Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyneiddiaeth yn yr ieithoedd brodorol: delfrydau a damcaniaethau o'r Eidal HYD yn oed i arbenigwyr ar hanes a diwylliant yr Eidal bydd y geiriau dyneiddiaeth a dyneiddiwr yn debyg o awgrymu syniadau a delweddau pur amrywiol. Bathwyd y gair Lladin humanista tua diwedd y bymthegfed ganrif (a defnyddid y gair umanista mewn Eidaleg tua dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg) i ddisgrifio athro neu fyfyriwr a dreuliai ei amser yn ceisio meistroli'r studia humanitatis (gramadeg, rhethreg, barddoniaeth ac athroniaeth foesol). Fe astudid y pethau hyn drwy ddarllen a dadansoddi testunau clasurol. A chan ( mai Lladin oedd yr iaith a ddefnyddiai'r ysgolheigion hyn fynycha^ wrth eu gwaith, a chan mai ieithegol a thestunol oedd prif gyfraniad cryn nifer o'r dyneiddwyr i ysgolheictod clasurol, a hefyd gan eu bod yn ysgrifennu Lladin a oedd yn goeth iawn o'i gymharu â Lladin yr Oesoedd Canol, fe fydd llawer o hyd yn meddwl am ddyneiddiwr fel gwr a oedd yn anad dim yn athro gramadeg, hynny yw, yn athro Lladin, neu o leiaf yn awdurdod ar yr iaith honno. Ac os y trywydd hwn y bydd meddwl dyn yn ei ddilyn wrth chwilio am batrwm o ddyneiddiwr, y ddelwedd a ddaw iddo fydd delwedd o ysgolhaig fel Lorenzo Valla wrthi'n cyfansoddi llyfr fel ei Elegantiae latinae linguae. Mae'r enghraifft yn un eithaf teg o un math o ddyneiddiwr ac yn un hwylus iawn hefyd, oherwydd fe ellid ei defnyddio i gyferbynnu dysg gwr galluog iawn o'r Oesoedd Canol, fel Dante, ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg, â dysg un o ysgolheigion y Dadeni Dysg, Lorenzo Valla, yn hanner cyntaf y bymthegfed. Fel y gwyddoch, fe gredid yn gyffredinol yn yr Oesoedd Canol fod yr ymerawdwr Cystennin, ac yntau'n wahanglwyfus, wedi cael ei iacháu gan y Pab Sylvester, ei fod wedi cael tröedigaeth a'i fod wedi penderfynu trosglwyddo Rhufain a gweddill yr Eidal a thaleithiau eraill ac anrhydeddau lawer i'r Babaeth a symud prif ddinas yr ymerodraeth i Byzantium, a alwyd, oherwydd hynny, yn Gaergystennin. Sail y gred hon ac un o brif seiliau hawl yr Eglwys i fod yn allu tymhorol oedd y ddogfen yr honnid ei bod yn gofnod o'r hyn a wnaeth Cystennin, sef y Constitutum Constantini, dogfen a ffugiwyd, yn ôl pob tebyg, yn ystod yr wythfed ganrif yn y Babaeth. Bu gwaddol Cystennin yn destun gofid i Dante: yn ei dyb ef, llygrwyd yr Eglwys gan ei chyfoeth a chan drachwant y pabau: Ahi, Costantin, di quanto mal fu matre, non la conversion, ma quella dote che da te prese il primo ricco patre. Cystennin, och, y fath ffynhonnell aflan Fu, nid dy droedigaeth, ond y gwaddol A roist i'r pab goludog cynta'n gyfran. Ond nid amheuai Dante ddilysrwydd y ddogfen. Nid felly Lorenzo Valla: fe (Inferno, XIX, 115-7). (Cyf. D. Rees).