Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Argyfwng Ffydd D. Miall Edwards, 1916-1923 DA y dywedodd Pennar Davies' fod diwinyddiaeth y beirdd yn aml iawn yn fwy dylanwadol na diwinyddiaeth y diwinyddion proffesiynol ar ffurfio ein syniad am gyfnod arbennig. Ac nid oes well enghraifft o ddylanwad y beirdd ar feddylfryd y Gymru gyfoes na'r darlun camarweiniol o un ochrog a roddant i ni o erchylltra'r Rhyfel Mawr. Cawn Hedd Wyn yn galaru ar ôl y Deus absconditus 'ar goll ar orwel pell'; clywn Madog ddi-obaith T. Gwynn Jones yn mynnu gwybod 'Oni threngodd Duw?'; a darllenwn am T. H. Parry-Williams ym 1919 yn suddo 'mewn uffern ddigon dofn i fod yn nef'. Yr ensyniad trwy'r rhain i gyd yw fod dyn yn fwystfil anhydrin, bod Cristnogaeth wedi methu, a bod Duw bellach wedi'i alltudio o'i greadigaeth ef ei hun. Yn awr, nid wyf am honni nad yw'r beirdd hyn yn lleisio anobaith ac amheuon llawer un yn y cyfnod dan sylw; ond y maent ymhell o fod yn gwbl gynrychioliadol. Paham y tueddwn i ystyried y rhyfel fel ergyd drom i egwyddorion Cristnogaeth, gan anwybyddu bron yn gyfan gwbl yr ergyd drymach a gafodd hiwmanistiaeth gyda'i chred ddiysgog yng ngoruchafiaeth dyn! Yr oedd rhai dynion a ddaliai nad arwydd o annigonolrwydd Cristnogaeth oedd y rhyfel ond prawf o annigonolrwydd y byd heb Gristnogaeth; ac nid cred gwyr diniwed, arall fydol ydoedd chwaith. Chwalwyd diniweidrwydd yn deilchion ym mhob cwr o gymdeithas gan alanas y Somme a Passchendaele: ni chyfrifid y costau a godwyd ar yr Almaen yn bris teg am aberth y ffosydd-ac ni welai neb ond yr areithwyr mwyaf cibddall ogoniant yn y gwaed a gollwyd ynddynt. Ond ni chollwyd gobaith. Perygl arall yn ffiloreg sloganaidd y beirdd yw mai safiad hollol artiffisial ydyw: nid yw'n cyfleu dim o luosogrwydd ymateb dyn i'w amgylchiadau. Propaganda persain yw pob llinell. Pe bai'r beirdd yn gwirioneddol gredu hanner y pethau a ddywedant am gyflwr truenus dynol ryw, byddent wedi hen roi'r ffidil yn y to. Wedi'r cyfan, pa symbyliad sydd i weithgarwch creadigol mewn byd di-ddeall a di-Dduw? A beth am y diwinyddion? Oni theimlent hwythau'r un ing? Haera Tudur Jones na lwyddodd Miall Edwards i ddeall oblygiadau'r Rhyfel Mawr fel argyfwng ffydd ac â rhagddo i ddadlau mai gwag siarad yw'r holl sôn a geir ganddo am 'werthoedd' a 'delfrydau' y tu allan i'r cyd-destun hwn: 'Diau fod yng Nghymru ddirywiad delfrydau a llygru mawr ar werthoedd. Ond y peth oedd yn cael ei adael heb ei bwysleisio oedd bod ymdaro ffyrnig yn digwydd rhwng pobl a'u Duw.'2 Eithr credaf y gwelwn yn ysgrifau a nodion golygyddol Miall Edwards argyfwng ffydd tra phendant a fynegwyd nid yn gymaint yn nhermau gwrthryfel yn erbyn Duw ag fel ymdrech i ddysgu ymddiried o'r newydd yng ngallu dynion i weithredu ewyllys eu Tad. Pan ddechreuodd y rhyfel ym 1914 yr oedd Edwards yn un a deugain oed ac yn Brifathro Coleg Coffa Aberhonddu er 1909. Ym mis Ionawr 1916 derbyniodd wahoddiad i fynd yn olygydd y Dysgedydd lle y cychwynnodd golofn yn ymdrin â materion cyfoes, 'Oddiar y tŵr', a bair inni feddwl am wyliedydd Esaiah yn disgwyl am doriad y wawr. Yn wahanol i nifer o olygyddion papurau enwadol y cyfnod, ni syrthiodd Edwards i fagl jingoistiaeth ac nis ceir yn cyfeirio bys cyhuddgar at yr un wlad unigol am achosi'r rhyfel.