Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(anfarwoldeb), a 'phren gwybodaeth da a drwg'. Yn rhan gyntaf yr hanes, yr ail bren yn unig a grybwyllir yn y gwaharddiad. 'A'r Arglwydd Dduw a orchmynnodd i'r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o'r ardd gan fwyta y gelli fwyta: ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta ohono; oblegid y dydd y bwytei di ohono, gan farw y byddi farw' (Gen. 2: 16, 17). (Nid yw neb yn sôn am yr anghysondeb sydd yn yr ysgrythur yma!) Ni wyddom a yw hyn yn fwriadol, ond y mae awgrym yn Gen. 3: 22 nad oedd ffrwyth pren y bywyd yn ddeniadol nes iddynt fwyta o bren gwybodaeth da a drwg. Y mae'n debyg na fuasent yn dychmygu'r fath gyflwr â marwolaeth, yn yr ystad baradwysaidd honno. Dyna pam y canolbwyntiodd y sarff, yn y stori, ar bren gwybodaeth, gan fod y posibiliadau sy'n dilyn gwybodaeth mor ddiddorol a thyngedfennol eu canlyniadau. Un elfen, a'r symlaf ohonynt, yw'r gred gyntefig fod gan y duwiau rai pethau neu alluoedd nad ydynt am i ddynion eu meddiannu. Er enghraifft, gan y duwiau yn unig yr oedd tân, ac nid oeddynt yn bwriadu i ddyn ei gael-hyd nes i Prometheus ei ladrata a'i ddwyn i lawr i'r ddaear. Felly, yn stori Genesis, dau o'r pethau yr oedd Duw yn berchen arnynt oedd anfarwoldeb a gwybodaeth, a'r ddau yn waharddedig i ddyn. Y gwahaniaeth mwyaf gwreiddiol rhwng Duw a dyn yw anfarwoldeb- bywyd diderfyn-a pha faint bynnag y dyhea dyn am ddileu marwolaeth, fe wyr heb unrhyw amheuaeth y daw terfyn ar ei einioes ac y mae wedi hen dderbyn y ffaith. Ond Gwybodaeth? Y mae hynny'n wahanol. A chymryd stori Gardd Eden fel y mae, fe gyfyd y cwestiwn-Beth oedd achos y gred nad oedd Duw am i ddyn fwyta o bren gwybodaeth? Yr ateb rhwyddaf, arwynebol, yw bod y gred yn adlewyrchu ofn cyntefig dyn o'r anweledig a'r anhysbys, ofn y 'newydd' a'r dieithr-ac yna ofn yr heretig a'r meddyliwr gwreiddiol, ofn y proffwyd a'r diwygiwr a'r dyn sy'n darganfod unrhyw beth sy'n tanseilio'r hen gyfundrefn. Nid yw'r agwedd ofnus hon yn ddieithr heddiw, gan fod llawer yn hiraethu am oes fwy diniwed, ac yn credu y byddai'r byd yn hapusach lle heb y cynnydd diweddar mewn gwyddoniaeth, a'r darganfyddiadau sydd wedi troi yn fygythiad i barhad yr hil ddynol ar y ddaear. Oni fuasai'n well, meddent, pe bai dyn heb erioed (yn nhermau myth Gardd Eden) fod wedi bwyta o bren gwybodaeth, ac wedi aros yn yr ystad o anwybodaeth a diniweidrwydd? Ond y mae'r myth yn mynd yn ddyfnach, trwy gyfeirio nid at wybodaeth yn unig, ond at wybodaeth o 'dda a drwg'. Y mae hyn yn ein harwain yn ôl at y gwaharddiad, a'r rheswm tu ôl iddo. Tybed a yw Duw, yn y stori, yn ofni y byddai gwybodaeth o dda a drwg yn arwain i berygl-perygl y gallai ddinistrio diniweidrwydd a bygwth llawenydd dyn? Os felly, ym mha fodd? 'Does bosib fod gwybodaeth ynddi ei hunan yn peryglu bywyd neu lawenydd? Efallai. Ond beth am 'wybodaeth o dda a drwg'? Y mae elfen ychwanegol yn hyn sy'n awgrymu 'gallu'. Os rhydd y math hwnnw o wybodaeth allu i ddyn, y mae ffactor newydd yn bresennol, ac y mae'r myth yn awr yn delio nid yn unig â gwybodaeth o dda a drwg, ond â'r gallu i wneud da a drwg. Yn awr y mae gennym well dealltwriaeth o 'demtasiwn' y sarff. Y pwnc yn