Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Karl Barth a phroblem rhyfel ER ei farwolaeth ym 1968 bu'r byd diwinyddol mewn penbleth ynglŷn ag union naturagwerthcyfraniadKarlBarth. Erbyn y chwedegau 'roedd 'Barthiaeth' fel ffenomen eisoes, i raddau helaeth, yn perthyn i'r gorffennol, ond Barth ei hun, er gwaethaf y cwbl, yn cael ei anrhydeddu fel un o dadau modern yr eglwys Gristionogol. Hyd yn oed os nad oedd Barthiaeth mewn bri a hithau wedi'i phwyso gan ddiwinyddion ceidwadol a radicalaidd fel ei gilydd a'i chael yn brin, ni allai neb ohonynt wadu dylanwad aruthrol y dyn a'i neges ar dwf a datblygiad meddwl Cristionogol yr ugeinfed ganrif. Erbyn hyn fodd bynnag mae arwyddion eglur o ymsymud yn y gwersyll, ac, yng ngeiriau'r Athro S. W. Sykes o Brifysgol Durham, 'mae'n gwbl amlwg ein bod yn sefyll ar drothwy cyfnod lle tafolir arwyddocâd Barth i ddiwinyddiaeth Gristionogol yn anhraethol drylwyrach nag a wnaethpwyd gan neb hyd yn hyn', gw. Karl Barth, Studies in his Theological Method, Rhydychen, 1979, t. 1. Yng ngoleuni'r datblygiad hwn, ac yn sgîl y pryder cyffredinol ynglŷn â phosibilrwydd rhyfel sy wedi nodweddu'r flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, tybiais y byddai cyfieithu'r llythyr isod nid yn unig yn tynnu sylw at farn y diwinydd ei hun ar bwnc rhyfel ond hefyd yn gymorth i Gristionogion Cymru ddatblygu eu priod ymateb eu hun i'r argyfwng sy'n bygwth diddymu bywyd ein planed yn derfynol. 'Roedd derbynnydd y llythyr, yr Athro Hiderobu Kuwada o Tokyo, wedi ymgysylltu â Barth gyntaf ym 1955 a thua diwedd 1962 ysgrifennodd ato drachefn yn amlinellu ei farn ef ar broblem heddwch ac ymateb y diwinydd iddi. Ceir yn ateb Karl Barth olwg ddiddorol ar ei safbwynt diwinyddol nodweddiadol yn ogystal ag ymdriniaeth ar y berthynas rhwng ffydd bersonol a gweithredu politicaidd a chymdeithasol. Cyfieithiad o gyfieithiad yw'r llythyr. Fe'i ceir yn y gyfrol Karl Barth, Letters 1961-1968, Geoffrey W. Bromiley (Cyf.), Caeredin, 1981, llythyr 74. 'Basel, 22 Ionawr 1963 Annwyl Gydweithiwr, Llawer o ddiolch am eich llythyr difrifol a diddorol. Gydag eglurder a llawenydd y cofiaf eich ymweliad â ni ac mae'n dda gennyf ymgysylltu â chi drachefn er mwyn cyfnewid barn yn y modd hwn. Os deallaf eich llythyr ynglŷn ag amodau heddwch yn iawn ni allaf ond mynegi fy nghytundeb llawen â sylwedd eich sylwadau. Os dymunwn sicrhau heddwch ar y ddaear mynnwch mai annigonol yw protestio yn erbyn rhyfel a pharatoadau ato, annigonol yw protestio yn erbyn rhyfel niwclear hyd yn oed, nac yn erbyn pob ffurf ar orgenedlaetholdeb, imperialaeth a chyfalafiaeth fel y gwneir gan gyfeillion heddwch a'u cefnogwyr adain-chwith yn Japan ac fel y gwneir mewn dull mor glodwiw gan gynifer o fudiadau heddwch ym mhob gwlad. Dewiswch chi yn hytrach ddeall a derbyn mai tasg wahanol ac arbennig a ymddiriedwyd i chi fel Cristion a diwinydd yn y symudiad tuag at heddwch. Cyfeiriwch at y rhesymau sylfaenol hynny sy'n creu