Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RICHARD WILSON Nac oes.— Ym Mhenegoes nawr cymylau a'u herwau llwyd sy'n camliwio'r lle. Ble y mae, dan blwm wybr, y troeau pleth gan y peintiwr o'r plwyf— y caeau, y llechweddau ac eglwys y llan, a'u hanfod yn ddigynfas? Aed oriau'r gelfyddyd i brofi dirgel foddau yn holl egwyl y llygaid i lwybr y daith, i labordy hen awch chwimwth y dychymyg yn naear glesnïau'r tirionwch mediteranaidd. Ni wad y cysgodion yno liwiau hoen y goleuni- claerni'r haul yn cloi rhin ei rwysg yn nrych y llwyni a rhychau llennyrch- oriau hir yr haul yn malu saffir ar y tir i lasu'r twf. Daw elw'n nwyd o'r Eidal yn ôl i lunio ei dirluniau, yn frwd ei ddelfrydedd yn troi Eryri hen yn Fediterania.