Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bryn Castell sef y bryn serth ger Llangollen yr adeiladwyd Castell Dinas Brân ar ei ben a 'Bryn Castell', cartref yr awdur, ar ei lechwedd. Gwelir dyled yr awdur i 'The Anathemata' gan David Jones O'r llwch y daw pob pen ac i'r llwch yr â yn ôl. Pedair miliwn o ganrifoedd cyn blwyddyn gyntaf yr Arglwydd-a phwy sy'n malio am yr ugain canrif arall-gwahaniaeth o bum gradd-faintioli sydd yno, noda'r gwyddonydd-y disgynnai'r llwch mân i ddyfnderoedd y môr Silwraidd, heb i neb sylwi, nid y Silwres hyd yn oed, oherwydd blwyddyn gyntaf yr Arglwydd oedd eu blwyddyn hwythau hefyd, un o flynyddoedd olaf eu rhyddid yng nghymoedd cysgodol Gwent, rhwng cyrchoedd Iwl Cesar, cynnil ei ymffrost, ac ymosodiad cyndyn Clawdiws a'i olynwyr call. Disgynnai'r llwch i'r agen gul rhwng y ddau gyfandir, Amerig ac Ewrob yn nesáu at ei gilydd yn symudiad diweddaraf eu dawns oesol ar dwmpath crwn y byd. Distaw ac araf y disgynnai, gronyn ar ôl gronyn mân, heb ddifwyno o ddifrif y dyfroedd disglair lIe bu farw'r graptolit olaf, ac y pydrodd ei fywyd brau. Carbohydrad, prodin a braster, trindod anhepgor bywyd, a rwygwyd tu mewn ei ysbrigyn astrus o galchfaen gan facteria rheibus yr eigion, i'w hailgreu yn ôl delw carbohydrad, prodin a braster y bacteria. Ond llyncwyd hwythau'r bacteria yn eu myrddiynau gan eu gelynion; mae pawb yn ysglyfaeth, pawb yn ysglyfaethwr: Ac, ym merw'r rhyfel creadigol, deorwyd y sgorpion cyntaf. A disgynnai'r llwch o hyd, a'r nentydd yn ei gludo o fynyddoedd a oedd yn glasu am y tro cyntaf dan luoedd gwyrddion y psilphyta, hynafiaid pob blewyn glas a phob pren planedig ar lan afonydd, yn anadlu, diolch i drefn Rhagluniaeth, y carbon deuocsid a godai o gnawd pwdr y graptolit ac o waed y sgorpion heini, ac yn estyn ocsigen yn ôl i'r sgorpion. Disgynnai'r llwch hyd*y llanwyd yr agen, wrth i'r gwaddodion gro a graean lithro i lawr estyll y cyfandiroedd, a boddwyd y llwch yn ddau-ddyblyg, a gwasgwyd a chaledwyd a chraswyd a thyndrowyd ef wrth i Amerig ac Ewrob gusanu. Y Pen glas sy'n teyrnasu A wisg, ar ei gorun, d9: Talaith o feini braslun O dalcen y Pen ei hun. Syll y Pen uwchben y dwr, Clustfeinia ar ei ddwndwr; Gwallt ei goed ar noson oer Yn crynu dan y wenlloer. Wyneb gwellt a guddia llen Y rhedyn rhag yr heulwen. O gylch y Pen fel gwybed Mintai flwng y brain a hed. Ar ei iad, yn gwrando brân, Dynion fel llaw sy'n cropian. 'A chyd lleddesynt, hwy laddasant'.