Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

William Owen, Y Chwaen Wen (1762-1853) Bardd, LlenoracAmaethwr, YR OEDD dau o ddynion galluocaf Môn, onid yn wir ddau o wyr mwyaf deallus a diwylliedig y Methodistiaid Calfinaidd trwy Wynedd gyfan, yn flaenoriaid yn eglwys M.C. Ty'n-y-maen ym mlynyddoedd cynnar y ganrif o'r blaen.1 Un oedd Owen Williams, y Ty-hir (1774-1839), a wasanaethai hefyd fel codwr canu'r eglwys, ac sy'n fwy adnabyddus yn llenyddiaeth gerddorol y genedl fel 'Owen Williams o Fôn'. Ef oedd y gwr a roes i'r genedl un o'i chasgliadau tonau cyntaf, yn ogystal â'r llyfr safonol cyntaf i ddysgu elfennau cerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg, ac oherwydd hynny y mae'n ffigur pwysig iawn yn hanes canu cynulleidfaol Cymru. Y llall oedd William Owen, Y Chwaen Wen, awdur y pennill adnabyddus, 'O! dragwyddol iechydwriaeth', a gwr y mentraf ddweud y byddai ei enw yn adnabyddus iawn i'r genedl gyfan heddiw oni bai iddo 'syrthio i brofedigaeth a magl' (ys dywed John Thickens yn Emynau a'u Hawduriaid), ac i rai o aelodau blaenllaw y Methodistiaid Calfinaidd ym Môn ychydig dros ganrif a hanner yn ôl droi eu cefnau arno, pan oedd arno fwyaf o angen cyfeillgarwch a gair o gysur. Trwy gyfrwng yr ychydig sydd wedi cael ei ysgrifennu am William Owen mewn llyfrau megis Methodistiaeth Cymru (John Hughes) a Methodistiaeth Môn (John Pritchard), casglwn y byddai cyfarfodydd crefyddol yn ardal Ty'n-y-maen, Môn, cyn adeiladu capel yno ym 1800, yn cael eu cynnal yn rhai o ffermdai'r cylch, gan gynnwys y Chwaen-wen, cartref William Owen. I'r Chwaen-wen, am un ar ddeg o'r gloch pob bore dydd Gwener, cyrchai gwyr a gwragedd ar eu ceffylau o ddeg o blwyfi cylchynol i addoli, meddir, ac yr oedd yn arferiad gan William Owen gynorthwyo Edward Jones, Pendre, a John Jones, Bodynolwyn,-dau o brif bregethwyr yr ardal,-gynnal "society a oedd yn lle ofnadwy ac yn annioddefol i ragrithwyr neu ddyn annuwiol fod ynddi". Dros bedwar ugain mlynedd ar ôl codi capel Ty'n-y-maen, a phymtheng mlynedd ar hugain ar ôl marw William Owen, lluniodd John Pritchard yn ei Methodistiaeth Môn (t. 121) baragraff cofiadwy iawn am William Owen sy'n haeddu ein sylw. Meddai: William Owen, Chwaen wen, neu Gwilym Alaw, oedd lenor lled wych, ac ystyrid ef yn fardd. Fel gwladwr, cyfrifid ef yn ddyn gwybodus a defnyddiol. Fel crefyddwr, yr oedd yn dalentog, ac yn dduwinydd galluog. Byddai Charles o'r Bala yn gwneud sylw mawr o hono pan y deuai trwy y sir, ac yn gofyn cwestiynau iddo mewn cymdeithasfaoedd. Yr oedd wedi darllen llawer, a chyfansoddi ychydig o ddarnau bychain cymmeradwy. Yn eglwys Ty'n-y-maen y gweinyddai fel blaenor. Y mae yn wir ddrwg gennym ddywedyd i gymmylau duon ddyfod dros William Owen. Gorchfygwyd ef gan ddiod feddwol, a dyrysodd yn ei amgylchiadau bydol, y rhai a fu unwaith yn llwyddiannus. Yn Nghaergybi y treuliodd flynyddoedd diweddaf ei oes. Cofus genym ei weled yno pan oeddym yno yn yr ysgol, a'i fod yn dilyn y cyfarfodydd eglwysig; ond yr oedd yr eglwys yn gwrthod ei dderbyn yn gyflawn aelod, o herwydd ei fod yn gwrthod dyfod yn Uwyr-ymwrthodwr oddi wrth y diodydd meddwol, Mae'n amlwg y gwyddai'r Parchedig John Pritchard yn dda am William Owen, a'i fod yn teimlo y dylid cyhoeddi'r hyn a ystyriai ef oedd yn wir o'i