Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dwyn Teyrnas Dduw yn nes: hoffem gydnabod yn llawen a diolchgar fod y sawl a wasanaetho'n onest fuddiant uchaf ein cenedl a'r ddynoliaeth mewn unrhywgylch yn gwneuthur gwaith y Deyrnas, er i'r cylch hwnnw fod yn gwbl y tu allan i weithgarwch a threfniadau swyddogol yr eglwys. 14 Fel y daeth yr Eglwys yn fwy gweithredol ym mywyd cymdeithas, daeth y syniad o gymdeithas ei hun yn fwy canolog. Yr un oedd y cwestiwn cenhadol â'r cwestiwn cymdeithasol gan na ellid sôn am achub cymdeithas heb yn gyntaf efengyleiddio cymdeithas: 'Nid yw'r person unigol ar wahân i gymdeithas nac ychwaith cymdeithas ar wahân i bersonau unigol, ond dadansoddiad gwag a diystyr.' Nid ymgeleddu a swcro unigolion oedd swyddogaeth yr Eglwys, ond cymryd ei lle ochr yn ochr â'r mudiadau dyngarol eraill er mwyn sylweddoli Teyrnas Dduw. Pwysleisiodd Edwards, er hynny, y dylid edrych ar grefydd fel maen clo anhepgor i roddi ystyr a chanolbwynt i holl adeiladwaith ein bywyd. 'Tuedd crefydd yn y gorffennol, efallai, oedd bod yn rhy feudwyaidd a phell oddi wrth fywyd, aros ar ben mynydd y gweddnewidiad ac anghofio angen dyn a dyletswyddau bywyd yn y dyffryn islaw. Ond y perigl heddyw ydyw oedi yng nghynteddoedd allanol bywyd a cholli golwg ar y Seceina a ddisgleiria yn y cysegr nesaf i mewn. 15 Newid arall a ddaeth i'r amlwg ar ôl y rhyfel oedd diddordeb cynyddol Edwards mewn materion gwleidyddol. Cafodd y Deyrnas fynegiant trwy Gynghrair y Cenhedloedd, cenedlaetholdeb, y mudiad llafur a mudiadau addysg y gweithwyr. Llawenhaodd fod 'ysbryd efengylaidd' yn cyniwair trwy drafodaethau Cynhadledd Washington ar ddiarfogi yn niwedd 1921 a chroesawodd y newydd fod heddwch gydag anrhydedd wedi ei sicrhau rhwng Prydain ac Iwerddon, arwydd o 'fuddugoliaeth yr ysbryd cenedlaethol'.16 Y ffurf wleidyddol fwyaf cydnaws â'r delfryd o gymdeithas ac o Deyrnas Dduw a arddelai Edwards oedd democratiaeth ­neu werin-lywodraeth fel y galwai ef hi: 'Brenhiniaeth, pendefigaeth, gweriniaeth dyna brif gerrig milltir cynnydd gwleidyddol."7 Ond er mwyn i'r ffurf fod yn effeithiol rhaid oedd goleuo a chrefyddoli'r werin: Nid mater o drefniadau peiriannol yn bennaf yw'r weriniaeth y soniwn am dani; rhaid wrth y rhain, ond y mae' n rhaid wrth 'ysbryd y peth byw yn yr oIwynion" gwleidyddol, sef gwybodaeth a chydwybod a fo'n gwneuthur y werin yn gyfartal i'r cyfrifoldeb mawr a osodir arnynt. Gwn fy mod yma'n euog o ymresymu mewn cylch,-y mae'n rhaid wrth werin-lywodraeth er mwyn cael pobl oleuedig a chrefyddol, ac y mae'n rhaid wrth bobl oleuedig er mwyn cael gwerin-lywodraeth deilwng. Ond pa waeth? Troi mewn cylch y mae bywyd drwyddo draw; neu'n fwy cywir, cylchu math ar winding-stairs gan ddringo'n uwch (neu ddisgyn yn is) wrth droi.18 Cawn yma enghraifft odidog o'r math o ymresymu a bair i amryw ddibrisio athrawiaethau Miall Edwards fel cynifer o ebychiadau diffuant ond annealladwy; ac nid yw delwedd yr awdur yn helpu ei achos chwaith. Gwell, efallai, fyddai synio am dwf gwladwriaeth a Theyrnas Dduw fel dau ddatblygiad cyfochrog a chydgyfranogol yn yr un modd ag y bydd dau wyddonydd annibynnol yn yr un maes yn hwyluso ymchwiliadau ei gilydd trwy rannu profiadau a chymharu dulliau arbrofi. Cyfnod petrusgar ac ansicr oedd y cyfnod yn union wedi'r rhyfel, ac os oes hyder yng ngwaith Edwards, hyder amodol ydyw. Nid oes dim o'r optimistiaeth gyffredinol a nodwedda idealaeth T. H. Green, dyweder. Er gwaethaf pob