Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Caniadau i saint CEIR tair o'r caniadau hyn yn llyfr y Dr. Henry Lewis Hen Gerddi Crefyddol. Y maent yn perthyn i'r oesoedd canol, sef cyfnod y tywysogion. Adlewyrchir ynddynt syniadau diwinyddol y cyfnod a'r traddodiad niwlog am saint yr eglwys Geltaidd. Y mae'r iaith yn dywyll ac nid hawdd bob amser yw datgymalu'r brawddegau. Nid oes sicrwydd hefyd am gywirdeb y testun mewn mannau. Yn wir tueddir dyn i feddwl bod yr hen feirdd o fwriad yn tywyllu eu caniadau fel y drwgdybir cyfreithwyr heddiw wrth ysgrifennu deddfau a dogfennau. Y mae cân Cynddelw i Dysilio yn agor gydag annerch y Duwdod 'Duw dinac dinas tagneued'. Yna try'r gân yn foliant i'r sant a chydnabod ei achau brenhinol. Crybwyllir rhyw wyrth hynod a gyflawnodd, sef troi nifer o nadredd yn wiber braff. Gwyrth arall a gofnodir yn y gân yw tarddiad tewyn tanllyd o law'r sant; ond ni chofnodir un wyrth o iacháu cleifion. Canmolir y sant am ddiofryd gwragedd, ond y mae'r darlun a dynnir ohono'n dra militaraidd; 'Kedwis dreic dragon gynnadled'. Chwithig yn wir yw galw y sant yn ddraig, oherwydd nid oes hanes i saint Celtaidd y prif oesoedd ddefnyddio'r cleddyf i genhadu Cristionogaeth nac amddiffyn y ffydd trwy losgi hereticiaid. Dyrchefir clod Tysilio am sefyll gyda'r Brythoniaid mewn rhyw frwydr fawr a elwir yn 'Gweith Gogwy'. Ni ellir beio'r bardd am gymysgu'r hanes. Nid oedd ganddo ddim ond hen draddodiad i bwyso arno. Y mae'n debyg nad rhwng pobl Powys ac Oswallt y bu'r frwydr fel y crybwyllir yn y gân ond rhwng brenin paganaidd Mercia ac Oswallt a Northumbria a dderbyniasai gred a bedydd. Anodd barnu a gredai'r bardd i Dysilio ymladd yn y frwydr fel marchogion mynachaidd y deml yn y croesgadau neu ynte fel gweddïwr dros ei genedl a'i grefydd yn ôl siampl Moses yn erbyn Amalec. Ychydig o hanes y sant sydd ar glawr, ond ceir rhai eglwysi'n dwyn ei enw o lannau Menai yn y gogledd i'r terfyn rhwng siroedd Penfro a Chaerfyrddin yn y deau. Yn y gân hon cysylltir ei enw â Meifod ym Mhowys. Moliennir y clas eglwysig a'r adeiladau gwych gan grybwyll tyrau pigfain y llog­‘Berth y chlas a'e chyrn glas gloywhir'. Y mae'n bosibl fod serch y bardd at ei enedigol fro i'w glywed yn ei foliant- Breinhawc loc, leudir cyuannhed, Meiuot wen, nyt meiwyr a'e med. Edmygir gwychder yr adeiladau gan ddwyn ar gof y caerau yn Rhufain bell- Caer Rufein ryued olygawt, Caer uchel, uchaf y defawt. Nodir yn y gân hefyd nifer o eglwysi a sefydlwyd gan y sant, yn cynnwys Llan Bengwern a Llan Gamarch. Nid yw'r bardd yn ymatal rhag ei ganmol ei hun. Y mae'n perthyn i ddosbarth y pendefigion— 'Prydyt wyf rac Prydain dragon'. Y mae'r cyfeiriad yn hynod o dywyll. Anodd sicrhau hefyd pwy oedd y 'Glyw a'm ryt ragorueirch gleissyon'. Enwir yr archddiagon Caradog yn y llinellau dilynol, a molir yntau am ei roddion.