Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi NODIAD: Ymhlith beddrodau enwogion eraill yn Eglwys y Groes Santaidd yn Firenze (Fflorens) ceir beddrod o farmor du ac enw Dante (1265-1321) arno mewn llythrennau aur. Mae'r beddrod yn wag, oherwydd mae'r bardd wedi ei gladdu yn Ravenna, Ue y bu farw. Ganwyd Dante yn Firenze, ond alltudiwyd ef, ac am un mlynedd ar hugain bu'n crwydro o ddinas i ddinas. Bu Firenze yn awyddus i gael gweddillion ei mab enwog i'w claddu yno, ond nid yw wedi llwyddo yn ei chais. BEDDROD DANTE Mae arch wag, hybarch, a hynt ei dull yn farmor du yn aros yn Fflorens dan walbant y Groes Santaidd am hoe y mab na ddaeth o'i alltudiaeth yn dyst i'r ddinas, a'i hir ddoniau hi'n dir astud i dwristiaid. Dialedd ei dylwyth yn dedfrydu'r diedifar wawdydd i affwys uffern. Yntau, trodd i'w hynt draw, a'i dremyn a'i dramwy bellach a'u nod ar amgenach nef, a throed ni throes yn ei hiraeth, fel Orffews o herwa ei nwyd, i edrych yn ôl, nac eilio hynt fel gwraig Lot i'w ddwyn i ddinistr. Nid oes dychwel lle nad oes dichon rhodio ag anrhydedd. Ei fynor yn Ravenna am hir mwy, wedi'r tramwy draw a'r tremyn, yw tir astud twristiaid. Euros Bowen.