Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Bardd a'i Gynulleidfa NI ellir dechrau trafodaeth ar bwnc y bardd a'i gynulleidfa heb ystyried natur y ddolengydiolrhyngddynt, ywyrth ei hun. Hon, wedi'r cyfan, sy'n pennu natur y berthynas, oherwydd yn y modd y crëir y farddoniaeth, yr ymatebir iddi. Ond beth yw'r wyrth? Rhaid o leiaf geisio llunio ambell ddiffiniad cyn symud ymlaen. Yn gyntaf, y mae'r hyn a wyddom am darddiad y gymdeithas ddynol a datblygiad cynnar barddoniaeth ynddi yn awgrymu fod y gerdd yn ebychiad, yn air o fuddugoliaeth, o reg, neu o dristwch, yn wyneb y numen, neu yn wyneb yr ymdeimlad o dynged. Estyniad naturiol o'r teip hwn o ganu yw'r profiadau mwy cartrefol yn perthyn i'r gymuned, sy'n cael eu mynegi, er enghraifft, yn y traddodiad baledol. Ynail, yng ngwydd y numen y llefara'r oracl. Dyna paham y ceid perthynas agos rhwng swyddogaeth y bardd a'r magus, y swynwr, y derwydd, y vates, yfίli-ac onid oedd y gair olaf hwn o'r un gwreiddyn â gweled? Ynwir, sonnidyn Iwerddon am broses o "oleuo trwy gân", lle'r oedd y gerdd a'r proffwydoynun. Os dilynwn yr ymresymiad hwn gwelwn fod y gerdd ei hun yn fath ar swyn, yn ymdrech i greu'r ddolen a fydd yn rhychwantu'r gofod, neu i ddweud yr hyn sy'n ineffabile, y peth sydd tu hwnt i eiriau. Gair Duw, y Gair a wnaethpwyd yn gnawd: y mae'r ymadroddion hyn yn datgelu'r dirgelwch eithaf a geir yn yr act o lefaru. Niddamwain, felly, yw'r syniad am y tetragrammaton, y pedair llythyren sy'n symboleiddio enw Duw, ac yn mynegi'i bresenoldeb heb ei ddinoethi trwy ei enwi. A'r bwlch hwnnw rhwng y peth a'r enw arno, neu rhwng y gwrthrych a'r trosiad, sy'n rhoi i'r bardd swyddogaeth neilltuol y gweledydd. Dyna un rheswm paham na pheidiodd y bardd erioed â bod yn vates. Ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf yn Ffrainc maentumiai'r Symbolistes fod y bardd "yn gyfryngwr rhwng yr anweledig a'r gweledig goruwchnaturiol". Ef oedd yr un a fedrai droedio llwybrau'r "fforestydd symbolau" y cyfeiriodd Baudelaire atynt yn un o'i i gerddi enwocaf, Correspondances: Teml yw Natur a'i cholofnau byw a fydd Yn llefaru ar adegau mewn dryslyd iaith; Â dyn heibio trwy fforestydd simbolau i'w daith, A hwythau a threm gyfarwydd yn ei wylio sydd. 2 Eto i gyd rhaid peidio â meddwl taw disgrifiad neu ddiffiniad yn unig yw'r gerdd. Yn hytrach yn y geiriau y mae'r swyn, nid mewn rhyw gudd feddyliau, neu athroniaeth. Rhuthm geiriau, eu cydgysylltiad annatod, eu swn fel llawer o ddy f roedd— a r Gair, neu r geiriau, yn mynd o r glust i'r galon. Os ceir perthynas agos, felly, rhwng y gerdd a'r numen, a rhwng y bardd a'r proffwyd, ymddengys fod cynulleidfa ar ryw ystyr yn hanfodol, a bod i farddoniaeth swyddogaeth gyhoeddus. Ar gyfer cynulleidfa y proffwydai'r vates, ac yng Nghymru mynegai beirdd y darogan y breuddwydion a oedd ym meddyliau'r rhai a wrandawai arnynt: Mi a tystaf yn gyntaf am yr haf hir velyn a phob dyffryn yn llawn or grawn di newyn a goresgyn llydan gan yr hudol llwytwyn.'