Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HYWEL D.LEWIS, Jesus in theFaith of Christians (Macmillan Press Ltd., 1981) tt. 114, £ 15.00. WRTH adolygu'r gyfrol ddiweddaraf hon o waith yr Athro Hywel D. Lewis, dylid dechrau efallai gyda gair o rybudd-ac yn wir o gysur yn wyneb pris brawychus cyfrol sy'n denau o ran ei maint er mor sylweddol yw o ran ei chynnwys-i'r darllenydd o Gymro sy'n ymddiddori yn y meysydd diwinyddol ac athronyddol y mae'r awdur yn gymaint meistr ynddynt. Cyn iddo ddechrau hel ei bunnoedd prin er mwyn pwrcasu'r gyfrol, cymered y cyfryw ddarllenydd gysur o ddarganfod bod rhannau helaeth ohoni eisoes yn ei feddiant, a hynny yn ei famiaith ac am bris llawer rhatach nag a ofynnir am y gyfrol Saesneg. Ddwy neu dair blynedd yn ôl cyhoeddodd Gwasg Gee am bumpunt gyfrol Gymraeg o waith yr Athro Lewis sydd bron ddwywaith cymaint (tt. 220 yn erbyn tt. 114) â'r hon a gynigia Gwasg Macmillan am bymtheg punt! Cynnwys y gyfrol Saesneg yw pedair darlith (y Darlithiau Laidlaw a draddodwyd yng Ngholeg Knox, Toronto, yn 1979) ynghyd â phedwar atodiad. Y gyntaf o'r darlithiau yw 'Religious Experience and Truth', sef fersiwn gwreiddiol yr anerchiad y ceir trosiad cyflawn Cymraeg ohono dan y teitl 'Profiad Crefyddol' fel ail bennod y gyfrol Pwy yw Iesu Grist? ac anerchiadau eraill (Gwasg Gee, Dinbych, 1979). Yr olaf o'r pedair darlith yw 'Christ and Other Faiths'; ymhelaethiad, a chyfieithiad wrth gwrs, yw hon o'r anerchiad a geir dan y pennawd 'Ein Ffydd a'r Genhadaeth' (op. cit. pennod 5; fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Y Traethodydd, cxxxiii, Gorffennaf 1978). Y mae'r awdur, gyda llaw, yn ei Ragair i'r gyfrol Saesneg (t. viii), yn cyfeirio at yr anerchiad Cymraeg hwnnw fel 'an address to the General Assembly of the Presbyterian Church of Wales' (yr adolygydd biau'r italeiddio), tra mae'r fynonellau Cymraeg yn priodoli'r anerchiad i'r Gymdeithasfa yn Leytonstone, Llundain; y mae adolygydd o Fethodist (Wesleaidd) yn fodlon ei gadael hi rhwng y Golygydd a'r awdur a'i gilydd parthed achlysur gwreiddiol y traethiad! Cymharol fyr yw tri o'r pedwar atodiad a gynhwysir yn y gyfrol Saesneg: 'Fiction and Spiritual Debility' yn erthygl fer a gyfrannwyd i The Times yn 1969; 'Interfaith Services' yn ddisgrifiad o bedwar profiad personol a gafodd yr awdur o wasanaethau IIe bu pobl o wahanol grefyddau yn cydaddoli; 'A Note on Professor Hick's Views' yn ymdrin â safbwynt yr Athro John Hick ym mhennod olaf y gyfrol a olygwyd ganddo, The Myth of God Incarnate. Y mae hynny'n gadael y ddwy ddarlith ganolog, 'Christology and Prevarication' a 'The Christ Event', a'r mwyaf sylweddol o'r pedwar atodiad, 'Christology Today' (darn o anerchiad a draddodwyd yn Rhydychen ac a gyhoeddwyd yn rhifyn y Gwanwyn 1973 o The Modern Free Churchman). Yn yr adrannau hyn yn bennaf y mae'r awdur yn cyflawni'r hyn a eilw ef ei hun yn brif amcan y gyfrol, sef 'atal ffurfiau mwyaf eithafol y duedd gyfoes i ddadfythu themâu canolog y Grefydd GristionogoP trwy 'ddethol ychydig o gefnogwyr amlycaf a medrusaf y safbwynt hwnnw a thrafod y rheini yn weddol fanwl yn hytrach na chynnig arolwg mwy cynhwysfawr' (Rhagair, t. vii). Er nad yw cynnwys y ddwy ddarlith ganolog fel y cyfryw ar gael mewn unrhyw ffynhonnell arall (dyna'r rheswm y bydd yr adolygiad hwn yn canolbwyntio arnynt hwy), gall y darllenydd Cymraeg a benderfynodd fod pymtheg punt yn ormod i'w dalu am ddwy ddarlith, hyd yn oed gan arbenigwr ac awdurdod o radd H.D.L., ymgysuro ymhellach yn yr wybodaeth fod ymateb yr awdur i dueddiadau Cristolegol mwyaf eithafol ein cyfnod, a'i safbwynt mwy cytbwys, uniongred a thraddodiadol ef ei hun, eisoes yn hysbys trwy'r ddwy bennod (3 a 4) a roes ei theitl i'r gyfrol Pwy yw Iesu Grist? Dichon mai prif neges yr adolygiad hwn, felly, i ddarllenwyr Y Traethodydd yw iddynt beidio â gwario eu punnoedd (yn wir eu pumpunnoedd!!) prin i bwrcasu'r gyfrol, ond gadael hynny i'r Saeson anffodus a'r Cymry di-Gymraeg (yn gosb megis am eu methiant i ddysgu'r famiaith!) na allant fanteisio ar y cyfraniadau amhrisiadwy a wnaeth Hywel Lewis-ynghanol ei holl brysurdeb a'r holl alw am ei wasanaeth fel darlithydd dros bum cyfandir-i efrydiau athronyddol a diwinyddol trwy gyfrwng ei famiaith ei hun. Petai'r adolygiad hwn yn cael ei ysgrifennu yn Saesneg, byddai'n annog ei ddarllenwyr-a dyma brawf o syniad uchel yr adolygydd o werth y gyfrol a'i edmygedd o'r awdur-i brynu'r gyfrol, er gwaethaf ei phris, a'i hastudio'n drylwyr. Ond am ddarllenwyr Y Traethodydd, 'rwy'n siwr na warafun yr awdur hynaws i'r adolygydd eu hannog hwy yn hytrach i wneud yn fawr o'r gwerth pumpunt anghyffredin o werthfawr a gawsant yn Pwy yw Iesu Grist?