Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad GLYN JONES a JOHN ROWLANDS, Profìles .A visitors 'guide to writing in twentieth century Wales (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980). Tt. xxxii, 382. £ 9.95. CYFROL ddiymhongar yw hon, fel ei hawduron, ond y mae serch hynny'n llenwi bwlch amlwg ac yn gwneud hynny mewn dull hynod feistraidd. Yr hyn yr amcenir ei wneud ynddi yw darparu ar gyfer 'ymwelwyr' fraslun o hanes llenyddiaeth Cymru yn ystod y ganrif hon, boed y llenyddiaeth honno yn Gymraeg neu yn Saesneg. Y dull a fabwysiedir yw tynnu mân-bortreadau-rhyw bum neu chwe thudalen o ran hyd, gan amlaf-o'r prif lenorion, gan ychwanegu at bob portread ddyfyniad nodweddiadol ynghyd â llun (Ue y gellid cael un) a llyfryddiaeth fer. Dylwn ddweud hefyd na adewir yr 'ymwelydd' yn gwbl anwybodus am lenyddiaeth Cymru cyn y ganrif hon, oherwydd ceir Rhagymadrodd deunaw tudalen yn olrhain prifannau ei datblygiad. Afraid ychwanegu mai John Rowlands sy'n gofalu am yr awduron Cymraeg a Glyn Jones am y rhai Saesneg. Yn yr adran yn ymwneud â'r Gymraeg, rhoddir penodau cyfain i'r awduron canlynol: John Morris Jones, Thomas Gwynn Jones, W. J. Gruffydd, Robert Williams Parry, D. J. Williams, T. H. Parry-Williams, Kate Roberts, Saunders Lewis, AlunCilie, D. Gwenallt Jones, James Kitchener Davies, T. Rowland Hughes, Euros Bowen, John Gwilym Jones, Caradog Prichard, Waldo Williams, Pennar Davies, Alun Llywelyn-Williams, Huw Lloyd Edwards, Rhydwen Williams, W. S. Jones, Islwyn Ffowc Elis, T. Glynne Davies, Bobi Jones, Gwenlyn Parry, Gwyn Thomas, Jane Edwards ac Eigra Lewis Roberts. Yna, mewn un bennod hir dan y teitl 'Further Welsh Language Authors' ymdrinnir yn fras â deunaw a thrigain o awduron eraill na fernir eu bod yn haeddu pennod iddynt eu hunain. Dilynir yr un drefn gyda'r awduron Cymreig sy'n sgrifennu yn Saesneg. Caiff y canlynol benodau cyfain: Arthur Machen, W. H. Davies, John Cowper Powys, Caradoc Evans, Jack Jones, David Jones, Richard Hughes, Rhys Davies, Geraint Goodwin, Gwyn Williams, Idris Davies, Glyn Jones, Vernon Watkins, Gwyn Jones, Gwyn Thomas, R. S. Thomas, Dylan Thomas, Alun Lewis, Roland Mathias, Emyr Humphreys, Harri Webb, Ron Berry, T. H. Jones, Leslie Norris, Dannie Abse, John Ormond, Raymond Garlick, John Tripp, Alun Richards ac Anthony Conran. Ac mewn pennod atodol, 'Further Welsh Authors writing English', traethir yn frasach ar bymtheg a thrigain o awduron eraill. Manylais ar y cynnwys oherwydd fod y weithred o ddewis ar gyfer categorïau fel yr uchod ynddi ei hun yn act o feirniadaeth lenyddol. Ym marn Dr. Jones a Dr. Rowlands, yr awduron y cysegrwyd iddynt benodau cyfain yw awduron canonaidd llenyddiaeth Cymru'r ganrif hon. Yr wyf yn credu y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn cytuno â'r rhan fwyaf o lawer o'u rhestrau (mater arall, a mater dyrys iawn hefyd, yw sut y mae llenorian y rhestr Gymraeg yn cymharu â rhai'r rhestr Saesneg o ran safon). Eto y tebyg yw y byddai amryw ohonom yn dymuno symud ambell ffigur o'r penodau 'Further Authors' a rhoi iddo ei bennod ei hun; ac, i'r gwrthwyneb, yn gwarafun yr anrhydedd hwnnw i ambell un a gaiff bennod iddo'i hun. Efallai hefyd y synnem o weld peidio â chrybwyll ambell enw hyd yn oed yn y penodau 'Further Authors'-Dr. Rowlands ei hun, er enghraifft, sy'n ddiamau yn un o feistri cyfoes rhyddiaith Gymraeg, neu'r beirdd sylweddol hynny R. Meirion Roberts a Huw Llywelyn Williams (ac enwi dim ond dau). Wedi dweud hyn oll, fodd bynnag, gallwn fod yn siwr fod y ddau awdur wedi ystyried y cwestiwn hwn gyda'r gofal manylaf, ac y byddent yn fwy na pharod i amddiffyn eu dewis pe sialensid hwy! Ynglŷn ag ansawdd y traethu nid wyf yn gweld y gall fod dwy farn. Dyma ddau feirniad eithriadol wybodus, hydeiml ac aeddfed, ac y mae'n werth craffu ar bob gair a ddywedant am eu dewis awduron. Nid yw arddull Saesneg Dr. Rowlands lawn mor dryloyw â'i arddull Gymraeg-cwbl annheg fyddai disgwyl hynny-ond llwydda i fynegi'i feddwl yn gyson eglur a diddorol serch hynny; yn hyn o beth, wrth gwrs, y mae gan Dr. Jones fantais arno gan ei fod ef yn sgrifennu yn ei iaith lenyddol gyntaf (er mai'r Gymraeg oedd ei iaith lafar gyntaf). Gellir cymeradwyo'r gyfrol yn galonnog fel gwaith sy'n cyflawni'r cwbl y mae'n ei honni, a mwy. Ar un olwg fe ellir edrych arni fel tamaid i aros pryd y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru a baratoir dan nawdd yr academi Gymreig; ond pan gofir na all y Cydymaith fforddio i roi hyd yn oed i'r aruchelaf o'i awduron gymaint o ofod ag a ganiateir yma, fe welir fod i'r Profìles hyn werth safadwy ac arhosol. R. GERAINT GRUFFYDD