Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerdd MAEGENI. Mae gen i FlodynoGalilea Deilen o Gethsemane A channwyll o Galfaria Mi fetia i bod 'na floda Ynbobman Pan oedd Iesu'n prygethu; Blodaboblliwia A'r bobol yn methu 'i gweld nhw Gan ddagra Wrth wrando Ar eiria'r Gwynfyda. Amioedd'naddail Bychin bach ar y coed Yn siffrwd fin nos Yn Gethsemane'n fanno, Dail olewydd bach melfad Ar hen, hen goed Oedd yn glyma i gyd Uwch'ibenO. Onddoedd 'naddim cannwyll Ar Golgotha I ollwng dagra o wêr. Dim ond twllwch, A'r ddaear yn rhwygo, Yn sigo'n felltigedig o ddi-ddallt. Doedd 'naddimgolayno -Gola egwan cannwyll- Dim ond lleisia'n gweddïo. Gei di chwerthin, os lici di, Ond mae gen i flodyn o Galilea, Mae gen i ddeilen o Gethsemane A channwyll o Galfaria. A rwsut, mae'r rhain Yn dod ag Ynta'n nes ata i. NESTA WYN JONES