Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Simboliaeth Ffrangeg yn Gymraeg Y MAE'R Ffrancwyr yn hoff iawn o greu, neu ddarganfod, mudiadau llenydd- ol, llawer ohonynt yn fyrhoedlog, eraill, fel swrrealaeth a dirfodaeth, yn adlewyrchu tueddiadau gwirioneddol a pharhaol yn drwm eu dylanwad ar gelfyddyd y byd. Jean Moréas a fedyddiodd y 'mudiad simbolaidd' tua diwedd y bedwardd ganrif ar bymtheg. Os cyfyngwn ein sylw i'r rhai a arddelodd yr enw, digwyddiad dibwys yn hanes llenyddiaeth Ffrainc oedd Simboliaeth. Ond y mae'r term yn un hwylus i ddisgrifio rhai nodweddion pwysig barddoniaeth o ganol y ganrif ddiwethaf (gan ddechrau gyda Charles Baudelaire) hyd at flynyddoedd cynnar y ganrif hon (gyda beirdd fel Valéry a Claudel). O'i ddehongli felly nid mudiad pendant mohono, ac o ganlyniad cawn Euros Bowen yn cynnwys yn y gyfrol hon Paul Verlaine, a wadodd yn bendant ei fod yn Simbolydd ("Dyw'r gair ddim yn Ffrangeg!' meddai fe), a hefyd Jules Laforgue, y dywed Euros amdano: 'er mai ef yn ddiau yw bardd mwyaf y 'Mudiad Simbolaidd' rhwng 1886 a 1891, eto ni ellir ei alw'n Simbolydd Sefyllfa gymhleth, mae'n amlwg. Ac eto, er ei fod yn amwys, mae'r term 'Simboliaeth' yn ddefnyddiol, ac o'i ddehongli'n eang, gall daflu goleuni ar rai o feirdd mwyaf Ffrainc yn y cyfnod diweddar, heb sôn am ei ddylanwad ar y celfyddydau eraill, sef cerddoriaeth, y ddrama, ac arlunio. Prif ffynhonnell Simboliaeth oedd y bardd Americanaidd Edgar Allan Poe. Cyhoeddodd ef ddwy egwyddor: yn gyntaf mai creu harddwch oedd unig swydd y bardd, ac nad oedd arno ddim cyfrifoldeb moesol na chymdeithasol ar wahân i hynny. Yn ail, dylai barddoniaeth apelio at y dychymyg, nid at y meddwl na'r emosiynau: cyffroi'r dychymyg trwy ddefnyddio delweddau a sŵn geiriau oedd gwaith y bardd. Yr oedd yn gerddor mewn geiriau. Nid disgrifio na datgan nag esbonio'r byd materol oedd ei waith, ond rhoi cipolwg ar y Tragwyddol. Dyna'r egwyddorion a dderbyniodd Baudelaire gan Poe. Fel y digwyddodd, prentis yng nghelfyddyd barddoniaeth oedd Poe o'i gymharu â Baudelaire (y stori fer oedd priod faes yr Americanwr, ac yn y maes hwnnw yr oedd yn bencampwr) ac oni bai am athrylith Baudelaire, mae'n sicr na fyddai ei syniadau wedi cael y fath ddylanwad ar lenyddiaeth Ffrainc, ac, yn wir, ar farddoniaeth y byd gorllewinol. Dywedir yn ami mai Baudelaire yw tad barddoniaeth fodern, ac y mae gwir yn y gosodiad. Ond ei weledigaeth a'i grefftwaith, yn hytrach na'i syniadau, sy'n gyfrifol am hynny. Felly, er bod ei ddylanwad yn drwm ar y beirdd mawr a ddaeth ar ei ðl-Mallarmé, Rimbaud, Verlaine, Valéry, Claudel-y mae'n anodd dweud bod ganddynt i gyd yr un gredo lenyddol. Ond un peth a gawsant bron i gyd yn etifeddiaeth gan Baudelaire a Poe oedd syniadaeth uchel iawn am natur barddoniaeth. Yr oedd barddoniaeth yn grefft, ond hefyd yn grefydd, yn gyfrwng i ddyn godi uwchben cyfyngiadau'r byd materol. Yn y gyfrol hon y mae Euros Bowen wedi casglu at ei gilydd nifer o'i gyfieithiadau o waith wyth o'r beirdd hyn, ynglŷn â Rhagymadrodd yn trafod Beirdd Simbolaidd Ffrainc gan Euros Bowen. (Gwasg Prifysgol Cymru, 1980)