Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

20 A History of the Puritan Movement in Wales, 1639-53 (Caerdydd, 1920) 93. 21 L. C. Martin (gol.), Henry Vaughan, Poetry and Selected Prose (Llundain, 1963) 318. 22 Eithriad yw cymhariaeth fywiog W. Hobley o weithiau Thomas Vaughan a Morgan Llwyd yn ei lyfr deniadol Athrawiaeth Cyferbyniad (Caernarfon, 1925) 66. Gresyn na chyhoeddwyd astudiaeth Olwen Eluned Crawshaw, "The alchemical ideas of Thomas Vaughan and their relationship to the literary work of Henry Vaughan" (Thesis Ph.D., Abertawe, 1970). 23 Morgan Llwyd y Llenor (Caerdydd, 1954) 81. 24 Defnyddiaf A. E. Waite (gol.), The Works of Thomas Vaughan (Llundain, 1919). 25 Rhaid gwahaniaethu'n glir rhwng agwedd Vaughan ac agwedd Llwyd yn hyn o beth. Oherwydd ei gariad angerddol at fyd Natur ("that mysterious kiss of God and Nature") edrychai Vaughan ymlaen at weld y byd hwnnw yn cael ei arbed a'i adfer yn llwyr: "the Spirit of God in those sacred oracles seems not only to mind the restitution of man in particular but even the redemption of Nature in general" (Euphrates, 391). Ond wele bwyslais gwahanol Morgan Llwyd: "Y Gair. a barodd i'r ddaiar escor ar anifeiliaid, ac i'r môr ddwyn allan byscod, ac i naturiaeth ddwyn allan bob peth ar a oedd ynddi, ar ol ei ryw ei hun. Ond pan aeth ef i wneuthur dyn, ni pharodd ef i ddim ar a greasid mor escor. Ond, efe i hunan a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein llun an delw ein hun. Am hyn mae enaid dyn wedi dyfod o'r anfarwoldeb, ac yn myned i'r tragwyddoldeb" (I, 199). 26 Cyn gorffen dyfynnu gwaith Vaughan carwn dynnu sylw at ei ddefnydd telynegol ef o Stori Arch Noah, a fu'n gymaint o ffefryn gan Forgan Llwyd: "This truth-like the dove in the deluge-must hover in winds and tempests, overlook the surges and billows, and find no place for the sole of her foot. But the wise God provides for her: on all these waves and waters she hath a little bark to return to. Methinks I see her in the window all wet and weather-beaten" (Lumen de Lumine, 242). 27 Gw. J. J. Stoudt, Sunrise to Eternity (Philadelphia, 1957) 146-7, 154-5.