Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

enghreifftiau o waith athronyddol Kant ar ei orau, yn enwedig ei feirniadaeth o syniadau Descartes am natur yr hunan. Byrdwn beirniadaeth Kant yw bod Descartes yn ei ddadansoddiad o'r hunan yn datblygu casgliadau metaffisegol annilys, yn enwedig ynglyn ag anfarwoldeb yr enaid. Cyfyd dau gwestiwn. I ba raddau y mae Lewis yn canlyn neu yn gwahaniaethu oddi wrth syniadau Descartes, ac i ba raddau y mae ef yn osgoi'r math o feirniadaeth a ddatblygodd Kant ar ddadleuon Descartes? Yn fyr gellir crynhoi dadleuon Descartes i dri gosodiad: (1) mae'r enaid (neu'r hunan) yn sylwedd. (2) mae'r enaid yn sylwedd syml. (3) mae'r enaid yn anfarwol oherwydd ni ellir dinistrio sylwedd syml. Cyn cynnig sylwadau ar y tri gosodiad yma, dylid sôn am yr hyn a alwaf yn fan cychwn trafodaeth athronyddol ar osodiadau o'r fath. I mi, y mae athronwyr o Descartes i Kant, gan gynnwys Kant, a hefyd Locke, Berkeley a Hume, yn derbyn yr un man cychwyn. Fe alwaf hwn yn 'fan cychwyn Cartesaidd' Beth yw hwnnw? Bod dyn yn adnabod neu yn gwybod ei feddyliau a'i brofiadau meddyliol ei hun yn uniongyrchol a bod ei wybodaeth am bob peth arall-am fodolaeth y byd allanol, am fodolaeth personau eraill, am fodolaeth Duw,­·yn wybodaeth anuniongyrchol yn yr ystyr fod yr wybodaeth hon yn dibynnu ar ei wybodaeth uniongyrchol o'i brofiad meddyliol, ("mental states or experiences', chwedl Lewis). Dyma hefyd fan cychwyn Lewis. Yn yr ystyr hon, mae ef yn gwbl Gartesaidd. Hoffwn wneud dau sylw am y man cychwyn yma. Yn gyntaf, er bod Descartes a Kant ill dau yn ei dderbyn, o gychwyn o'r un fan maent yn gwahanu i droedio dau lwybr athronyddol gwahanol. I mi, ymddengys fod Lewis yn canlyn Descartes yn hytrach na Kant. Daw hyn yn glir ddigon o drafod natur yr hunan. O ddechrau gyda'r man cychwyn Cartesaidd, mae dadl enwog Descartes, y Cogito, yn golygu ei bod yn ddamcaniaethol bosib nad oes dim byd arall yn bodoli ond digwyddiadau neu brofiadau meddyliol un dyn neu un meddwl. Golyga hyn y gall yr hunan neu feddwl fodoli ar wahân i bob peth arall, gan gynnwys y byd allanol, personau eraill a hyd yn oed yn annibynnol ar y corff. P'le mae Kant yn sefyll? Golyga safbwynt Cartesaidd Kant ei bod hi yn ddamcaniaeth bosib dadansoddi'r syniad o wybodaeth am bethau a rhagetyb nad oes dim yn bodoli ond cyfres o brofiadau meddyliol un meddwl. Yn hyn o beth cytuna â Descartes. Ond dadleua Kant ymhellach nad yw'n bosibl i'r meddwl hwn ddarganfod y syniad o hunanymwybyddiaeth ond trwy gyferbynnu'r hunan â'r byd o'i amgylch. Golyga hyn fod Kant yn gwrthod casgliad dadl Descartes ei bod hi yn ddamcaniaethol bosib i un meddwl fodoli ar wahân i bob peth arall. B'le mae Lewis yn sefyll? Er ei fod ef yn dweud ei fod yn derbyn awgrym Kant nad oes modd datblygu'r syniad o hunanymwybyddiaeth ond trwy wrthgyferbynnu'r hunan â'r byd allanol, eto mae Lewis yn mynnu y gall yr enaid neu'r hunan fodoli yn hollol ar wahân i'r corff a hyd yn oed i'r byd allanol materol. Mae'r syniad y gall yr hunan neu'r enaid fodoli ar ei ben ei hun yn gwbl annibynnol ar y corff neu'r byd materol yn un o'r casgliadau