwy cyfarwydd â hanes Israel na hanes Cymru. Lled debyg fod hyn yn wir am ail hanner y 19 ganrif. Ond tybed a oedd yn wir am yr hanner cyntaf? Mae Mr. Saunders Lewis yn dyfynnu, yn ei ragymadrodd i Straeon Glasynys, sylw gan Glasynys fod yr oes wedi newid tua chanol y ganrif, fod y pwyslais ar hanes wedi diflannu, ac nad yw'r plant mwyach yn cael eu codi yn swn chwedlau a hen hanesion am eu cenedl. Mae Henry Richard yn ei draethodau ar Gymru yn 1866 yn dweud rhywbeth digon tebyg­-a’i bwyslais ef braidd yn wahanol, wrth gwrs-sef fod y Cymry yn ei ieuenctid ef yn dra hoff o hen hanesion a chwedlau am eu cenedl, storïau megis Brad y Cyllyll Hirion. Hyd at ganol y ganrif y mae'n rhaid fod y Cymry yn gyffredinol yn lled gyfarwydd â chwedlau eu hanes, oni bai am hynny ni fyddai'n bosibl i ddychanwr ddefnyddio chwedl fel y Cyllyll Hirion i fwrw gwawd am ben digwyddiad llosg nes bod Brad y Llyfrau Gleision yn troi'n ddihareb. Brad y Cyllyll Hirion Beth yn union oedd yr hen chwedl? Tua chanol y bumed ganrif roedd y Rhufeiniaid wedi ein gadael, a'r Sacsoniaid heb gyrraedd, ac o ganol y tryblith milwrol a gwleidyddol fe ddaeth Gwrtheyrn (Vortigern) yn arweinydd y