Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MERFYN MORGAN, Gweithiau Oliver Thomas ac Evan Roberts. Dau Biwritan Cynnar. Golygwyd gyda Rhagymadrodd gan, (Gwasg Prifysgol Cymru, 1981), tt. xi-xxxiii, 3-315. Pris £ 19.95. DYMA gyfrol werthfawr a graenus sydd yn gyfraniad sylweddol iawn ar Biwritaniaeth gynnar yng Nghymru. Hwylus dros ben yw cael fel hyn mewn un gyfrol atgynhyrchiad diplomatig o weithiau'r ddau bregethwr Presbyteraidd Oliver Thomas (1598-1652) ac Evan Roberts, Llanbadarn Fawr (bu farw 1652), yn ogystal ag ymdriniaeth ragymadroddol gynhwysfawr ar eu bywyd a'u llafur llenyddol. Yn wir dichon fod yma borfa fras i haneswyr a llengarwyr fel ei gilydd i aros i gnoi cil arni. Yn y Rhagymadrodd y mae Mr. Morgan yn ein tywys i sylwi'n fanwl ar ymgais y pregethwyr Piwritanaidd cynnar hyn i efengylu yng Nghymru drwy gyfrwng gweithiau print yn Gymraeg. Dangosir yn eglur fod y rhyddiaith grefyddol hon wedi'i seilio ar athrawiaethau Beiblaidd, Calfinaidd a Diwygiedig y Presbyteriaid a'r Cynulleidfaolwyr yn Lloegr yn y cyfnod hwn a nodir hefyd pa mor nodweddiadol o rigolau mynegiant y Piwritaniaid Clasurol hyn oedd arddull y Cymry-arddull uniongyrchol a hynod ddiaddurn a gydredai i'r dim â'u pwyslais ar esbonio pynciau diwinyddol. Gwelir fod i'r gweithiau amcan ymarferol, sef hyfforddi'r teulu gartref ar yr aelwyd a'r gynulleidfa hithau yn yr eglwys, bid siwr, fel y gellid cynysgaeddu credinwyr a'r maeth ysbrydol a geid ym mêr yr esgyrn athrawiaethol. Ffurf y catecism syml ac eglur ei drefn rhesymegol oedd y cyfrwng dethol gogyfer â chyfrannu'r hyfforddiant deallol hwn. I goroni'r cwbl saif y gweithiau hyn yn dystiolaeth ddiymwad nodedig dros gredu nad cymeriad trwyadl Seisnig o bell, bell ffordd a nodweddai fudiad cenhadol trefnus y Piwritaniaid yng Nghymru. I'r gwrthwyneb, yn wir, canys fel yr oedd y mudiad newydd hwn yn cael ei draed dano yn raddol yn nhridegau'r XVII ganrif ac yna'n prifio'n gyflym yn ystod y degawd dilynol yr oedd y pregethwyr Piwritanaidd Cymreig, at ei gilydd, yn cydnabod-a hynny'n anochel hefyd-fod gofyn rhoi i'r Gymraeg safle anrhydeddus a swyddogaeth lenyddol bwriadus yn eu rhaglen gogyfer â cheisio efengylu yn effeithiol ymhlith eu cydwladwyr. Yn ddiau prin fod angen atgoffa neb rymused oedd huodledd Morgan Llwyd a Charles Edwards, dau o gewri Piwritanaidd mwyaf athrylithgar yr XVII ganrif yng Nghymru a Lloegr. Neilltuir corff y gyfrol i argraffiad diplomatig o weithiau'r ddau bregethwr ac argreffir hwy yn y drefn ganlynol gan Mr. Morgan: (i) Car-wr y Cymru yn anfon ychydig gymmorth 1630 (O.Th.) (ii) Car-wr y Cymru, yn annog eigenedl 1631 (O.Th.) (iii) Sail Crefydd Ghristnogol c. 1640 (cywaith rhwng O.Th. ac E.R.) (iv) Drych i Dri Math o Bobl c. 1647 (O.Th.) (v) Sail Crefydd Gristnogawl 1647 (E.R.) Syrth y Rhagymadrodd wedyn yn ddestlus i ddwy adran; y naill yn cyflwyno'n drefnus y ffeithiau am yrfaoedd y ddau bregethwr gan eu gwau ym mrodwaith eu cefndir mewn byd a betws, a'r llall yn ymdrin â'u gweithiau yn nhrefn eu cyhoeddi mewn cyfres o is-adrannau. (Gyda llaw, diddorol iawn yw awgrym cadarn Mr. Morgan y gallai mai mab-yng-nghyfraith i Oliver Thomas oedd Charles Edwards). Teflir ffrwd o oleuni ar y pregethwyr a phob un o'u gweithiau. I gychwyn rhoddir manylion llyfryddol amdanynt a hefyd amlinelliad o gynnwys pob cyfrol. Yna edrychir ar weithiau'r Piwritaniaid dros y ffin yn Lloegr a sylwi'n feirniadol ar ba gyfatebiaethau syniadol posibl sydd rhyngddynt a'r gweithiau Cymraeg. Gwelir mai cyfaddasiad i'r Gymraeg o gatecism enwog a dylanwadol iawn y Presbyteriad William Perkins, sef The Foundation of Christian Religion 1590, yw (v) uchod o eiddo Evan Roberts. Ymhellach mae (iii) uchod hefyd yn seiliedig ar gatecism Perkins yn ogystal ag ar A Short Treatise contayning the principalle Grounds of Christian Religion 1629, gan John Ball. Cymreigiwyd catecism Perkins gan Robert Holland cyn i fersiwn Evan Roberts ymddangos; ysywaeth, aeth gwaith Holland ar ddifancoll ac nid oes gopi o'i drosiad ef ar glawr a chadw mwyach. Serch hynny, ar sail ei ddadansoddiad manwl o nodweddion iaith sy'n gyffredin i drosiad Evan Roberts a Basilihon Doron Robert Holland honna Mr. Morgan nad yw'n annhebygol ddarfod i Roberts fanteisio ar gyfieithiad coll Robert Holland ac yn wir ei ddefnyddio fel sail i'w drosiad ef ei hun. Er mai gweithiau gwreiddiol yw (i) (ii) a (iv) uchod gan Oliver Thomas, myn Mr. Morgan fod yna gyfatebiaethau syniadol rhyngddynt a'r gweithiau