Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Datblygiad Comedi Groeg a Rhufain a'i Dylanwad NIWLOG hyd yn oed i'r Groegiaid ydoedd hanes geni a blynyddoedd cynnar comedi. Nid oeddent hwy eu hunain yn sicr o bell ffordd o darddiad y gair /cômôidia. 'Roedd ystyr yr elfen olaf yn eitha clir, sef ôidê 'cân', ond beth am y dechrau? Mynnai rhai ei gysylltu â'r gair kômos 'cyfeddach, rhialtwch pobl feddw', tra cysylltai eraill ef â'r gair kôme 'pentref'. Tueddai'r beirniad llenyddol Aristoteles tuag at yr esboniad cyntaf, a gwyddom wrth gwrs i gomedi fel trasiedi fod yn gysylltiedig ag addoliad y duw Dionysus, duw ffrwythlondeb a duw gwin. Syniad od i ni yw clodfori Dionysus â miri a diota— mae'n haddoliad ni'n fwy tawel a pharchus-ond dylem gofio mai peth dymunol oedd bod yn feddw yn yr hen fyd a chael teimlo dylanwad y duw Dionysus yn cynhesu'r addolwr. Mae'r Sais yn sôn am 'religious enthusiasm'. Dyna'n union ystyr 'enthusiasm', sef en theos 'duw oddi mewn'. Dywaid Aristoteles ymhellach mai y Doriaid, pobl a drigai gerllaw geneufor Corinth, a oedd y rhai cyntaf ymhlith y Groegiaid i ddarganfod comedi a phortreadu golygfeydd doniol ar batrwm bywyd pob dydd. A chan fod gan y Doriaid hyn drefedigaethau ar ynys Sisili, cawn hanes un Epicharmus o'r ynys honno yn gwneud enw iddo'i hun yn y chweched a'r bumed ganrif C.C. fel sgrifennwr comedïau. Serch hynny, rhaid ydoedd disgwyl hyd ddiwedd y bumed ganrif C.C. cyn gweld llawn dwf comedi, a hynny yn Athen. Dyna gyfnod 'Yr Hen Gomedi', a'r mwyaf ymhlith dramodwyr Yr Hen Gomedi ydoedd Aristophanes (c.450-c.385). Fe sgrifennodd ef lawer iawn o ddramâu ond rhyw un ar ddeg ohonynt yn unig sydd ar gael heddiw. Dyn o athrylith anghyffredin oedd Aristophanes, bardd gwych, meistr ar greu ffars a meistr hefyd ar ddychanu deifiol a chignoeth. Meddai ar ddychymyg eithriadol o fyw­-meddyliwch am enwau trawiadol rhai o'i ddramâu: 'Y Cymylau', 'Y Llyffantod', 'Y Cacwn', 'Yr Adar'. 'Roedd wrth ei fodd yn gwisgo'r côr, a oedd mor bwysig yng nghynllun ei ddramâu, i ymddangos fel adar neu'n gyrru un o'i gymeriadau i fyny i'r nefoedd ar gefn chwilen. Ymhyfrydai yn yr anweddus a daliodd ar bob cyfle i beri chwerthin. Ond mae rhywbeth mwy na hyn yn nramâu Aristophanes. Mae yma hefyd feirniadaeth lem ar Athen ei ddydd pan oedd yr haul yn mynd i lawr ar ei gogoniant yn sgîl y rhyfel mawr a hir yn erbyn Sbarta (431-404). Gwasgai'r rhyfel holl adnoddau Athen, ac nid rhyfedd i'r dramodydd sgrifennu nifer o ddramâu ar destun heddwch. 'roedd ef yn un o'r ychydig iawn o bobl a sylweddolai ffolineb yr ymladd a beth fyddai'r canlyniadau i Athen. Testun ei feirniadaeth gan amlaf oedd gwleidyddion anghyfrifol Athen- rhai fel Cleon a Hyperbolus, a fynnai hunan-les yn hytrach na lles y ddinas. Nid gwleidyddion yn unig a ddeuai dan ei lach ond beirdd ac athronwyr hefyd-rhai fel Euripides a Socrates, a goleddai syniadau newydd a pheryglus, gan danseilio undod Athen mewn argyfwng rhyfel. A rhyfeddwn at y rhyddid