Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Agweddau pellach ar Gymreigrwydd Morgan Llwyd BU gwaith Morgan Llwyd yn faes llafur ffrwythlon i nifer o Gymry medrus y ganrif hon. Yn ystod y cyfnod hwnnw cynhyrchwyd astudiaeth ysgolheigaidd heb ei hail, astudiaeth feirniadol ddihafal ac amryw o erthyglau ardderchog. Fel y gellid disgwyl, lloffion yn unig sy'n weddill ar ôl y cynaeafu hwn. Bu cryn drafod dysgedig eisoes ar Forgan Llwyd y Cymro. Sylweddolwyd fod arno ddyled sylweddol i'r traddodiadau llenyddol Cymreig, a'i fod wedi talu'r ddyled honno ar ei chanfed yn ei gampweithiau. Sonia Syr Thomas Parry am "y Cymreigrwydd hwnnw a lynodd wrtho o'i faboed hyd ddiwedd ei oes, ac a barodd ei fod nid yn unig yn ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg, ond yn adnabod ei holl rinweddau a medru ei defnyddio gyda grym tra effeithiol." Priodolwyd hyn i "Gymreigrwydd gwiw Ardudwy", a bu gan W. J. Gruffydd lawer i'w ddweud am dafodiaith goeth yr ardal honno ac am fywiogrwydd ei diwylliant. Gwerthfawrogwyd, yn ogystal, gyfraniad mawr Morgan Llwyd at fywyd a hanes crefydd yng Nghymru, yn enwedig at ddatgblygiad y mudiadau Ymneilltuol. Efe a'i gyd-biwritaniaid yn ddiamau a fu'n bennaf gyfrifol fod "tân wedi enyn Ynghymru. Mae drws dy fforest di (o wlad y Bruttaniaid presennol) yn agored i'r eirias dân" (I, 237). A chymryd y wybodaeth hon yn fan cychwyn bydd y drafodaeth a ganlyn yn gadael y priffyrdd ac yn crwydro'r caeau er mwyn ennill ambell gipolwg o gyfeiriad gwahanol ar Forgan Llwyd y Cymro. I Darn byr allan o Lyfr y Tri Aderyn yw'r man cychwyn: "Ymma (medd rhai) y ganwyd Helen, a'i meb Constantin. Cymru medd eraill a ganfu America gyntaf. Bryttaniaid a safasant hyd angau dros y ffydd gywir. Y nhwy y mae Esay yn i galw ascell y ddayar" (I, 185). Yn y fan hon, fel y dengys Lewis Evans yn eglur, fe welir rhai o brif nodweddion Morgan Llwyd y Cymro. Yma, er enghraifft, mae'n arddangos ei allu i "fedru achau" yn null y beirdd, ac 'roedd "y wybodaeth hon yn rhan o falchder yr hen bendefigaeth Gymreig."3 O ddilyn y trywydd ymhellach arweinir ni i ganol cymhlethdod teimladau Morgan Llwyd am gymeriad y Cymry, ac yn syth at galon ei gymeriad Cymreig yntau. Ymdeimlwn â'r dynfa oddi mewn iddo ef ei hun. Oblegid fe'i rhannwyd yn ddwy: ei achau naturiol, Cymraeg, ar y naill law, ac ar y llaw arall yr achau ysbrydol a'i clymai mewn gwirionedd yn dynn wrth Loegr ac wrth Gymry Saesneg y gororau yn y De a'r Gogledd. Bron na ellir sôn felly am Forgan Llwyd Ardudwy ac am Morgan Lloyd Wrexham.4 "Parchedig oeddwn i erioed, am henafiaid hefyd (fel y mae'r Achau yn dangos:)" medd yr Eryr yn Llyfr y Tri Aderyn. Ond, etyb y Golomen, "nid yw Achau teuluoedd ond rhwyd a weuodd naturiaeth yn yr hon y mae pryfcoppyn balchder yn llechu. Nid wyti nes er dyfod o honot o dywysogion Cymru, onid wyti yn un o had Tywysog brenhinoedd y ddayar, wedi dy eni,