Skip navigation

Y Traethodydd

 - 

Cyf. CXXXVII (582-585) 1982

Ailystyried athrawiaeth y cwymp

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Ailystyried Athrawiaeth y Cwymp
PETH peryglus yw adeiladu athrawiaeth grefyddol ar sail stori sydd â'i
gwreiddiau mor bell yn ôl mewn hanes fel nad oes posib profi na gwrthbrofi ei
manylion. Mwy gwir hyn pan ddefnyddir y stori i esbonio rhai o wirioneddau
canolog y bywyd dynol, a hynny mewn ffordd sy'n newid cwrs bywyd
crefyddol a chymdeithasol rhan helaeth o boblogaeth y byd.
Dyna a ddigwyddodd pan gymerodd yr Eglwys Gristnogol stori Adda ac
Efa yng Ngardd Eden fel gwirionedd llythrennol.
Gwyddom erbyn hyn mai yn y chweched ganrif cyn Crist y cyfansoddwyd
llyfrau hanes yr Hen Destament, allan o hen gofnodion hanes y brenhinoedd, a
llawysgrifau am chwedlau cenedlaethol, a thraddodiadau llafar. Erbyn y
cyfnod hwnnw yr oedd dylanwadau estron wedi effeithio ar syniadau y
golygyddion­×yn enwedig y straeon Babylonaidd am greadigaeth y byd, a
chwedlau am Oes Euraid yn y gorffennol pell. Y dylanwadau hyn sydd i'w
canfod ar benodau cynnar Genesis, ac nid oes posib eu deall yn iawn o'u
cymryd yn llythrennol, sef fel disgrifiad cywir o'r hyn a ddigwyddodd yn
nyddiau bore'r byd a bywyd y ddynoliaeth.
Ond ni olyga hyn nad oes gwerth yn y penodau hynny­-ond mai gwerth
gwahanol sydd iddynt: nid gwerth hanesyddol, ond gwerth symbolig. Nid
hanes, ond 'myth' yw stori Adda ac Efa, a Gardd Eden, a'r hyn a
ddigwyddodd yn Genesis 2-4. Ceir yno ymgais i esbonio pynciau dyrys
megis-Sut y daeth drygioni i mewn i'r byd? Pam y mae'n rhaid i ddyn farw?
Pam y mae Duw a dyn wedi ymddieithrio? Yn ychwanegol at y cwestiynau
hynny yr oedd rhai eraill llai pwysig, ond diddorol, megis-Pam y mae dyn yn
gorfod llafurio mor galed i ennill bywoliaeth? Pam y mae'r fenyw yn dioddef
poenau wrth esgor ar blentyn, yn wahanol i'r anifeiliaid? Pam y mae'r neidr
mor elyniaethus i ddyn, ac mor wahanol i greaduriaid eraill?
Nid oedd ateb pendant i'r cwestiynau hyn-ond rhaid oedd mentro ar ryw
esboniad (dyna natur y meddwl dynol). A'r hyn a wnaeth dyn oedd creu
stori-fmythos', yn ôl y Groegiaid. A'r stori, y myth, a geisiodd ddehongli
cwestiynau 'drygioni' a 'marwolaeth' oedd yr hyn a geir yn hanes Gardd Eden
a'i ganlyniadau. Taflwyd dyn allan o'r Ardd; haeddodd farwolaeth am iddo
anufuddhau i orchymyn Duw a bwyta o ffrwyth 'pren gwybodaeth da a drwg'.
Trwy hyn fe gollodd freintiau'r Ardd i gyd. Pechodd yn erbyn Duw-fe
gwympodd. Ac am iddo ef gwympo, yn ôl y stori, y mae'r hil ddynol, pob
aelod ohoni yn ddi-eithriad, yn dioddef canlyniadau'r weithred, yn euog o'r un
bai, ac o dan yr un condemniad.
Dyna sylwedd yr athrawiaeth a ddatblygodd yn 'athrawiaeth y Cwymp' yn
yr Eglwys Gristnogol. Ac am fod yna anghysonderau yn y stori, credwn ei bod
yn amser i ni ei hail-ystyried.
Hyd y gwelaf, y ddau gwestiwn pwysicaf yn y stori yw, yn gyntaf, y
berthynas rhwng gwybodaeth a drygioni, ac yn ail, gallu dyn i ddewis, hynny
yw, rhyddid ewyllys.
Y mae llyfr Genesis yn sôn am ddwy goeden yn yr Ardd: sef 'pren y bywyd'
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.